Efallai y bydd plentyn yn penderfynu datgelu i’w hymarferydd eu bod:
wedi bod yn destun niwed, camdriniaeth neu esgeulustod;
yn ymwybodol o blentyn arall sy’n cael, neu o bosib yn cael ei gamdrin
Mae’n bwysig cydnabod bod plant yn gallu ‘dweud’:
ar lafar
drwy chwarae
drwy eu hymddygiad
Mae’r ffordd y mae ymarferwyr yn ymateb i’r datgeliadau hyn yn arwain y plentyn at ddisgrifio’r hyn sydd wedi digwydd iddo neu gau am ei hun yn gyfan gwbl a thynnu’n ôl beth bynnag a ddywedodd ynghynt.
Oherwydd y gall y geiriau hyn fod yn hollbwysig mewn achosion cyfreithiol, mae’r ffordd y mae’r ymarferwyr yn eu rheoli yn bwysig.
Mae’n hollbwysig:
sicrhau bod y plentyn sy’n wynebu risg yn ddiogel; mae diogelu’n hollbwysig;
gofyn yr holl gwestiynau arferol y byddech yn eu gofyn i benderfynu a oes perygl diogelu fel:
gwrandewch ac arsylwch;
mae’n hollbwysig bod yr ymarferydd yn cofnodi’r hyn a ddywedwyd wrthynt ar y cyfle cyntaf oherwydd efallai mai dyma’r unig hysbysiad a’r un cyntaf a fydd ar gael i’r heddlu.
cadw meddwl agored ynghylch yr hyn a welir ac a glywir.
egluro i’r plentyn pa gamau gweithredu a gaiff eu dilyn mewn ffordd sy’n briodol i’w oedran a dealltwriaeth.
peidio ag addo cadw’n gyfrinachol yr hyn a ddywedwyd wrthych oherwydd bod dyletswydd ar ymarferwyr i ddatgelu gwybodaeth i’r gwasanaethau cymdeithasol, ac i’r heddlu mewn rhai achosion.
cofiwch nad yw hysbysu pryderon yn bradychu ffydd.
Enghraifft: Mae plentyn mewn meithrinfa yn chwarae yng nghornel y cartref. Mae’n dechrau gweiddi a thaflu un o’r doliau o gwmpas gan ddweud ‘rwyt ti’n ddrwg ac angen curfa’. Mae’r ymarferydd yn mynd at y plentyn [er mwyn cadw’r plentyn ac eraill yn ddiogel] ac yn sôn am yr hyn y mae hi wedi’i weld. Mae’r plentyn yn dweud bod y ddol mam wedi bod yn ddrwg a bod dad yn ‘dysgu gwers iddi’. Unwaith eto, mae’r ymarferydd yn sylwi, gweld ac yn adlewyrchu gan ddefnyddio geiriau'r plentyn: ‘mae doli dad yn dysgu gwers i doli mam’. Mae’r plentyn yn ymateb: ‘ie, dyna beth mae dad yn ei wneud i mam’. Mae’r ymarferydd yn ailadrodd: ‘dyna beth mae dad yn ei wneud i mam’. Mae’r plentyn yn ymateb: ‘ie, mae e’n ei brifo hi’n wael ac mae hi yn yr ysbyty’.
Drwy gydol y sgwrs mae’r ymarferydd yn gwrando ac yn arsylwi ac yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd y plentyn. Felly mae’n cadw meddwl agored ac yn osgoi llygru’r dystiolaeth.
Awgrymiadau Ymarfer: 10 Egwyddor Allweddol ar gyfer Rheoli Datgeliadau