Rhannu Cymraeg English

Cynnwys yr oedolyn sy’n wynebu risg yn y gwaith cynllunio

Adref 4

Dylid adeiladu unrhyw gynllun diogelu gofal a chymorth sy’n effeithio ar les yr oedolyn gyda chyfraniad gweithredol yr oedolyn sy’n wynebu risg, ei eiriolwr neu’i gynrychiolydd. Nhw yw’r bobl orau i wneud penderfyniadau am ei amgylchiadau a’r risgiau posibl.

Wrth lunio’r cynllun dylid ystyried y canlynol:

  • canlyniadau personol yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • effaith y cynllun ar ei ffordd o fyw ac annibyniaeth;
  • sut byddwn ni’n gwybod os cyflawnwyd y canlyniad?

Mae’n hanfodol mai’r oedolyn sy’n wynebu risg sy’n rheoli’r penderfyniadau o ran rheoli risgiau, a bod “yr hyn sy’n bwysig” yn cael ei drafod. Mae’n rhaid i ymarferwyr gymryd yn ganiataol bod gan yr oedolyn sy’n wynebu risg y gallu i benderfynu, oni bai bod rheswm i amau nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau penodol ar yr adeg honno.

Pan fydd asesiad ffurfiol yn dod i gasgliad nad yw’r unigolyn yn meddu ar y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am ei ddiogelwch ei hun, dylid gwneud penderfyniadau o ran trefniadau amddiffyn er budd pennaf yr unigolyn gan ystyried ei ddymuniadau, ei deimladau, ei gredoau a’i werthoedd yn unol â darpariaethau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer perthnasol.

Mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn cynnwys oedolyn yn briodol, gan roi ystyriaeth i’w alluedd meddyliol ac unrhyw anghenion cyfathrebu penodol. Mae’n bwysig cadarnhau a yw'r cynllun yn gwella safon ei fywyd ac yn ei ddiogelu rhag cael ei gam-drin neu’i esgeuluso.

Mae ymgysylltu effeithiol yn meddwl mwy na phresenoldeb oedolyn sy’n wynebu risg mewn Cynhadledd Amddiffyn Oedolyn neu ‘weld’ ymarferwyr yn ystod ymweliadau cyffredinol yn y cartref. Mae’n golygu deall natur ei fywyd bob dydd, ei ddymuniadau, ei deimladau a’i ganlyniadau dymunol a’r ffyrdd y mae’r cynllun yn sicrhau ei ddiogelwch a bodloni ei ganlyniadau dymunol.

Disgwylir y bydd ymarferydd arweiniol yn ‘gweld’ yr oedolyn cyn pen 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y cyfarfod strategaeth ac wedi hynny yn rheolaidd ac o leiaf bob 4 wythnos. Ar ben hynny, dylid cynnig gweld yr oedolyn ar ei ben ei hun yn ystod pob ymweliad neu ran o ymweliad.

Sicrhau’r gwaith o gynnwys oedolyn

Mae ymgysylltu effeithiol yn golygu:

  • rhoi gwybodaeth i’r oedolyn mewn modd sy’n ei alluogi i ddeall pryderon ymarferydd a pham ei fod yn rhan o’i fywyd;
  • rhoi amser a chyfleoedd iddo, gan gydnabod ei anghenion cyfathrebu, i fynegi ei ddymuniadau, teimladau a barn mewn perthynas ag effaith y cynllun ar ei fywyd bob dydd;
  • cadarnhau bod ei farn ac ati wedi’u deall yn glir gan yr ymarferydd;
  • rhoi ystyriaeth ddifrifol i farn yr oedolyn sy’n wynebu risg a sicrhau bod ei farn yn cael ei hystyried gan y cyfarfod strategaeth ac mewn adolygiadau;
  • ystyried galluedd meddyliol a chydbwyso’r ddyletswydd ofal i ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg yn erbyn ei hawl i wneud penderfyniadau drosto ef ei hun.

Mae’n bwysig bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn cael cyfleoedd i gwrdd â’r cydlynydd arweiniol neu’r dirprwy. Mae hyn yn sicrhau bod ei anghenion a’i farn benodol yn cael eu hystyried heb fod pobl eraill yn dylanwadu arnynt.

Oedolyn sy’n wynebu risg nad yw’n cytuno â’r cynllun: lleihau niwed

Yr oedolyn yw’r unigolyn gorau i wneud penderfyniadau am ei les, a allai gynnwys cymryd risgiau penodol. Os yw’r oedolyn yn meddu ar y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau yn y maes hwn o’i fywyd ac yn gwrthod cymorth, gall hynny gyfyngu ar yr ymyriadau y gall sefydliadau eu gwneud. Dylai’r ffocws felly fod ar leihau niwed. Fodd bynnag, ni ddylai gyfyngu ar y camau gweithredu y bydd eu hangen o bosib i ddiogelu eraill sy’n wynebu risg o niwed.

Mae’n bosibl na fydd oedolyn sy’n wynebu risg yn cytuno â’r cynllun amddiffyn gofal a chymorth. Os yw’r oedolyn yn meddu ar y canlynol:

  • y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus am ei ddiogelwch ei hun;

ac

  • nad oes unrhyw fudd i’r cyhoedd neu fuddion hanfodol i’w hystyried. (Drwy gydol unrhyw ymateb mae’n angenrheidiol ystyried diogelwch a lles pobl eraill; gall hyn fod y bobl hynny sy’n byw yn yr un cartref teuluol, y rheiny sy’n byw yn yr un amgylchedd gofal neu aelodau’r cyhoedd ehangach).

a

  • phan fo’r unigolyn yn dewis byw mewn sefyllfa â risgiau posibl neu os yw wedi gwrthod cynllun gofal a chymorth.

Dylid cofnodi canlyniadau’r ymchwiliad yn glir ar gofnod achos yr unigolyn a chynnwys y trefniadau amddiffyn a gynigiwyd a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ddeall y rhesymau dros wrthod cymorth.

D.S. Mae’n hanfodol, pan nad yw oedolyn sy’n wynebu risg yn cydsynio â’r cynllun, bod y grŵp strategaeth yn ystyried yr holl ffyrdd posibl o gynnwys yr oedolyn sy’n wynebu risg ac y caiff y cynllun ei roi ar waith cyn belled â phosibl â chaniatâd yr oedolyn.

Awgrymiadau Ymarfer: Hyrwyddo Cyfranogiad Ymhlith Oedolion sy’n Wynebu Risg a Heb Alluedd Meddyliol

Diffyg ymgysylltiad y gofalwyr neu aelodau o’r teulu gyda’r cynllun

Mae angen i aelodau o’r teulu a/neu ofalwyr sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun amddiffyn gofal a chymorth ac y nodwyd eu bod yn cyfranogi yn y cynllun cyffredinol ddeall a chydnabod pwysigrwydd eu cyfraniad a chael eu hannog i gyfranogi, pan fo’n briodol.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn cydnabod ac yn asesu a oes gan y gofalwyr y gallu i ymgysylltu’n ystyrlon gyda’r cynllun.

Mae’n bosibl nad oes gan rai gofalwyr y gallu a/neu gymhelliant i ymgysylltu’n weithredol; gall y diffyg ymgysylltiad hwn arwain at:

  • ofalwyr/ teuluoedd yn ymgysylltu ag ymarferwyr mewn modd arwynebol yn unig ac yn cwblhau tasgau nad ydynt o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau y cytunwyd arnynt;
Er enghraifft, maent yn casglu moddion o’r fferyllfa yn briodol fel y cytunwyd yn y cynllun ond yn parhau i roi’r moddion mewn dull ad hoc.
  • rhoi sicrwydd i ymarferwyr y byddant yn cwblhau tasgau heb lwyddo i wneud hynny;
Er enghraifft, mae’r gofalwr/aelod o’r teulu wastad yn ymddangos fel petai mewn argyfwng neu mae ganddo esgusodion parod dros beidio â dod â’r oedolyn sy’n wynebu risg i apwyntiadau ysbyty ac ati
  • osgoi cyswllt gyda’r ymarferydd;
Er enghraifft, maen nhw wastad allan pan fydd yr ymarferydd yn galw heibio’r cartref.
  • Bod yn ymosodol neu’n herfeiddiol yn gorfforol neu ar lafar.
Er enghraifft, bygwth ymarferwyr, peidio â’u gadael i ddod i mewn i’r tŷ.

Mewn rhai achosion, er bod diffyg ymgysylltiad yn dangos methiant i ymrwymo i’r cynllun a’r canlyniadau, nid felly’r achos bob amser. Felly, dylai’r grŵp strategaeth fod yn benodol o ran yr ymddygiadau sy’n dangos diffyg ymgysylltiad ac asesu beth mae’r ymddygiadau hyn yn ei ddangos.

Er enghraifft: a yw’r gofalwr yn ofni dweud nad yw’n gallu ymdopi â’i rôl ofalu? A yw aelodau’r teulu yn ymosodol ar lafar am eu bod nhw’n ofni y caiff eu perthynas ei symud?

Os nad yw’r cyfarfod strategaeth yn gallu rhoi’r cynllun y cytunwyd arno ar waith, yn dilyn asesu’r diffyg ymgysylltiad, dylid ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol a chytuno ar gynllun diogelu gofal a chymorth gwahanol.

Gwrthod mynediad at yr oedolyn

Os yw’r ymarferydd arweiniol neu ymarferwyr eraill sy’n rhoi’r cynllun ar waith yn cael eu rhwystro neu eu hatal rhag cael mynediad at oedolyn sy’n wynebu risg, dylid rhoi gwybod i’r uwch reolwr diogelu perthnasol yn y gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal ag aelodau eraill y grŵp strategaeth. Dylid cynnal trafodaeth i gytuno pwy fydd y person gorau i geisio cyflawni cyswllt wyneb yn wyneb. Dylai’r cydlynydd arweiniol, mewn ymgynghoriad â rheolwyr diogelu a chynghorwyr cyfreithiol ystyried a oes angen rhoi unrhyw gamau cyfreithiol ar waith i sicrhau bod yr unigolyn yn cael ei ddiogelu ac yn ddiogel. Ni ddylid oedi rhag rhoi unrhyw gamau amddiffynnol angenrheidiol ar waith i sicrhau diogelwch a lles unrhyw oedolyn sy’n wynebu risg.

Mae’n bosibl y bydd angen Gorchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (gweler yr adran 3 APSO).