Dylai'r cydlynydd arweiniol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod cynhadledd amddiffyn oedolyn yn cael ei threfnu, ei chadeirio a'i chofnodi (gweler y canllawiau lleol ar gyfer trefniadau cadeirio).
Cyfrifoldebau’r cyfranogwyr yn y gynhadledd yw dadansoddi yn wrthrychol, mewn lleoliad rhyngasiantaeth:
- yr holl bryderon a’r wybodaeth a gafwyd o’r ymholiadau adran 126 ac unrhyw ymchwiliadau;
- dymuniadau a chanlyniadau dymunol yr oedolion sy’n wynebu risg;
- ffactorau amddiffynnol;
- unrhyw asesiadau ychwanegol mae eu hangen a/neu sydd wedi eu cwblhau;
- gwybodaeth flaenorol am gysylltiad â gwasanaethau fel oedolyn sy’n wynebu risg;
- penderfynu pa mor debygol yw camdriniaeth neu esgeulustod parhaus;
- penderfynu pa gamau mae angen eu cymryd yn y dyfodol i alluogi’r oedolyn sy’n wynebu risg i gyflawni ei ganlyniadau personol a sut gall ei anghenion gofal, cymorth a diogelu cael eu bodloni a gyda pha ganlyniadau dymunol.
Y cadeirydd
Fel arfer bydd cynhadledd yn cael ei chadeirio gan gydlynydd arweiniol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol. Dan amgylchiadau penodol gall asiantaeth arall gadeirio’r gynhadledd pan fo gan yr asiantaeth honno arbenigedd neu brofiad proffesiynol sy’n fwy priodol, a hwn fydd y cydlynydd arweiniol dirprwyedig **.
Mewn ymchwiliadau ar raddfa fawr, efallai y bydd yn ofynnol i berson uwch/annibynnol gydlynu a chadeirio.
Dylai cadeirydd y gynhadledd fod yn fodlon bod digon o wybodaeth ar gael i’r gynhadledd lunio barn hyddysg ar y risg barhaus o gamdriniaeth neu esgeulustod i’r oedolyn sy’n wynebu risg.
Presenoldeb ymarferwyr
Bydd presenoldeb yn amrywio yn dibynnu ar y rheini sy’n ymwneud â’r oedolyn sy’n wynebu risg a disgresiwn y Cydlynydd Arweiniol, ond gall gynnwys:
- y swyddog ymchwilio;
- cofnodwr;
- rheolwr cymwys a phrofiadol o bob sefydliad cysylltiedig;
- cynrychiolwyr o unrhyw sefydliadau perthnasol eraill a all gyfrannu at y cynllun gofal, cymorth a diogelu;
- y rheolwr gofal, cydlynydd gofal neu weithiwr allweddol ar gyfer yr oedolyn sy’n wynebu risg;
- unrhyw weithwyr proffesiynol perthnasol eraill (e.e. yr heddlu, staff contractau/comisiynu gwasanaeth, meddyg teulu, seiciatrydd neu weithwyr gofal iechyd eraill sy’n ymwneud â’r oedolyn sy’n wynebu risg);
- mae’n bosibl hefyd y byddai angen gwahodd cynrychiolwyr o adran gyfreithiol y Cyngor;
- Eiriolwr dros yr oedolyn sy’n wynebu risg.
Os yw unrhyw weithiwr proffesiynol perthnasol yn methu â mynychu, rhaid iddo gyflwyno’r wybodaeth sydd ganddo i’w chyfrannu at y cyfarfod yn ysgrifenedig.
Dylai pawb sy’n mynychu fod â’r awdurdod dirprwyedig i gytuno i wneud penderfyniadau ar ddarparu adnoddau a gwasanaethau a fydd yn cyfrannu at y cynllun diogelu.
Ymarferwyr sy’n cynnal ymchwiliadau
Rhaid i ymarferwyr sy’n ymchwilio gyflwyno adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau eu hymchwiliad a dylent hefyd fynychu’r gynhadledd amddiffyn oedolyn.
Dylai’r adroddiad:
- gael ei rannu â’r oedolyn sy’n wynebu risg cyn y gynhadledd amddiffyn oedolyn, oni bai y penderfynir na fuasai hynny er budd pennaf yr oedolyn;
- bod yn seiliedig ar ffeithiau a bennwyd yn ystod yr ymchwiliad;
- canolbwyntio ar y cam-drin/esgeulustod a pha gamau all ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg;
- cofnodi pwy gafodd eu cyfweld, y cofnodion a ddefnyddiwyd a’r rhai na ddefnyddiwyd, a pham;
- tynnu sylw at unrhyw dystiolaeth groes;
- rhoi tystiolaeth i gefnogi unrhyw gasgliadau.