Nôl i Adref

Geirfa

Cam-drin
Mae hyn yn disgrifio cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae'n cynnwys cam-drin sy'n digwydd mewn unrhyw leoliad, p'un ai mewn annedd preifat, sefydliad neu unrhyw le arall).
Cynhadledd Amddiffyn Oedolion
Mae'r gynhadledd amddiffyn oedolion yn gyfarfod amlasiantaethol sy'n cynnwys yr oedolyn unigol sydd mewn perygl, ei eiriolwr ac eraill perthnasol, fel sy'n briodol. Dylai cynhadledd gefnogi a chael ei llywio cymaint â phosibl gan yr oedolyn sydd mewn perygl.
Oedolyn mewn perygl
Yn disgrifio unrhyw un dros 18 oed sy'n profi neu sydd mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio), ac o ganlyniad i'r anghenion hynny yn methu amddiffyn ei hun yn erbyn y cam-drin neu'r esgeulustod neu'r risg ohono. (A 126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014)
Eiriolaeth
Diffiniad eiriolaeth yw unrhyw gamau sy’n cefnogi ac yn cynrychioli llais y plentyn neu’r oedolyn sy’n wynebu risg gan sicrhau y cynhelir eu hawliau a bod barn a phrofiadau’r plentyn neu’r oedolyn sy’n wynebu risg yn cael eu clywed a’u parchu.
Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (GDChOau)
Nod GDChO yw galluogi oedolion sy’n wynebu risg i fynegi eu barn yn annibynnol. Dylid ceisio’r rhai yn anaml ar ôl i ddulliau llai ymyraethol gael eu hystyried a/neu eu trio. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau pan fydd ymarferydd y gwasanaethau cymdeithasol, neu ymarferydd arall sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod lleol, yn cael ei atal rhag siarad â’r oedolyn yr amheuir ei fod yn wynebu risg oherwydd cam-drin neu esgeuluso neu fod ymarferydd yn amau y gallai’r oedolyn fod yn cael ei orfodi neu ei fygwth i beidio â siarad â’r ymarferydd, gall yr awdurdod lleol wneud cais am GDChO.
Fframwaith Asesu - gweler y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant a’u Teuluoedd
Mae’r Fframwaith Asesu’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd yng Nghymru i asesu plant ag anghenion gofal a chymorth a’r rheini ag anghenion amddiffyn gofal a chymorth. Mae’r Fframwaith yn cynnwys tri pharth: anghenion datblygiadol plentyn; gallu rhieni a ffactorau teuluol ac amgylcheddol. Mae pob parth wedi’i rannu’n ddimensiynau sy’n feysydd y dylid eu hystyried ar gyfer pob maes.
Swyddog Awdurdodedig
Mae swyddog awdurdodedig yn gyflogai i’r awdurdod lleol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ac y mae’n ofynnol iddo gadw ei sgiliau yn gyfredol. Ei gyfrifoldeb ef yw pennu a yw person yn gwneud penderfyniadau’n rhydd i bennu a yw’r person yn oedolyn sy’n wynebu risg ac i benderfynu, yn ôl gofynion a. 126(2) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 pa gamau y dylid eu cymryd, os o gwbl.
Trafodaeth/cyfarfod strategaeth ar gyfer oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin ac esgeulus
Dyma’r cynllun a ddatblygir gan y grŵp strategaeth. Nod y cynllun amddiffyn gofal a chymorth yw dileu neu leihau’r risg o gamdriniaeth neu esgeulustod. Dylai’r cynllun gynnwys holl elfennau cynllun sy’n ofynnol dan Ran 4, a19 neu 24, Deddf 2014 ond hefyd bwysleisio gwaith amddiffyn neu reoli risg i gefnogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
Cydlynydd Cynllun Amddiffyn Diogelu Gofal a Chymorth
Dylid sicrhau bod gan bob plentyn sydd ar y gofrestr amddiffyn plant Gydlynydd Cynllun Amddiffyn Gofal a Chymorth. Hwn fydd y gweithiwr cymdeithasol a enwebir y mae cyfrifoldeb ymarferydd ganddo dros yr achos. Mae’n rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol fod yn gyflogedig gyda Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a bod â’r cymwysterau, yr hyfforddiant a’r profiad priodol er mwyn cyflawni rôl y cydlynydd cynllun gofal a chymorth. Bydd yn gyfrifol am baratoi, cwblhau, adolygu, cyflawni ac addasu’r cynllun. Dylai ymgysylltu â’r plentyn yn rhagweithiol.
Cynllun diogelu gofal a chymorth ar gyfer plant
Dan a37 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 mae’n rhaid i Awdurdod Lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn er mwyn ei amddiffyn rhag: cael ei gam-drin neu ei esgeuluso; niwed arall; risg o niwed. Gelwir manylion y camau gweithredu sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y plentyn yn gynlluniau diogelu gofal a chymorth.
Categorïau risg o niwed
Categorïau risg o niwed Dylid gwneud penderfyniad mewn cynhadledd o ran p’un ai a yw pob plentyn a ystyrir yn wynebu risg barhaus o niwed sylweddol. Os mai dyma’r achos dylai’r ymarferwyr yn y gynhadledd amddiffyn plant bennu a chofnodi risg o gam-drin, esgeuluso neu niwed parhaus sydd o dan un neu fwy o’r categorïau canlynol:
  • corfforol;
  • emosiynol neu seicolegol;
  • rhywiol;
  • ariannol; neu
  • esgeulustod
Bydd y categori, neu gyfuniad o gategorïau, a ddefnyddir wrth gofrestru yn dynodi’r pryderon elfennol ar adeg cofrestru i’r rhai sy’n defnyddio’r gofrestr.
Plentyn
Unigolyn dan 18 mlwydd oed.
Gorchymyn Asesu Plentyn
Gellir defnyddio Gorchymyn Asesu Plentyn os yw’r rhieni yn parhau i wrthod mynediad at y plentyn er mwyn sefydlu ffeithiau sylfaenol am gyflwr y plentyn, ond nad yw’r pryderon am ddiogelwch y plentyn mor argyfyngus fel bod galw am Orchymyn Amddiffyn Brys. Mae’r Gorchymyn yn galluogi’r Llys i gyfarwyddo’r rhieni i gydweithio ag asesiad, y bydd ei fanylion yn fanwl, ond nid yw’n caniatáu i’r plentyn gael ei symud o’r cartref. Nid yw’r Gorchymyn yn tynnu hawl y plentyn i wrthod asesiad oddi arno. Dylid rhoi gwybod i’r rhieni am y camau cyfreithiol y gellid eu defnyddio.
Ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
Golyga hyn ganolbwyntio ar y plentyn yn ystod pob cam o’r broses ddiogelu. Cyflawnir hyn drwy ganolbwyntio ar anghenion a barn y plentyn drwy wrando ar yr hyn sydd ganddo i’w ddweud, gan roi gwybod iddo am y broses a’i gynnwys ynddi, yn ogystal â rhoi sylw dyledus i’w ddymuniadau wrth benderfynu pa wasanaethau sy’n ofynnol er mwyn diwallu ei anghenion. Dylid cynnig eiriolwr (gweler diffiniad o eiriolaeth) i blant sy’n ifanc iawn, sydd â phroblemau iechyd meddwl, nam cyfathrebu, anableddau dysgu neu sy’n dymuno cael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo.
Camfanteisio’n Droseddol ar Blant (CTaB)
Mae hyn yn digwydd pan fo plentyn dan 18 oed yn cael ei gynnwys mewn gweithgareddau troseddol gan gynnwys cludo cyffuriau neu arian sy’n arwain at enillion personol ar gyfer unigolyn, grŵp neu gang troseddol cyfundrefnol. Mae’n cynnwys elfen o gyfnewid a gall fod yn gamfanteisio hyd yn oed os yw’r gweithgaredd yn ymddangos yn gydsyniol. Mae CTaB yn cynnwys dulliau gorfodi a/neu ddenu i gydymffurfio a bydd yn aml yn mynd law yn llaw â bygythiadau o drais. Mae’n cael ei nodweddu gan ryw ffurf ar anghydbwysedd pŵer sy’n ffafrio’r rheiny sy’n camfanteisio.
Plentyn sy’n wynebu risg
Mae hyn yn disgrifio unigolyn dan 18 oed sy’n cael neu sy’n wynebu risg o gam-drin, esgeuluso neu ffurfiau eraill ar niwed; ac y mae ganddo anghenion gofal a chymorth (p’un ai a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio). Pan geir adroddiad am blentyn dan adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, bydd yr awdurdod lleol yn gwneud neu’n sicrhau y gwneir yr ymholiadau hynny a ystyrir yn angenrheidiol i’w galluogi i benderfynu a ddylent gymryd camau i ddiogelu neu hyrwyddo lles y plentyn dan adran 47, Deddf Plant (1989).
Esgeuluso Plant
Ystyr esgeuluso plant yw methiant ar ran naill ai’r gofalwr gwrywaidd neu’r gofalwr benywaidd neu fam feichiog i gyflawni’r tasgau rhianta sy’n ofynnol i sicrhau y diwallir anghenion datblygu’r plentyn. Gall y methiant hwn fod yn gysylltiedig â phroblemau rhianta megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Dylid gwahaniaethu rhwng esgeulustod a thlodi – mae esgeulustod yn digwydd er bod adnoddau rhesymol ar gael i alluogi’r gofalwr i gwblhau’r tasgau rhianta i safon digon da. Er bod esgeulustod yn debygol o fod yn barhaus ac achosi niwed cronnus gall digwyddiadau untro ac esgeulustod achlysurol effeithio ar iechyd a datblygiad y plentyn. Ceir amrywiaeth o ymddygiadau rhianta y gellir eu galw’n esgeulustod: Esgeulustod meddygol: methiant i geisio a darparu gofal meddygol, deintyddol ac optegol priodol Esgeulustod maethu: yn digwydd pan fo’r gofalwr yn methu â rhoi digon o sylw i ddeiet y plentyn a all droi’n ordew neu fethu tyfu. Esgeulustod goruchwyliol: yn digwydd pan fo’r gofalwr yn methu â darparu arweiniad a goruchwyliaeth sy’n sicrhau bod y plentyn yn ddiogel ac wedi ei amddiffyn rhag niwed. Esgeulustod yn ymwneud ag addysg: mae’n cynnwys mwy na sicrhau presenoldeb yn yr ysgol, mae’n cynnwys methiant ar ran y gofalwr i ddarparu amgylchedd sy’n galluogi’r plentyn i gyrraedd ei botensial gwybyddol. Esgeulustod corfforol: mae’n digwydd pan nad yw’r plentyn yn cael gofal corfforol priodol sy’n angenrheidiol ar gyfer ei oedran a’i ddatblygiad a/neu pan fo’r plentyn yn byw mewn amgylchedd ffisegol nad yw’n fanteisiol i’w iechyd a’i ddatblygiad a/neu sy’n anniogel. Esgeulustod o ran hunaniaeth: yn digwydd pan fo’r rhiant neu’r gofalwr yn methu cydnabod a thrin anghenion y person o ran diwylliant, crefydd, rhywedd a rhywioldeb.
Cofrestr amddiffyn plant
Mae’r gofrestr amddiffyn plant yn rhestru’r holl blant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n dioddef neu sy’n debygol o ddioddef niwed sylweddol ac sy’n destun cynllun amddiffyn gofal a chymorth ar hyn o bryd. Rhoddir enw’r plentyn ar y gofrestr er mwyn: hysbysu’r holl ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlentyn o’i risg o niwed; cadarnhau bod cynllun diogelu gofal a chymorth ar waith er amddiffyniad y plentyn a bod angen cydymffurfio ag ef; bod gweithiwr cymdeithasol ynghyd â grŵp craidd o ymarferwyr yn gweithio gyda’r plentyn a’r teulu.
Gwarchodwr Plant
Dyma’r person y mae’r llys yn ei benodi i bennu pa gamau gweithredu sydd “er budd pennaf plentyn”. Weithiau fe’i gelwir yn warchodwr ad litem (GAL).
Pryderon
Gall amheuaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod fod ar ffurf ‘pryderon’ yn hytrach na ‘ffeithiau hysbys’ oherwydd nad oes tystiolaeth o niwed bob tro. Yn hytrach, gallai ymarferwyr amau bod plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg yn cael ei gam-drin neu esgeuluso. Fel arall, gellir seilio pryderon ar wybodaeth a ddaw o amrywiaeth o ffynonellau a gronnir dros amser. Dylai ymarferwyr hefyd gofio ei bod yn bosibl nad fydd eu pryderon, ar eu pen eu hunain, yn ymddangos yn arwyddocaol. Fodd bynnag, ochr yn ochr â’r rhai a ddaw gan asiantaethau a ffynonellau eraill, gallent greu darlun sy’n awgrymu bod plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg yn dioddef o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
Cadeirydd y gynhadledd
Prif swyddogaeth cadeirydd y gynhadledd yw sicrhau bod y gynhadledd yn canolbwyntio ar y plentyn a bod anghenion amddiffyn gofal a chymorth y plentyn yn cael eu nodi ac yr ymdrinnir â nhw. Dylai’r cadeirydd fod yn annibynnol ar gyfrifoldeb gweithredol neu reoli llinell yr achos;
Cyd/gynhyrchu / Perthynas gyd-gynhyrchiol
Mae hyn yn golygu datblygu perthynas waith â’r oedolyn sy’n wynebu risg a/neu’r plentyn a’i deulu fel bod yr unigolyn a’i deulu’n teimlo parch ac yn cael gwybodaeth ac yn credu bod gweithwyr proffesiynol yn agored a gonest. Mewn tro, maent yn hyderus am gynnig gwybodaeth berthnasol am eu hunain, neu’r plentyn a’i amgylchiadau.
Grŵp craidd
Mae’r grŵp craidd yn grŵp amlasiantaeth o ymarferwyr sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu cynllun amddiffyn gofal a chymorth a’i roi ar waith. Dylai’r cydlynydd cynllun diogelu gofal a chymorth alw’r grŵp ynghyd. Mae pob aelod o’r grŵp craidd yn berchen yn gyfartal ar y cynllun amddiffyn u gofal a chymorth ac yr un mor gyfrifol amdano, a dylai gydweithredu i gyflawni ei nodau. Mae gan aelodau grŵp craidd gyfrifoldeb am herio a rhoi gwybod am bryderon pan fônt yn credu nad yw’r cynllun yn amddiffyn y plentyn rhag y risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu ffurfiau eraill ar niwed.
Llys Gwarchod
Os aseswyd bod yr oedolyn sy’n wynebu risg â galluedd meddyliol annigonol o ran mater sy’n ymwneud â’i les, mae gan y Llys Gwarchod y grym i wneud gorchymyn dan Adran 16(2) y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ymwneud â lles y person, sy’n gwneud y penderfyniad ar ran y person hwnnw i ganiatáu mynediad at berson nad oes ganddo alluedd. Gall y Llys hefyd benodi dirprwy i wneud penderfyniadau lles ar ran yr unigolyn hwnnw.
Trosedd
Gall camdriniaeth neu esgeulustod gael eu trin fel trosedd. Mae’r rhain yn cynnwys troseddau yn erbyn y person (troseddau trais), troseddau rhywiol a throseddau eiddo megis lladrata. Os yw’r gamdriniaeth neu’r esgeulustod wedi eu cymell gan nodweddion personol yr unigolyn – anabledd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredoau, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol / rhywedd, gall fod yn drosedd casineb.
Y Cydlynydd Arweiniol Dirprwyedig
Dan amgylchiadau penodol gall cyflogai o asiantaeth ac eithrio’r gwasanaethau cymdeithasol gadeirio’r gynhadledd lle bo gan yr asiantaeth honno fwy o arbenigedd neu brofiad proffesiynol.
Person Diogelu Dynodedig
Y person enwebol o fewn awdurdod lleol sydd yn gyfrifol am reoli a monitro cyhuddiadau diogelwch mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol cyflogedig a di-dâl. Darparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol ynglŷn â chyhuddiadau a phryderon diogelwch.
Penderfyniad
Defnyddir y term hwn o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Thrin Pobl Unigol i ddisgrifio’r penderfyniadau y dylai ymarferwyr eu gwneud, yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau, i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion gofal a chymorth/diogelu plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg.
Cam-drin a thrais domestig
Trais neu gam-drin domestig yw ymddygiad camdriniol sy’n digwydd mewn perthynas fel ffordd y gall un person yn y berthynas hon ennill neu gadw rheolaeth dros y llall. Mae hyn yn cynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol, seicolegol ac ariannol.
Dyletswydd i gydweithredu
Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad partner perthnasol wrth arfer unrhyw un o swyddogaethau’r gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny’n anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu fel arall yn cael effaith negyddol ar arfer swyddogaethau’r person.
Dyletswydd i hysbysu
At ddibenion y canllaw hwn, mae’r ddyletswydd i adrodd wrth yr awdurdod lleol yn golygu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol y bydd ganddynt, gyfochr â’r heddlu, rymoedd statudol i ymchwilio i amheuaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod. Gall pryderon am gamdriniaeth neu esgeulustod fod yn bresennol pan fo’r Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes yn gwybod am blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg. Peidiwch â rhagdybio nad oes angen adrodd oherwydd eu bod yn hysbys i’r gwasanaeth. Cofiwch adrodd bob tro.
Tîm Dyletswydd Brys
Mae hyn yn disgrifio’r trefniadau a wneir gan awdurdodau lleol i alluogi asiantaethau eraill, ymarferwyr ac aelodau’r cyhoedd i adrodd pryderon am blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth pan all fod angen ymateb y tu allan i oriau swyddfa arferol. Gelwir hefyd yn dîm y tu allan i oriau
Gorchymyn Amddiffyn Brys (GAB)
Gorchymyn gan lys yw Gorchymyn Amddiffyn Brys sy’n caniatáu i’r plentyn gael ei symud o gartref os ydyw mewn perygl, ac yn rhoi cyfrifoldeb rhieni i’r awdurdod lleol. Mae Gorchymyn Amddiffyn Brys yn parhau am hyd at 8 diwrnod, ond gellir ei ymestyn unwaith, am uchafswm o 7 diwrnod.
Cam-drin emosiynol
Cam-drin emosiynol yw camdriniaeth emosiynol barhaus tuag at blentyn. Fe’i gelwir weithiau yn gamdriniaeth seicolegol a gall niweidio iechyd emosiynol a datblygiad plentyn yn ddifrifol. Gall camdriniaeth emosiynol gynnwys ceisio dychryn neu fychanu plentyn neu ei arwahanu neu anwybyddu. Mae plant a gam-drinnir yn emosiynol yn aml yn dioddef math arall o gamdriniaeth neu esgeulustod ar yr un pryd. Mae cam-drin emosiynol yn cynnwys: bychanu neu feirniadu’r plentyn yn gyson, bygwth, gweiddi ar blentyn neu ei alw’n enwau gan chwerthin am ei ben, neu ddefnyddio gwatwar i frifo plentyn, beio plentyn, ei wneud yn fwch dihangol, gorfodi plentyn i berfformio gweithgareddau diraddiol, methu ag adnabod unigoliaeth y plentyn, ceisio rheoli ei fywyd, gwthio plentyn yn rhy galed, neu fethu adnabod ei derfynau gan ei wneud yn agored i ddigwyddiadau trallodus neu ffyrdd o ryngweithio sy’n gyfystyr â cham-drin domestig neu gymryd cyffuriau, methu hyrwyddo datblygiad cymdeithasol plentyn, peidio â chaniatáu iddo gael ffrindiau, ei anwybyddu yn gyson, bod yn absennol, camfanteisio arno, peidio byth â dweud unrhyw beth caredig iddo na mynegi teimladau cadarnhaol, na’i longyfarch ar ei lwyddiant, byth yn dangos emosiynau wrth ryngweithio â’r plentyn, a elwir hefyd yn esgeulustod emosiynol.
Ymholiadau
Yn dilyn hysbysiad , mae dyletswydd ar wasanaethau cymdeithasol i gynnal ymholiadau, os bydd achos rhesymol i amau bod person o fewn eu hardal (boed yn byw yno fel arfer neu beidio) yn blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg. Mae’r term hwn yn disgrifio’r broses o gasglu gwybodaeth a gyflawnir gan y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn penderfynu p’un a ddylid cymryd unrhyw gamau i ddiogelu plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg.
Gorchmynion Allgau
Mae’r rhain yn caniatáu i dramgwyddwr gael ei symud o’r cartref, yn hytrach na bod y plentyn yn cael ei symud. Gellir eu defnyddio ochr yn ochr â Gorchymyn Amddiffyn Brys.
Cywirdeb ffeithiol
Cyfrifoldeb y rheini sy’n asesu plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg yw gwahaniaethu rhwng digwyddiadau ac amgylchiadau rydym yn gwybod eu bod wedi digwydd a barn neu amheuon.
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (AOCB) yn cynnwys yr holl weithdrefnau sy’n ymwneud â gwaredu organau rhywiol allanol benywod, neu anafiadau eraill i organau rhywiol benywod am resymau nad ydynt yn feddygol. Mae’r ddyletswydd ofynnol i adrodd am AOCB yn ddyletswydd gyfreithiol y darperir amdani yn Neddf AOCB 2003 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Troseddau Difrifol 2015). Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a reoleiddir ac i athrawon yng Nghymru a Lloegr wneud adroddiadau i’r heddlu os oes ganddynt reswm i gredu bod merch dan 18 oed wedi dioddef AOCB. Nid yw’r ddyletswydd hon yn berthnasol mewn achosion pan wynebir risg neu achosion a amheuir neu achosion pan fo’r fenyw yn hŷn na 18 oed. Yn yr achosion hyn dylid dilyn y gweithdrefnau diogelu lleol.
Cam-drin ariannol
Mae hyn yn cynnwys lladrata, twyll, rhoi pwysau ynghylch arian, camddefnyddio arian.
Fframwaith ar gyfer Asesu Plant a’u Teuluoedd (gelwir hefyd y Fframwaith Asesu neu’r Triongl Asesu)
Mae’r Fframwaith Asesu’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd yng Nghymru i asesu plant ag anghenion gofal a chymorth a’r rheini ag anghenion amddiffyn gofal a chymorth. Mae’r Fframwaith yn cynnwys tri pharth: anghenion datblygiadol plentyn; gallu rhieni a ffactorau teuluol ac amgylcheddol. Mae pob parth wedi’i rannu’n ddimensiynau sy’n feysydd y dylid eu hystyried ar gyfer pob parth.
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 (GDPR)
Dyma’r fframwaith Ewropeaidd ar gyfer diogelu data. Mae’n berthnasol yn y DU ac yn gysylltiedig â chasglu a phrosesu data a gwybodaeth bersonol.
Cymhwysedd Gillick
Defnyddir y prawf cymhwysedd hwn i benderfynu a yw plentyn wedi cyrraedd y cam datblygu lle mae ganddo ddealltwriaeth ddigonol a lefel o ddeallusrwydd sy’n golygu y gall wneud ei benderfyniadau ei hun ar fater sy’n gofyn am benderfyniad. Os oes gan y plentyn gymhwysedd Gillick mae rhieni’n ildio hawl i’r plentyn i wneud ei benderfyniadau ei hun.
Niwed
Ystyr niwed yw cam-drin neu amharu ar (a) iechyd corfforol a meddyliol, neu (b) datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol. Mae’r cyfeiriadau at ‘niwed’, ynglŷn ag ymholiadau adran 47, y cyfeiriwyd atynt wrth ymdrin ag achosion unigol cyfrol 5, yn golygu niwed difrifol. Felly, pan fydd y cwestiwn ‘a yw’r niwed yn ddifrifol?’ yn ymwneud ag iechyd neu ddatblygiad y plentyn, mae’n rhaid i ymarferwyr gymharu iechyd neu ddatblygiad y plentyn â’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol mewn plentyn tebyg.
Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA)
Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) pan ddônt yn blant sy’n derbyn gofal neu’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol.
Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA)
Mae EIMA yn eiriolwr annibynnol sydd wedi’i hyfforddi i weithio o fewn fframwaith Deddf Iechyd Meddwl 1983 i gefnogi pobl i ddeall eu hawliau dan y Ddeddf a chymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal a’u triniaeth.
Cynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol (CAPG)
Mae’r gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol yn dilyn ymholiadau a47 lle mae pryderon bod plentyn/plant mewn perygl parhaus o niwed. Mae’r gynhadledd yn dod ag aelodau’r teulu (a’r plentyn lle bo hynny’n briodol) ynghyd â’r cefnogwyr, yr eiriolwyr a’r ymarferwyr sydd fwyaf ynghlwm wrth y plentyn a’r teulu, er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â diogelwch, lles a datblygiad y plentyn yn y dyfodol.
Gwerthusiad Cychwynnol
Mae’r gwerthusiad cychwynnol yn adeiladu ar gywirdeb y sgrinio ffeithiol i benderfynu pa gamau gweithredu y dylid eu cymryd i gynorthwyo a diogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg. Gwneir hyn drwy gasglu, adolygu a chydgasglu’r wybodaeth a geir gan yr oedolyn sy’n wynebu risg a/neu ymarferwyr sy’n adnabod yr oedolyn a gofalwyr yn ystod yr ymholiadau s.126.
Sgrinio Cychwynnol
Drwy gasglu digon o wybodaeth, h.y. gwybodaeth gymesur, mae’r ymarferwyr yn penderfynu p’un a oes angen cymryd camau pellach er mwyn diwallu anghenion amddiffyn gofal a chymorth yr oedolyn sy’n wynebu risg.
Rhyngasiantaethol
Mae’r term hwn, yng nghyd-destun y gweithdrefnau hyn, yn cyfeirio at ddwy asiantaeth yn cydweithredu i nodi a diwallu anghenion diogelu. Er enghraifft, yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol.
Ymchwiliadau
Cynhelir y rhain gan yr heddlu pan fo amheuaeth fod trosedd yn ymwneud â cham-drin ac esgeuluso wedi digwydd. (Gweler hefyd Trosedd.)
Ymarferydd cynllun amddiffyn gofal a chymorth arweiniol
Mae’r ymarferydd hwn yn arwain gwaith amlasiantaethol ac yn ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg gan weithio gydag ef ar y cynllun amddiffyn gofal a chymorth. Gelwir hefyd yr ymarferydd arweiniol.
Cydlynydd Arweiniol
Cyflogai gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol a ddylai sicrhau bod cynhadledd amddiffyn oedolyn yn cael ei drefnu, ei gadeirio a’i gofnodi. Mae’n rhaid i’r Cydlynydd Arweiniol fod yn unigolyn a gyflogir o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol a, phan fo’n bosibl, yn weithiwr cymdeithasol cymwys cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ymarferydd arweiniol, a elwir hefyd yr ymarferydd cynllun amddiffyn gofal a chymorth arweiniol
Mae’r ymarferydd hwn yn arwain gwaith amlasiantaethol ac yn ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg gan weithio gydag ef ar y cynllun amddiffyn gofal a chymorth.
Awdurdod Lleol
Mar gan awdurdodau lleol ran allweddol o ran nodi a mynd i’r afael ag anghenion amddiffyn gofal a chymorth ar gyfer oedolion a phlant. Mae’r rôl hon wedi ei nodi mewn nifer o statudau.
Swyddog Dynodedig Llywodraeth Leol (LADO)
Y person enwebol o fewn Awdurdod Lleol sydd yn gyfrifol am reoli a monitro cyhuddiadau diogelwch mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol cyflogedig a di-dâl. Darparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol ynglŷn â chyhuddiadau a phryderon diogelwch.
TAAC
Ystyr TAAC yw Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd. Dyma’r broses lle mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn gweithio gydag asiantaethau perthnasol eraill i amddiffyn y cyhoedd drwy reoli’r risgiau sydd ynghlwm wrth droseddwyr treisgar a rhywiol sy’n byw yn y gymuned.
CAAR
Mae’r gynhadledd amlasiantaeth asesu risg (CAAR) yn gyfarfod lle rhennir gwybodaeth ac y datblygir cynllun gweithredu cydweithredol mewn sefyllfaoedd risg uchel o drais domestig. Y prif nod yw diogelu’r rheiny sy’n dioddef o drais domestig. Bydd cynrychiolwyr yr asiantaethau perthnasol yn bresennol yn ystod cyfarfodydd CAAR, sef yr heddlu lleol, gwasanaeth prawf, iechyd, amddiffyn plant, ymarferwyr tai, ymgynghorwyr trais domestig, ac arbenigwyr eraill o’r sectorau statudol a gwirfoddol.
Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Crëwyd y Ddeddf Galluedd Meddyliol i amddiffyn a grymuso unigolion megis oedolion sy’n wynebu risg ac sydd efallai â galluedd meddyliol nad yw’n ddigonol i wneud penderfyniadau eu hunain am eu gofal a’u diogelwch. Mae’r Ddeddf yn cydnabod y gall unigolyn fod â chapasiti annigonol i wneud rhai penderfyniadau ond y gall wneud rhai eraill. Yn ogystal â hyn, gall person fod â chapasiti annigonol i wneud penderfyniadau penodol ar un adeg ond efallai y gall wneud yr un penderfyniad yn ddiweddarach. Mae’r Ddeddf yn cymryd bod gan berson gapasiti i wneud penderfyniad ei hun, oni bai y profir fel arall. Mae’n gymwys ar gyfer pobl sy’n 16 oed ac hŷn.
Caethwasiaeth Fodern
Mae caethwasiaeth fodern yn disgrifio arferion gorfodi llafur gyda’r troseddwr – y meistr caethweision – yn cadw’r dioddefwr yn gaeth a’i reoli. Y ffurf fwyaf cyffredin ar gaethwasiaeth fodern yw camfanteisio rhywiol. Camfanteisio ar lafur yw’r ail ffurf fwyaf cyffredin ar gaethwasiaeth sy’n digwydd gan amlaf yn y sectorau amaethyddol, bwyd, lletygarwch ac adeiladu. Gall y dioddefwyr fod yn ddinasyddion agored i niwed o’r DU neu o dramor. Mae dyletswydd ar yr Heddlu, Awdurdodau Lleol, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Awdurdod Meistri Gangiau a Chamfanteisio ar Lafur sy’n dod ar draws dioddefwr posibl o gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl i hysbysu’r Swyddfa Gartref dan Adran 52 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
Aml-asiantaeth
Mae’r term, yng nghyd-destun y gweithdrefnau hyn yn disgrifio ystod amrywiol o sefydliadau sy’n gweithio ar y cyd neu’n gydweithredol i nodi a diwallu anghenion diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Amlddisgyblaethol
Yn y cyd-destun hwn, ystyr amlddisgyblaethol yw ymarferwyr o wahanol ddisgyblaethau sy’n gweithio gyda’i gilydd ac yn defnyddio eu harbenigedd amrywiol a’u sgiliau i gyflawni amcanion penodol, er enghraifft cyflawni cynllun amddiffyn gofal a chymorth. Gall ymarferwyr ddod o’r un sefydliad a/neu o sefydliadau gwahanol.
Esgeuluso oedolyn sy’n wynebu risg / oedolyn mewn perygl
Mae hyn yn cynnwys methu â sicrhau gofal neu wasanaethau meddygol, esgeulustod emosiynol, diofalwch o ran risgiau a gymerir, methu â rhoi meddyginiaeth a ragnodir, methuâ chynorthwyo gyda gofal personol neu sicrhau bwyd, lloches neu ddillad.
Esgeulustod
Ystyr esgeulustod yw peidio â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy'n debygol o arwain at amharu ar les y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person).
Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (SGC) yn amddiffyn pobl yng Nghymru a Lloegr nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunan, megis eu hiechyd a chyllid.
Tîm y tu allan i oriau, a elwir hefyd y tîm dyletswydd brys
Mae hyn yn disgrifio’r trefniadau a wneir gan awdurdodau lleol i alluogi asiantaethau eraill, ymarferwyr ac aelodau’r cyhoedd i adrodd pryderon am blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth pan all fod angen ymateb y tu allan i oriau swyddfa arferol.
Rhan 3 asesiadau dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Rhan 3 y Ddeddf yn amlinellu cyfrifoldebau’r awdurdod lleol i asesu anghenion gofal a chymorth person neu anghenion cymorth gofalwr.
Canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu rhoi anghenion y person yng nghanol y broses benderfynu, h.y. ymgysylltu â’r oedolyn sy’n wynebu risg drwy’r broses ddiogelu; gan ei alluogi i benderfynu sut y rheolir y risgiau a sicrhau bod y broses benderfynu yn cymryd i ystyriaeth yr hyn y mae’n dymuno i ddigwydd yn ogystal â’r canlyniadau personol y mae’n dymuno eu cyflawni. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol i ystyried angen person am eiriolaeth ac i ddarparu cymorth priodol er mwyn galluogi pobl i gyfranogi. Gall hyn fod drwy eiriolaeth broffesiynol neu eiriolwyr anffurfiol megis aelodau’r teulu/gofalwyr. Mae’n bwysig bod yr ymarferwyr yn ystyried bod gan y person y galluedd meddyliol i ymgysylltu â’r broses a gwneud penderfyniadau oni bai y nodir nad oes ganddo’r galluedd i wneud penderfyniadau penodol ar adeg benodol.
Cam-drin oedolyn sy’n wynebu risg yn gorfforol
Mae hyn yn cynnwys bwrw, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, atal yn afresymol, neu gosbau amhriodol.
Cam-drin plentyn yn gorfforol
Ystyr cam-drin corfforol yw brifo plentyn neu berson ifanc yn fwriadol. Mae’n cynnwys: atal yn gorfforol, megis clymu wrth y gwely, cloi mewn ystafell, achosi llosgiadau, slapio, dyrnu, cicio, brathu neu dagu, trywanu neu saethu, gwrthod rhoi bwyd neu sylw meddygol, rhoi cyffuriau, atal rhag cysgu, achosi poen, siglo neu fwrw babanod, ffugio neu achosi salwch (FII).
Pwerau Amddiffyn yr Heddlu
Gellir defnyddio Pwerau Amddiffyn yr Heddlu heb gyfeirio at Lys ac fe’u defnyddir yn unig mewn sefyllfaoedd o argyfwng pan fyddai oedi wrth gael Gorchymyn Amddiffyn Brys yn rhoi’r plentyn mewn perygl. Mae Pwerau Amddiffyn yr Heddlu yn para hyd at 72 awr.
Ymarferydd
Mae’r term ‘ymarferydd’ wedi ei ddefnyddio fel term cyffredinol i ddisgrifio unrhyw un mewn cyflogaeth a delir yn ogystal â gwirfoddolwyr di-dâl.
Camdriniaeth broffesiynol
ble mae person proffesiynol yn gweithio, unai mewn modd cyflogedig neu wirfoddol, drwy eu gwaith yn dod i gysylltiad gyda phlant neu oedolion sydd yn wynebu perygl, ac mae ganddynt gyfrifoldeb gofalu am blant neu oedolion sy’n wynebu perygl, sydd wedyn mewn perthynas ymddiried, yn cam-drin neu amddifadu plant neu oedolion sy’n wynebu perygl yn eu gofal.
Cam-drin oedolyn sy’n wynebu risg yn seicolegol
Mae hyn yn cynnwys bygythiadau o niwed, neu ymadael, rheolaeth dan orfod, bychanu, cam-drin geiriol neu hiliol, arwahanu neu dynnu'n ôl o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol; mae rheolaeth dan orfod yn weithred neu’n batrwm o ymosodiadau, bygythiadau, bychanu, brawychu neu unrhyw gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu godi ofn ar y dioddefwr.
Byrddau Diogelu Rhanbarthol
Dyma’r chwe bwrdd strategol amlasiantaethol sy’n cynnwys asiantaethau partner perthnasol sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru ac sydd â’r nod o amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu esgeuluso ac i atal y plant a’r oedolion hyn rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Cyfeirir at aelodau’r bwrdd fel partneriaid perthnasol Dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, (DGCLl 2014) mae’n rhaid i awdurdodau lleol sefydlu Byrddau Diogelu Plant sy’n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, corff lleol yr heddlu, y bwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG, y bwrdd prawf, tîm troseddau ieuenctid ac eraill.
Atgyfeiriad
At ddibenion y gweithdrefnau hyn, defnyddir y term ‘adroddiad i’r Gwasanaethau Cymdeithasol’ i olygu atgyfeiriad hefyd.
Cyfeiriwr neu hysbyswr
Yr ymarferydd neu aelod o’r cyhoedd sy’n hysbysu i’r gwasanaethau cymdeithasol am bryderon o ran camdriniaeth, esgeulustod posibl o oedolyn sy’n wynebu risg neu niwed, camdriniaeth neu esgeuluso plentyn.
Partneriaid Perthnasol
Mae adrannau 128, 129 a 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn manylu’r ddyletswydd sydd ar ymarferwyr a ystyrir yn ‘bartneriaid perthnasol’ dan adran 162 y Ddeddf i adrodd am oedolion a phlant, gan gynnwys plant heb eu geni, y mae ganddynt achos rhesymol i amau eu bod yn wynebu risg o gael eu cam-drin. Mae hyn yn cynnwys cyflogeion y corff plismona, awdurdod lleol, gwasanaethau prawf a rheoli troseddwyr, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG a’r rheiny sy’n cyflawni dyletswyddau dan Ran 2, Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae disgwyl i bawb nad yw eu hasiantaethau wedi eu cynnwys fel ‘partneriaid perthnasol’ uchod hefyd adrodd am unrhyw bryderon diogelu yn yr un modd â’r rhai â dyletswydd benodol i adrodd. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr a delir a rhai na thelir yn sefydliadau’r trydydd sector (mae hyn yn cynnwys: contractwyr gwirfoddol ac annibynnol ac is-gontractwyr, sefydliadau proffesiynol a phreifat annibynnol).
Hysbysydd
Yr ymarferydd neu aelod o’r cyhoedd sy’n hysbysu ’r gwasanaethau cymdeithasol am bryderon o ran camdriniaeth, esgeulustod posibl o oedolyn sy’n wynebu risg neu niwed, camdriniaeth neu esgeuluso plentyn.
Derbynnydd yr hysbysiad
Yr ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol sy’n derbyn yr hysbysiad , yn cyflawni gwiriadau cychwynnol ac yn nodi p’un a oes angen gweithredu ar unwaith.
Diogelu
Ystyr diogelu yw atal ac amddiffyn plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin ac esgeuluso ac addysgu’r rheiny sydd o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a pheryglon.
Arweinydd Diogelu
Y person a adnabyddir o fewn y sefydliad sydd ar gael i drafod pryderon diogelu; dylid eu hymgynghori, pan yn bosibl, ynglŷn â’r angen i godi pryder diogelu gyda’r awdurdod lleol, fydd yn rheoli unrhyw weithgaredd sydd ei angen i sicrhau bod yr unigolyn sy’n wynebu risg yn ddiogel o gamdriniaeth. Dylai holl ymarferwyr wybod pwy i gysylltu â hwy yn eu hasiantaeth am gyngor, ac ni ddylid oedi i drafod eu pryderon ddim ots pa mor ddibwys y gall y pryder ymddengys ar y cychwyn.
Ymholiadau Adran 47 dan Ddeddf Plant 1989
Diben ymholiadau adran 47 dan Ddeddf Plant 1989 yw nodi a yw plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol a bod angen ymyriad i ddiogelu a hybu ei les. Y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â’r cyfrifoldeb pennaf am yr ymholiadau. Mae dyletswydd ar ymarferwyr eraill fel yr heddlu, gweithwyr iechyd, addysg a phartneriaid perthnasol eraill i gydweithio a helpu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i ymgymryd â’u hymholiadau.
Adran 126(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
Gwneir ymholiadau diogelu i bryderon am gamdriniaeth ac esgeulustod tuag at oedolyn sy’n wynebu risg dan a.126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gellir cyfeirio atynt fel ymholiadau a126.
Cam-drin oedolyn sy’n wynebu risg yn rhywiol
Mae hyn yn cynnwys treisio ac ymosodiadau rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw’r oedolyn wedi cydsynio neu nad yw’n gallu cydsynio iddynt a/neu y cafodd ei orfodi i gydsynio iddynt.
Cam-drin plentyn yn rhywiol
Mae 2 fath gwahanol o gam-drin plentyn yn rhywiol. Y rhain yw cam-drin drwy gyswllt a cham-drin heb gyswllt. Mae cam-drin drwy gyswllt yn cynnwys: cyffwrdd pan fo camdriniwr yn gwneud cyswllt corfforol â phlentyn gan gynnwys treiddiad. Mae’n cynnwys: cyffwrdd yn rhywiol unrhyw ran o’r corff p’un ai a yw’r plentyn yn gwisgo dillad ai peidio, treisio neu dreiddio drwy roi gwrthrych neu ran o’r corff yng ngheg y plentyn, ei fagina neu ei anws gan orfodi neu annog y plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gorfodi plentyn i ddadwisgo, cyffwrdd organau rhywiol rhywun arall neu fastyrbio. Mae cam-drin heb gyswllt yn cynnwys: gweithrediadau heb gyffwrdd megis meithrin perthynas yn amhriodol, camfanteisio, perswadio plant i berfformio gweithrediadau rhywiol dros y rhyngrwyd a fflachio. Mae’n cynnwys annog plentyn i wylio neu wrando ar weithrediadau rhywiol, peidio â chymryd camau priodol i atal plentyn rhag bod yn agored i weithrediadau rhywiol gan eraill, a chwrdd â phlentyn yn dilyn meithrin perthynas amhriodol gyda’r bwriad o’i gam-drin, cam-drin ar-lein gan gynnwys creu, gweld neu ddosbarthu delweddau cam-drin plant, caniatáu i rywun arall wneud, gweld neu ddosbarthu delweddau cam-drin plant, dangos pornograffi i blentyn, camfanteisio ar blentyn yn rhywiol am arian, grym neu statws (camfanteisio ar blant)
Camfanteisio rhywiol
Mae camfanteisio’n rhywiol yn golygu gorfodi neu ddylanwadu ar blant neu oedolion sy’n wynebu risg i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Mae’n fath o gam-drin rhywiol yn gyfnewid am ryw fath o daliad a all gynnwys arian, ffonau symudol ac eitemau eraill, cyffuriau, alcohol, lle i aros, ‘amddiffyniad’ neu anwyldeb. Mae bregusrwydd yr unigolyn a’r broses o feithrin perthynas yn amhriodol a ddefnyddir gan y rhai sy’n cyflawni’r troseddau yn eu gwneud yn ddi-rym i adnabod natur gamfanteisiol y berthynas ac i roi cydsyniad gwybodus. Gwasanaethau Cymdeithasol Adran yn yr awdurdod lleol yw’r gwasanaethau cymdeithasol sy’n gyfrifol am ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion sy’n wynebu risg a phlant. Maent yn gweithredu ar ran yr awdurdod lleol i gyflawni dyletswyddau statudol yr awdurdod lleol a’i bwerau i gynnal ymchwiliadau ac ymyrryd pan fo angen pan fo rheswm i gredu bod plentyn neu oedolyn yn wynebu risg.
Niwed arwyddocaol
Pan fydd y cwestiwn a yw niwed yn sylweddol yn troi ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, mae iechyd neu ddatblygiad y plentyn i'w gymharu â'r hyn y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl gan blentyn tebyg.
Gwasanaethau Cymdeithasol
Adran yn yr awdurdod lleol yw’r gwasanaethau cymdeithasol sy’n gyfrifol am ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion sy’n wynebu risg a phlant. Maent yn gweithredu ar ran yr awdurdod lleol i gyflawni dyletswyddau statudol yr awdurdod lleol a’i bwerau i gynnal ymchwiliadau ac ymyrryd pan fo angen pan fo rheswm i gredu bod plentyn neu oedolyn yn wynebu risg.
Trafodaeth/cyfarfod strategaeth ar gyfer oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin ac esgeulus
Dyma’r fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth, gwneud synnwyr o’r wybodaeth a phenderfynu a ddylid cymryd camau, gan bwy ac erbyn pryd. Dyma’r dull o ddatblygu, gweithredu ac adolygu’r cynllun amddiffyn gofal a chymorth. Gallai cyfarfod o’r fath gael ei gynnal yn rhithwir os oes brys.
Trafodaeth neu gyfarfod strategaeth ynglŷn â phlentyn y credir ei fod yn wynebu risg o ddioddef niwed
Diben y cyfarfod/trafodaeth strategaeth yw penderfynu a oes sail ar gyfer ymchwiliad Adran 47 dan Ddeddf Plant 1989. Cynhelir hyn fel arfer pan fo arwyddion yn dilyn yr ymchwiliadau cychwynnol fod sail resymol i gredu bod plentyn wedi dioddef neu ei fod yn debygol o ddioddef niwed sylweddol. Dylai’r cyfarfod strategaeth fod yn amlasiantaethol gan gynnwys, o leiaf, y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu. Dylai ymarferwyr allweddol eraill sy’n ymwneud â’r plentyn a’i deulu hefyd fod yn bresennol.
Grŵp strategaeth ar gyfer oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso
Mae’r grŵp strategaeth yn cynnwys ymarferwyr sy’n mynd i’r cyfarfodydd neu’r trafodaethau strategaeth, yn pennu p’un ai a yw’r oedolyn sy’n wynebu risg yn dioddef o gamdriniaeth ac esgeulustod a p’un ai a oes angen cynllun diogelu gofal a chymorth arno. Y grŵp sy’n gyfrifol hefyd am ddatblygu, gweithredu ac adolygu’r cynllun diogelu gofal a chymorth.
Masnachu pobl
Mae masnachu plant yn disgrifio recriwtio, cludo, trosglwyddo, llochesu neu dderbyn, plentyn sy’n cynnwys elfen o symud o un lle i’r llall Gall y plentyn ddioddef camdriniaeth drwy gamfanteisio rhywiol, camfanteisio troseddol, llafur dan orfod neu gaethiwed domestig, caethwasiaeth, camfanteisio ariannol, mabwysiadu anghyfreithlon, tynnu organau’r plentyn. Mae’n digwydd i bobl hyd at 18 oed. Mae masnachu oedolion yn disgrifio recriwtio, cludo, trosglwyddo, llochesu neu dderbyn oedolyn sy’n wynebu risg sy’n cynnwys elfen o symud o un lle i’r llall. Gall yr oedolyn sy’n wynebu risg ddioddef camdriniaeth drwy gamfanteisio rhywiol, camfanteisio troseddol, llafur dan orfod neu gaethiwed domestig, caethwasiaeth, camfanteisio ariannol neu dynnu organau.
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn cynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.