Rhannu Cymraeg English

Ymchwiliadau ar y cyd gan wasanaethau cymdeithasol a’r heddlu

Adref 3 rhan 1

Os yw’r cyfarfod strategaeth yn penderfynu dechrau ymholiadau adran 47 gall y rhain gydredeg ag ymchwiliadau’r heddlu i drosedd/au cysylltiedig posib.

Mewn ymholiadau ar y cyd, yr heddlu sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad troseddol a’r awdurdod lleol sy’n arwain ar yr ymholiadau adran 47 a llesiant y plentyn.

Cynnwys y plentyn mewn ymchwiliadau gan yr heddlu

Mae’n hollbwysig bod y plentyn, yn dibynnu ar ei oed a’i allu i ddeall, yn cael gwybod am yr hyn sy’n digwydd a bod rhywun wedi ymgynghori ag ef/hi. Dylid ei helpu i ddeall y broses, dylai gael gwybod am y camau gweithredu a gymerir, eu goblygiadau a’u canlyniadau posib.

Dylai’r holl staff sy’n cynnal ymchwiliadau ar y cyd fod yn gyfarwydd â’r canllawiau a ddarperir gan brotocolau lleol a chanllawiau gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Dylid rhoi gwybod i’r plentyn bob amser am broses yr ymholiadau amddiffyn plant a’r ymchwiliad troseddol, a’u canlyniadau, yn amodol ar ei oedran a’i allu i ddeall.

Gan mai’r heddlu sy’n arwain ar bob ymchwiliad troseddol, eu cyfrifoldeb hwy yw rhoi gwybod i’r plentyn/plant, lle mae’n briodol, am ymchwiliad troseddol.

Y cyfweliad ymchwiliadol gyda’r plentyn

Mae’n bosib y bydd angen cyfweld â’r plentyn fel rhan o ymchwiliad yr heddlu. Dylid dilyn canllawiau’r Swyddfa Gartref, Achieving Best Evidence in Criminal Proceedings: Guidance for Vulnerable or Intimidated Witnesses including Children ar gyfer pob cyfweliad ymchwiliadol gyda phlant yn ystod camau troseddol, a dylid eu cynnal gan staff profiadol wedi’u hyfforddi at y pwrpas.

Dylai gweithwyr cymdeithasol a swyddogion yr heddlu sy’n cyfweld â phlant fod wedi derbyn hyfforddiant arbenigol, a meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad plant ar ben hynny. Dylent fod yn gallu asesu cymhwysedd y plentyn fel tyst, a chael y sgiliau i gynllunio cyfweliadau a’u cynnal â phlant.

Dylai’r rhai hynny sy’n cyfweld â’r plentyn benderfynu:

  • cyd-destun yr honiad, a’r meini prawf cysylltiedig ar gyfer cyfweliad ffurfiol;
  • ffactorau cefndir perthnasol i’r plentyn a’r teulu;
  • ystyried rhyw'r sawl sy’n cyfweld, yn arbennig mewn achosion o gam-drin rhywiol;
  • ystyried unrhyw anghenion cyfathrebu ar gyfer y plentyn;
  • pwy ddylai fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio’r cyfweliad;
  • pwy ddylai arwain y cyfweliad;
  • trosolwg technegol a sefydliadol y cyfweliad.

Mae’r cyfweliad yn allweddol wrth roi gwybodaeth i’r rhai hynny sy’n gwneud penderfyniadau aml-asiantaeth, a bydd yn sail i unrhyw gamau troseddol sy’n dilyn.

Ni ddylid holi plentyn ym mhresenoldeb rhywun yr amheuir neu yr honnir ei fod yn cam-drin, neu rywun sy’n cydgynllwynio gyda’r tramgwyddwr, gan gynnwys rhiant.

Pan fo plentyn yn ddigon hen i ddeall ac i gydsynio, dylid recordio ei gydsyniad ar y fideo ar ddechrau’r cyfweliad.

Mewn achosion pan fo’r plentyn yn yr ysgol ar yr adeg o bryder, gall y pennaeth gydsynio i safle’r ysgol gael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfweliad.

Ymhob achos sy’n cynnwys ymchwiliad troseddol, bydd y penderfyniad ynglŷn â phryd i ddweud wrth y rhiant yn effeithio ar ymddygiad ymchwiliadau gan yr heddlu a dylai’r cyfarfod strategaeth benderfynu ar yr amser mwyaf priodol i gynnwys y rhieni.

Cyfweliad â thystion sy’n blant heb gysyniad rhieni

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylid ymgynghori â rhiant neu ofalwr sydd â chyfrifoldeb rhiant cyn cyfweld â’r plentyn, a dylid gwrando ar eu barn. Os nad oes neb â chyfrifoldeb rhiant, dylid ymgynghori â gofalwr parhaol arall, a dylid cael cyngor cyfreithiol. Mewn achosion o gyfweld ar fideo, dylai’r swyddog sy’n ymchwilio roi taflen wybodaeth/profforma i’r rhiant/gofalwr.

Mewn rhai amgylchiadau gallai gael ei ystyried er lles y plentyn i gynnal cyfweliad llawn neu gyfweliad ar fideo heb ymgynghori’n gyntaf â’r rhiant/gofalwr. Mewn achosion tebyg, ac eithrio pan mae’r person ifanc yn 16 oed neu hŷn, dylid cael cyngor cyfreithiol gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle byddai cael cyngor tebyg yn achosi oedi yn yr ymholiad, mae hawl gan yr heddlu i fwrw ymlaen â’r ymchwiliad ar eu pen eu hunain.

Os gwneir penderfyniad i beidio â gofyn am gydsyniad y rhieni, mae’n rhaid cofnodi amgylchiadau sy’n berthnasol i’r penderfyniad hwn. Gallant gynnwys:

  • y posibilrwydd y byddai’n rhoi’r plentyn mewn rhagor o berygl
  • tebygolrwydd cryf y byddai’r plentyn yn cael ei fygwth neu fel arall ei orfodi i gadw’n dawel;
  • gallai tystiolaeth bwysig gael ei dinistrio/cholli;
  • nodir mai’r rhiant yw’r camdriniwr honedig;
  • nid oedd y plentyn am i’r rhiant fod yn gysylltiedig ar y cam hwnnw, ac roedd yn gymwys i wneud y penderfyniad hwnnw

Dylai ymarferwyr gyfeirio at ganllawiau Achieving Best Evidence in Criminal Proceedings: Guidance on interviewing victims and witnesses and guidance on using special measures (Mawrth 2011) am ragor o wybodaeth. Gallai methu â dilyn y canllawiau hyn arwain at y llysoedd troseddol a’r llysoedd teulu yn casglu bod tystiolaeth y plentyn yn annibynadwy.