Y broses ddiogelu: trosolwg
Adref 1
Fel y disgrifir yn Cyf 6 Ymdrin ag Achosion Unigol, mae ffyrdd gwahanol i amddiffyn oedolion sy’n wynebu riskg gamdriniaeth ac esgeulustod ac ystyrir y rhain o fewn y gweithdrefnau hyn.
Y rhain yw:
- Nodi pryderon, dyletswydd i hysbysu am y pryderon hyn a chychwyn ymholiadau.
- Atal neu gymorth cynnar i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n dod i'r amlwg.
- Amddiffyniad ar unwaith i gadw'r unigolyn sy’n wynebu risg o niwed yn ddiogel.
- Gofal a chefnogaeth i fynd i'r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu.
- Gofal, cefnogaeth ac amddiffyniad i fynd i'r afael ag anghenion gan gynnwys cadw'r unigolyn yn ddiogel.
Er mwyn pennu'r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu oedolyn sy’n wynebu risg, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o wahanol gamau'r broses ddiogelu:
- nodi'r pryder;
- casglu gwybodaeth;
- asesu a dadansoddi cymorth, gofal a chefnogaeth gynnar neu anghenion amddiffyn gofal a chymorth;
- gwneud penderfyniadau a chynllunio'r ymyrraeth fwyaf priodol;
- gweithredoedd ac ymyriadau;
- gwerthuso effeithiolrwydd y gweithredoedd a'r ymyriadau.
Awgrymiadau Ymarfer: Y Broses Ddiogelu