Canfu trosolwg Cymru gan Robinson e tal. (2018) o adolygiadau arfer oedolion, adolygiadau dynladdiad a dynladdiad meddyliol faterion allweddol o ran asesiadau ac adroddiadau, ac yn eu plith:
- ‘Roedd yr asesiadau a gynhaliwyd gan ymarferwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar agweddau penodol o ymddygiad, gan anghofio eraill, a thrwy hynny leihau cywirdeb cyffredinol yr asesiad’.
- Aseswyd bod rhai unigolion mewn perygl (h.y. agored i niwed) yn hytrach na’u bod yn risg (h.y. niweidiol)
- Byddai gweledigaeth gul yn golygu y câi naratif ei lunio ac y câi ymarfer ei lunio i ffitio'r naratif penodol hwnnw
- Nododd cyfranogwyr grŵp ffocws y gall asesiadau gael eu gyrru dan broses, gan arwain at eu hystyried yn ymarferion ‘ticio bocsys’ (o bosibl o ganlyniad i effaith Dangosyddion Perfformiad Allweddol). Cytunwyd bod angen asesiad holistig, parhaus ac y dylai asesiadau fod yn ddogfennau ‘byw’. Ystyriwyd bod asesiadau’n fwy cadarn o gael eu hail-werthuso neu ddiweddaru’n rheolaidd; gan gynnwys mewnbwn acx ystyriaethau o effeithiau ar y teulu; gan ddefnyddio safbwyntiau amlasiantaeth (T8-10)
Er mwyn osgoi’r ymarferion hyn, mae’n bwysig i ymarferwyr wrth lunio adroddiadau i nabod:
- Mae asesiad effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth holistaidd o amgylchiadau’r oedolyn sy’n wynebu risg , meysydd pryder a chryfderau’r teulu o ystod o safbwyntiau ymarferwyr.
- Cynhelir asesiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn pan fo ymarferwyr yn ystyried effaith cam-drin neu esgeulustod ar yr oedolyn sy’n wynebu risg. E.e. os oes pryderon am gam-drin domestig, beth mae’r oedolyn sy’n wynebu risg wedi’i ddisgrifio? Beth mae ymarferwyr yn ei weld o’i ymddygiad?
- Peidiwch â rhoi rhestr o ddyddiadau neu gysylltiadau asiantaeth heb roi rhyw arwydd o natur y cyswllt a’r canlyniad. Meddyliwch pam fod y dyddiadau a’r camau gweithredu hyn yn berthnasol?
- Wrth benderfynu beth i’w gynnwys yn yr asesiad holwch eich hun os yw hyn yn berthnasol? A yw’r wybodaeth yn gwella ein dealltwriaeth o’r sefyllfa? Os oes amheuaeth gennych trafodwch gyda’r gweithiwr cymdeithasol.
- Mae ymarferwyr yn cyfrannu at y gynhadledd i wneud barn ar bryderon a chryfderau, o’u safbwynt proffesiynol. Peidiwch â bod ofn ei ddefnyddio. Gwerthfawrogir barn broffesiynol pawb.
- Sicrhewch eich bod yn cefnogi’ch dadansoddiad â thystiolaeth o’r hyn a arsylwyd gennych, a ddwedwyd wrthych gan y teulu neu o ymchwil.
- Mae sefydlu’r profiad byw dyddiol yn rhoi cipolwg i ymarferwyr i sut mae diwylliant, crefydd, anabledd a materion fel camddefnyddio alcohol a chyffuriau yn effeithio ar yr oedolyn mewn perygl. Defnyddiwch hyn i osgoi gwneud datganiadau cyffredinol am faterion rhianta, diwylliant ac amrywiaeth.
- Eich cyfrifoldeb chi yw rhannu’ch adroddiad a’r oedolyn sy’n wynebu risg. Os oes pryderon genych am wneud hynny yna trafodwch gyda’r Gweithiwr Cymdeithasol.
Am wybodaeth ychwanegol gweler:
Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Cardiff University, (Cafwyd ar 21/ 7/ 2019)