Cyflwyno ymyriadau priodol: Cyd-gynhyrchu
Adref 1
Mae'n hanfodol bod yr oedolyn yn cymryd rhan weithredol yn y broses o benderfynu ar y ffordd orau y gellir diwallu ei anghenion er mwyn ei atal rhag dod yn oedolyn sy’n wynebu risg a phrofi camdriniaeth neu esgeulustod.
Rhaid gweld a gwrando ar yr oedolyn ac ystyried ei ddymuniadau a'i deimladau, beth bynnag fo'i ddull cyfathrebu.
Dylai ymgysylltu â'r hyn y mae'r oedolyn yn ei ddweud o safbwynt yr hyn sy'n digwydd iddo, a gwrando arno, fod yn gonglfaen ymyrraeth a chefnogaeth effeithiol.
Mae oedolion a'u gofalwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau cymorth cynnar:
- Os yw’r gwasanaethau'n amserol ac yn hygyrch gan gofio anghenion penodol yr oedolyn a'u gofalwr/gofalwyr;
- Bod ymarferwyr yn treulio amser yn creu perthynas bositif ac ymddiriedus gyda’r oedolyn;
- Bod camsyniadau am wasanaethau diogelu yn cael eu chwalu;
- Y rhennir gwybodaeth yn agored ac yn onest.
Gall ymyriadau gael eu darparu gan ymarferwyr o ystod amrywiol o ddisgyblaethau sydd mewn cysylltiad â'r oedolyn sy’n wynebu risg a'u gofalwr/gofalwyr.
Wrth benderfynu ar yr ymyriadau mwyaf priodol, dylid ystyried:
- beth sy'n bwysig i'r oedolyn;
- y canlyniadau llesiant y maent eisiau eu cyflawni;
- dull cyfannol;
- cefnogi a gweithio gyda'r oedolyn sy’n wynebu risg fel partner cyfartal i gynllunio a chyflawni'r ymyriad(au);
- grymuso'r oedolion i ystyried sut y gallant gadw rheolaeth dros eu bywyd o ddydd i ddydd a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt;
- cynhyrchu atebion arloesol, er enghraifft tynnu ar rwydweithiau a chymunedau lleol;
- ymyriadau amserol yn cael eu darparu yn y lle iawn;
- dewis ystod amrywiol o wasanaethau sy'n ystyried anghenion yr oedolyn a'u gofalwr/gofalwyr;
- cydnabod fod angen i ymyriadau fod yn hyblyg a chydnabod anghenion ac amgylchiadau unigol;
- ffyrdd y bydd unrhyw anghenion newydd neu anghenion sy’n dod i’r amlwg yn cael sylw;
- cydberchnogaeth a chyfraniadau gweithredol gan yr holl ymarferwyr sy'n ymwneud â'r oedolyn.
Early Intervention Foundation (EIF) (2018) Ynglŷn ag ymyrraeth gynnar: pam ei fod yn bwysig
https://socialcare.wales/cms_assets/hub-downloads/Principles-Resource-Guide_March-17.pdf
Awgrymiadau Ymarfer: Hwyluso Ymgysylltiad â’r Oedolyn mewn perygl
Awgrymiadau Ymarfer: Egwyddorion allweddol ar gyfer ymyriadau cymorth cynnareffeithiol