Rhannu Cymraeg English

Cwblhau ymholiadau adran a47

Adref 3 rhan 2

Mae ymholiadau a47 yn dod i ben ar ôl gwneud penderfyniad gwybodus bod y plentyn neu’r plant, neu nad yw’r plentyn neu’r plant, yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol , a hynny ar ôl ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael.

D.S. MAE’N BWYSIG NODI BOD Y CYFEIRIADAU AT ‘NIWED’, YN YMWNEUD AG YMHOLIADAU ADRAN 47, Y CYFEIRIWYD ATYNT YN YMDRIN AG ACHOSION UNIGOL CYFROL 5, YN GOLYGU NIWED SYLWEDDOL.

Pennu ‘niwed sylweddol’

(Gweler niwed sylweddol Adran3 rhan 1)

Nid yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi newid diben yr ymholiadau a47 fel y’i nodwyd yn Neddf Plant 1989. Yn y Ddeddf hon defnyddir cysyniad ‘niwed sylweddol’.

Mae’r cysyniad yn ymwneud â dyletswyddau statudol yr awdurdod lleol i gynnal ymchwiliadau a gwneud ymholiadau, amddiffyn mewn argyfwng os oes angen neu ddechrau achosion gofal dan Rannau IV a V y Ddeddf.

Felly, mae’n rhaid i ymarferwyr:

Pan fydd y cwestiwn a yw’r niwed y mae’r plentyn yn ei ddioddef yn ddifrifol yn ymwneud ag iechyd neu ddatblygiad y plentyn, rhaid cymharu iechyd neu ddatblygiad y plentyn â’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol mewn plentyn tebyg.

Wrth wneud y penderfyniad hwn, rhaid i ymarferwyr ystyried y diffiniad o ‘niwed’ fel y’i nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ystyr “niwed” yn ymwneud â phlentyn neu blant, yw camdriniaeth neu amhariad ar –

  1. iechyd meddwl neu iechyd corfforol, neu
  2. ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol.

Dylai ymarferwyr sy’n pennu p’un a yw plentyn yn wynebu risg a/neu mae wedi cael profiad o niwed sylweddol , ystyried y canlynol:

  • Pa dystiolaeth o niwed sylweddol gwirioneddol neu debygol sydd gennym ac o ba ffynonellau?
  • A oes gwybodaeth ynglŷn â phryderon blaenorol? Sut deliwyd â nhw?
  • A yw’r dystiolaeth wedi’i hategu gan un ymarferydd neu fwy, y plentyn a/neu aelod o’r teulu?
  • Pa arwydd sydd gennym o naill ai risg o niwed sylweddol yn y dyfodol neu nad yw’r plentyn yn wynebu risg o niwed o’r fath mwyach?
  • Beth mae’r plentyn wedi’i nodi ynglŷn â’i brofiadau bywyd, ei ddymuniadau a’i deimladau? A yw hyn yn arwydd o niwed sylweddol posibl a/neu’n nodi anghenion amddiffyn gofal a chymorth?
  • Beth rydym wedi’i ddysgu gan aelodau’r teulu ynghylch ei brofiadau bywyd, ei ddymuniadau a’i deimladau? A yw’r wybodaeth hon yn arwydd o niwed posibl yn y dyfodol neu anghenion amddiffyn gofal a chymorth o ran y plentyn/plant?
  • A ydym wedi dysgu unrhyw beth ynglŷn â gallu a chymhelliant y gofalwr/gofalwyr i newid a chynnal y newid o ran ymddygiadau sy’n peri pryder?
  • Beth rydym yn ei wybod am y plentyn, ei deulu a’r sefyllfa bresennol sy’n debygol o:
  • gynyddu’r risg o niwed sylweddol a beth yw’r goblygiadau tebygol?
  • lleihau’r risgl o niwed sylweddol ac ym mha ffordd?
  • gweithredu fel ffactorau amddiffynnol i gadw’r plentyn yn ddiogel a sicrhau y diwallir ei anghenion gofal a chymorth, a beth yw’r ffactorau hyn?
  • Os bydd amgylchiadau’r plentyn ar fin newid, rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o ddiogelwch yr amgylchedd newydd.

Mae’n bwysig nodi, ar y cam hwn o’r broses, y gallai’r dystiolaeth/gwybodaeth sydd ar gael i werthuso’r anghenion amddiffyn gofal a chymorth fod yn gyfyngedig. Felly, os nad yw’r ymarferwyr yn sicr, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ganddynt, bod y plentyn yn rhydd rhag niwed, yna dylid argymell cynnal asesiad pellach.

Awgrymiadau Ymarfer: Asesu Niwed Sylweddol