Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Adref 1
Mae'n bwysig bod ymarferwyr, yn unol â Rhan 2 6.(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cydnabod:
- y dylai hawliau'r unigolyn fod o'r pwys mwyaf i'r dull;
- y dylai eu budd gorau bob amser fod o'r pwys mwyaf;
- cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol, y dylid canfod a rhoi sylw i farn, dymuniadau a theimladau'r unigolyn;
- rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn;
- rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau'r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith) tra’n cydnabod pwysigrwydd mwyaf [diogelu’r]](#tooltip) unigolyn;
- rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cefnogaeth briodol i alluogi'r unigolyn i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arno i'r graddau sy'n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig lle mae gallu'r unigolyn i gyfathrebu yn gyfyngedig am unrhyw reswm.
Awgrymiadau Ymarfer: Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn