Dylid cynnal Cyfarfod Strategaeth Broffesiynol am Ganlyniadau i benderfynu a oes sail i’r pryderon, o ystyried yr hyn sy’n debygol. Os penderfynir nad oes sail i’r pryderon, dylid cofnodi’r canlyniad fel un sydd heb ei brofi, sy’n ddi-sail neu sydd wedi cael ei ffugio’n fwriadol neu’n faleisus. Bydd y diffiniadau canlynol yn ganllaw i gyfarfodydd strategaeth i benderfynu pa ganlyniad sy’n addas;
Bydd canlyniadau i honiadau o fewn y pedwar categori canlynol:
Wedi’i brofi – mae honiad wedi’i brofi yn un sydd â thystiolaeth neu brawf
Heb ei brofi – nid yw honiad heb ei brofi yr un fath â honiad y profir yn ddiweddarach ei fod yn ffug. Mae’n golygu yn syml nad oes digon o dystiolaeth adnabyddadwy i brofi neu wrthbrofi’r honiad. Nid yw’r term felly yn awgrymu euogrwydd na dieuogrwydd.
Di-sail – mae hyn yn awgrymu bod y person a wnaeth yr honiad wedi camddehongli’r digwyddiad neu wedi camgymryd yr hyn a welon nhw, neu mae’n bosib nad oedden nhw’n ymwybodol o’r holl amgylchiadau. Er mwyn i honiad gael ei roi mewn categori ‘di-sail’ – bydd angen tystiolaeth i wrthbrofi’r honiad.
Wedi’i ffugio’n fwriadol neu’n faleisus – mae hyn yn golygu bod tystiolaeth eglur i brofi bod gweithred fwriadol wedi bod i dwyllo a bod yr honiad yn gwbl ffug
Bydd y drafodaeth ynghylch canlyniadau fel arfer yn digwydd cyn unrhyw benderfyniad gan y cyflogwr i weithredu gweithdrefnau disgyblu. Lle mae sail i’r pryderon, dylai asiantaethau sy’n cyflogi neu rai gwirfoddol ymgynghori â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, a chyrff proffesiynol perthnasol eraill ynglŷn â’r angen i atgyfeirio. (Gellir cael rhagor o wybodaeth a chanllawiau gan y DBS o’u gwefan yn www.homeoffice.gov.uk/dbs.