Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2022
Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ar gyfer pwy y mae’r canllaw ymarfer hwn?
Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 mlwydd oed).
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddau ieuenctid ac ieuenctid, cymunedol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn helpu unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a chyfrifoldebau o ran sicrhau bod plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi agwedd gyson at arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae'r canllaw ymarfer hwn yn cynnig gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu lle mae plentyn mewn perygl o gael ei radicaleiddio neu o gael ei dynnu i mewn i derfysgaeth. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob ardal awdurdod lleol gael eu hategu gan ddwy brif egwyddor:
- mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb; er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol dylai pob ymarferydd a sefydliad chwarae eu rhan lawn yn unigol a thrwy gydweithredu; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn; er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol i’r plentyn a beth sy’n bwysig iddo ef. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull hwn a’i fudd personol ddylai gael y sylw pennaf bob amser.
Mae rhai materion sy’n gyffredin yn yr holl ganllawiau ymarfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu dan sylw:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr hawl i dyfu yn iach, hapus a diogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a chael cymorth priodol i wella yn dilyn cael ei gam-drin. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull Hawliau Plant yn unol â dyletswydd sylw dyledus i CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
- Rhaid i asiantaethau gydweithio er mwyn cynnig ymateb cydgysylltiedig i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sy’n Wynebu Risg dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Diogelu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Mae rhannu gwybodaeth yn ganolog i arferion diogelu da. Mae’n rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data yn galluogi’r gwaith o rannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r amgylchiadau penodol pan fo gofyn rhannu gwybodaeth yw er mwyn atal camdriniaeth neu niwed difrifol rhag digwydd i eraill. Pan na chaiff gwybodaeth ei rhannu yn amserol ac yn effeithiol, gall penderfyniadau o ran sut i ymateb fod yn seiliedig ar anwybodaeth a gall hynny arwain at ymarfer diogelu gwael a rhoi plant mewn perygl o niwed. https://llyw.cymru/rhannu-gwybodaeth-er-mwyn-diogelu-plant
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, dylai ganolbwyntio ar y plentyn a bod ar sail anghenion unigol ac amgylchiadau’r plentyn. Rhaid i blant fod yn rhan ystyrlon o broses cynllunio eu gofal a’u cefnogaeth.
- Rydym yn gwybod bod plant anabl neu â nam ar eu synhwyrau yn wynebu risg mwy o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Maen nhw hefyd yn llai tebygol o gael yr amddiffyniad a chymorth y mae eu hangen arnyn nhw ar ôl cael eu cam-drin. Dylai ymarferwyr gydnabod yn agored bod plant anabl neu y mae arnynt nam ar eu synhwyrau yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, a chydnabod y rhwystrau y gallant eu hwynebu yn arbennig o ran cyfathrebu, a dylent alluogi unrhyw ddulliau diogelu ychwanegol y mae eu hangen i ddiogelu plant â nam ar eu synhwyrau neu blant anabl.
- Dylai ymarferwyr ymgyfarwyddo â diwylliant a chredau’r teuluoedd maent yn gweithio gyda nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn ynghylch ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent fyth anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Mae pryderon canolog ac amlwg i fynd i’r afael â nhw o ran cynllunio ar gyfer anghenion gofal a chymorth plant sydd â statws Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASC). Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Blant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches i Weithwyr Proffesiynol ar gael. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod rhaid i ymarferwyr ystyried mesurau diogelu penodol yn rhan o’r gwaith o gynllunio gydag ac ar gyfer y plentyn.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn effro i’r posibilrwydd bod plentyn mewn risg o niwed waeth ym mhle mae’n byw, boed hynny’n ofal maeth, lleoliad mabwysiadol neu gartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu’r rhai sydd wedi eu mabwysiadu perthnasau a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd neu deulu biolegol arall. Gall y perthnasoedd hyn ac unrhyw gyswllt fod yn gadarnhaol ac yn cael eu croesawu neu gallant fod yn ddigroeso ac yn cael eu hystyried yn risg. Gall profiad blaenorol plant o gamdriniaeth eu gadael yn wynebu risg o brofi anawsterau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylid gweld a chlywed plant. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Arfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr ar eu pennau eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion lle na welwyd plentyn na gofyn ei farn a’i deimladau neu lle na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando yn uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n blentyn-ganolog ac sy’n hyrwyddo ymarfer diogelu da.
- Mae radicaleiddio yn fater diogelu. Os oes pryderon ynghylch plentyn yn cael ei radicaleiddio, dylid ystyried plant fel plant yn gyntaf a dylid ystyried eu hanghenion gofal a chymorth yn yr un modd ag ar gyfer unrhyw blentyn. Mae radicaleiddio yn gallu ac yn achosi niwed sylweddol i blant.
- Drwy nodi arwyddion yn effeithiol a rhannu pryderon am blant a allai fod mewn perygl o gael eu radicaleiddio, gallwn i gyd ddiogelu ein plant a'n cymunedau ifanc ac atal y niwed hwn.
Diffiniadau
Radicaleiddio yw'r broses lle mae person yn dechrau cefnogi neu gymryd rhan mewn ideolegau eithafol, ac mewn rhai achosion gall ddechrau cymryd rhan mewn grwpiau eithafol neu derfysgol.
Eithafiaeth yw gwrthwynebiad lleisiol neu actif i werthoedd Prydeinig sylfaenol, gan gynnwys democratiaeth, rheol gyfreithiol, rhyddid unigol a pharch y naill at y llall a goddefgarwch ffydd a chred gwahanol. Mae Strategaeth Prevent Llywodraeth y DU hefyd yn cynnwys galwadau am farwolaeth aelodau ein lluoedd arfog yn ei diffiniad o eithafiaeth, yn y wlad hon neu dramor.
Eithafiaeth dreisgar yw bygythiad gwirioneddol i bob cymuned - mae eithafwyr treisgar yn mynd ati i geisio niweidio cysylltiadau cymunedol a chreu rhaniad. Dyna pam y mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi'r rhai sy'n agored i niwed fel hyn.
Gall plant fod yn agored i safbwyntiau gwahanol a derbyn gwybodaeth o wahanol ffynonellau. Gellir ystyried rhai o'r safbwyntiau hyn yn radical neu'n eithafol.
Terfysgaeth - gellir ei ddiffinio fel gweithred dreisgar sy'n:
- Peryglu bywyd person, ac eithrio bywyd y person sy'n cyflawni'r weithred
- Cynnwys trais difrifol yn erbyn person
- Difrodi eiddo’n ddifrifol
- Creu risg ddifrifol i iechyd a diogelwch y cyhoedd
- Ymyrryd â system electronig neu’n amharu'n ddifrifol arno
Sylfaen Tystiolaeth
- Nid oes proffil amlwg o blentyn sy'n debygol o gymryd rhan mewn eithafiaeth nac un dangosydd o pryd y gallai person ddechrau fabwysiadu trais i gefnogi syniadau eithafol. Mae'r broses o radicaleiddio yn wahanol i bob unigolyn a gall ddigwydd dros gyfnod estynedig neu o fewn amserlen fer iawn. Er nad oes proffil nodweddiadol o blant mewn perygl o gael eu radicaleiddio. Fodd bynnag, nodwyd ffactorau o fod yn agored i niwed sy'n cynnwys:
- Troseddoldeb; cefndir teuluol cythryblus;
- Profiadau a dylanwadau (e.e. gan ffrindiau a theulu;
- Anghenion seicolegol heb eu diwallu (e.e. ar gyfer perthyn a statws).
- Fel gyda mathau eraill o gam-drin, hunan-barch isel, gall diffyg perthnasau cymdeithasol cadarnhaol a theimladau o unigedd, perthnasau teuluol dan straen a/neu broblemau â gallu rhianta wneud plant yn agored i gael eu paratoi ar gyfer cael eu radicaleiddio. Mae plant nad ydynt yn teimlo eu bod wedi'u cynnwys, sy’n teimlo bod eu lle mewn cymdeithas dan fygythiad ac sy'n cael trafferth gydag ymdeimlad o berthyn neu hunaniaeth yn agored i niwed gan fod y rhain yn deimladau y gellir eu hecsbloetio i feithrin plentyn.
- Mae rhywfaint o dystiolaeth y gallai anhwylderau iechyd meddwl wneud rhai pobl yn fwy agored i ideoleg eithafol. Nid oes cysylltiad sylweddol rhwng cyflyrau Niwrowahanol a therfysgaeth, ond mae rhai ffactorau sy'n gyffredin i blant sydd â'r cyflyrau hyn a allai eu gwneud yn agored i gael eu radicaleiddio.
- Gall plant fod yn agored i safbwyntiau gwahanol a derbyn gwybodaeth o wahanol ffynonellau. Gellir ystyried rhai o'r safbwyntiau hyn yn radical neu'n eithafol. Gall hyn gynnwys plant sydd â rhieni neu aelodau eraill o'r teulu sydd â chredau radical neu eithafol. Mae gan bawb sy'n gweithio gyda phlant gyfrifoldeb i ddiogelu plant rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys cael eu radicaleiddio a/neu fod yn agored i safbwyntiau eithafol.
- Fel gyda phob math o gamdriniaeth, ni fydd plant sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n agored i niwed o reidrwydd yn cael eu radicaleiddio a gall plant nad ydynt wedi’u nodi fel rhai sy’n agored i niwed fod mewn perygl o gael eu radicaleiddio.
- Mae adroddiad Estyn 'Atal – pa mor dda y mae ysgolion a gynhelir yn gweithredu eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015’ yn cynnwys data'r Swyddfa Gartref, sy'n nodi bod cyfanswm o 258 o unigolion yng Nghymru wedi'u hatgyfeirio oherwydd pryderon eu bod yn agored i gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Nid yw'r ffigurau ar gyfer plant dan 18 oed ar gael, ond yng Nghymru, mae ychydig o dan hanner yr atgyfeiriadau ar gyfer pobl 20 oed ac iau.
- Ledled Cymru o 2018-2019, roedd pryderon radicaleiddio Islamaidd yn cyfrif am 15% o'r holl atgyfeiriadau, tra bod pryderon radicaleiddio asgell dde yn cyfrif am 24%, ac roedd pryderon eithafiaeth cymysg, ansefydlog neu aneglur yn cyfrif am 49% o'r atgyfeiriadau hyn. Mae hyn yn dangos y gellir radicaleiddio unrhyw blentyn, waeth beth fo'i ethnigrwydd neu ei grefydd. Fel gydag unrhyw fath o gamdriniaeth, mae'n bwysig osgoi stereoteipiau a gwneud rhagdybiaethau wrth ystyried a yw plentyn mewn perygl o niwed.
Deall arwyddion radicaleiddio neu eithafiaeth
Mae 'Deall arwyddion Eithafiaeth' Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru sy’n darparu rhai o'r arwyddion o radicaleiddio neu eithafiaeth posibl yn cynnwys:
Llafar a sarhaus
- Gallai person fod yn gas tuag at bobl o wlad, grŵp crefyddol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir diwylliannol neu gred benodol
- Defnyddio dadleuon gor-syml a rhagfarnllyd - beirniadu grwpiau eraill, eu gweld fel bygythiad i’n ‘ffordd o fyw' neu eu beio am faterion byd-eang neu leol
- Dadlau a domineiddio o ran eu barn - bod yn gyflym i gondemnio'r rhai sy'n anghytuno ac anwybyddu safbwyntiau sy'n mynd yn groes i’w barn eu hunain
- Defnyddio naratifau eithafol - darllen, gweld propaganda eithafol neu ddeunydd treisgar
- Cyfiawnhau’r defnydd o drais
- Cam-drin eraill
- Bod angen dominyddu a rheoli eraill
- Arddangos arwyddion, symbolau, baneri a thatŵs sarhaus
Cwynion a Chredau
- Cyfeirio at 'agenda ryddfrydol, elitaidd, sefydledig' neu 'gynllwyn Iddewig'
- Gweld Prydeinwyr gwyn dan fygythiad o ddiflaniad hiliol a diwylliannol a dweud bod rhaid iddynt 'weithredu'
- Bod ag awydd am newid gwleidyddol a chymdeithasol neu grefyddol, gan gyfiawnhau’r defnydd o drais i gyflawni newid o'r fath
- Teimlo dan fygythiad neu erledigaeth a meddu ar feddylfryd "ni a nhw"
- Bod yn gydymdeimladol ag ideolegau eithafol a grwpiau eithafol
- Uniaethu â grŵp wedi'i gondemnio / eithafol
Newid mewn ymddygiad
- Gallai person gwestiynu ei ffydd neu ei hunaniaeth mewn cymdeithas
- Bod yn gyfrinachol ac yn amharod i drafod ei leoliad neu ei gysylltiadau
- Bod yn amharod i ymgysylltu â phobl sy'n wahanol
- Bod ag awydd am gyffro ac antur – gall propaganda ar-lein ddylanwadu ar unigolion a byddant yn cysylltu cyfleoedd gydag antur.
- Bod ag awydd am statws – efallai y bydd rhai pobl yn dymuno cael mwy o statws gyda'u cymuned a mwy o bŵer
- Newid eu ffrindiau, newid eu hymddangosiad yn sylweddol a ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yr oeddent yn arfer eu mwynhau
- Mabwysiadu'r defnydd o symbolau penodol sy'n gysylltiedig â sefydliadau eithafol, dosbarthu llenyddiaeth eithafol, megis llenyddiaeth, fideos a negeseuon.
Deall y newidiadau canlynol mewn ymddygiad, a allai fod yn destun pryder
- wedi dioddef bwlio neu drosedd casineb
- yn ynysig ac yn unig
- yn ddig gyda’r byd
- yn ddryslyd am y rhesymau dros eu hanlwc neu eu sefyllfa
- yn ddibwrpas, heb gyfeiriad na gobaith
- heb eu diogelu, heb arweiniad gan oedolion
Gweithgareddau ar-lein
Mae apiau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, safleoedd gemau, gwefannau, podlediadau, radio, gorsafoedd teledu, fforymau ac ystafelloedd sgwrsio preifat – yn gyfle unigryw i bobl fynegi eu barn ond efallai y byddant yn dod yn rhywle lle mae eu safbwyntiau yn cael eu hatgyfnerthu ac efallai y bydd unigolion yn cael eu denu gan gredau pobl eraill.
- Gallai person ddefnyddio iaith â chod a 'chodau' i gyfathrebu â chymunedau Eithafol
- Lawrlwytho neu weld cynnwys eithafol ar-lein, gan gynnwys llyfrau, cylchgronau, radio a fideos
- Bod yn gyfrinachol ar-lein, cael proffiliau ar-lein lluosog a threulio cyfnodau gormodol o amser ar-lein, gan ddefnyddio meddalwedd wedi'u hamgryptio a/neu rwydweithiau preifat rhithwir (VPN’s) i guddio eu hunaniaeth ar-lein
- Rhannu safbwyntiau eithafol neu ymrannol ar eu cyfryngau cymdeithasol
- Bod mewn cysylltiad â recriwtwyr eithafol
- Defnyddio fforymau sgwrsio wedi'u hamgryptio APIAU, GWEFANNAU, Ystafelloedd Sgwrsio Preifat a llwyfannau i gyfathrebu'n gyfrinachol - a elwir hefyd 'Y We Dywyll'.
Sut mae radicaleiddio'n digwydd?
- Gellir ystyried radicaleiddio fel proses dau gam. Y cam cyntaf yw newid agweddol lle mae plentyn sy'n agored i niwed yn dechrau meithrin a mynegi barn fwyfwy eithafol.
- Mae'r ail gam yn newid ymddygiad, lle mae safbwyntiau a datganiadau eithafol yn troi'n weithredoedd treisgar a ddylanwadir gan ffactorau cymdeithasol, emosiynol neu brofiadol. Ar bob cam mae arwyddion a chyfleoedd i ymyrryd i leihau'r risg o radicaleiddio pellach.
Mae Canllawiau Radicaleiddio'r NSPCC yn nodi y gallai'r broses o radicaleiddio gynnwys:
– Meithrin ar-lein neu yn bersonol.
– Camfanteisio, gan gynnwys cam-fanteisio’n rhywiol ar blant.
– Cam-drin seicolegol. – Dod i gysylltiad â deunydd treisgar a gwybodaeth amhriodol arall.
– Y risg o niwed corfforol neu farwolaeth trwy weithredoedd eithafol.
Radicaleiddio ar-lein
- Mae tystiolaeth o Gymru yn awgrymu bod radicaleiddio ar-lein yn thema gynyddol ac mae dylanwadau radicaleiddio wedi newid fel bod ffactorau ar-lein yn chwarae rhan gynyddol arwyddocaol.
- Dylid darllen canllaw Ymarfer Cymru Gyfan ar y cyd â'r Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan- Diogelu plant rhag camdriniaeth ar-lein, sy'n cynnwys gwybodaeth am radicaleiddio ar-lein.
Dyletswydd Prevent
- Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi dyletswydd ar rai mathau o sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i nodi plant sy'n agored i niwed a'u hatal rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth.
- Fe’i gelwir y ‘Strategaeth Prevent’, a dyma’r ddyletswydd y mae Deddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015 yn ei rhoi ar awdurdodau penodol, wrth arfer eu swyddogaethau, i roi sylw dyledus i’r ffaith bod angen atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Mae awdurdodau penodedig yn cynnwys Ysgolion, Colegau, darparwyr Gofal Plant, Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Carchardai, Systemau Prawf, Sefydliadau Addysg Uwch.
- Prevent yw'r elfen gyntaf o strategaeth Gwrthderfysgaeth (CONTEST) Llywodraeth y DU sy'n anelu at 'leihau'r risg i'r DU a'i dinasyddion a'i diddordebau dramor o derfysgaeth, fel y gall ein pobl fyw eu bywydau'n rhydd ac yn hyderus'. Mae'r strategaeth yn nodi pedwar 'llinyn' o weithgarwch i gyflawni hyn, Atal, Dilyn, Diogelu a Pharatoi, gyda goblygiadau ar gyfer ystod eang iawn o wasanaethau cyhoeddus ledled y DU, gan gynnwys rôl gwasanaethau addysg awdurdodau lleol, ac ysgolion.
Gwrthsafiad a Pharch – canllawiau i ysgolion a darparwyr addysg
- Mae canllawiau gan y Swyddfa Gartref a gan Lywodraeth Cymru yn nodi'n fanwl y rôl hanfodol y mae ysgolion yn ei chwarae o ran cadw plant yn ddiogel rhag cael eu hecsbloetio drwy ideolegau radical ac eithafol.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi canllawiau penodol i ysgolion a darparwyr addysg ar ddiogelu plant rhag cael eu radicaleiddio yn Gwrthsafiad a Pharch: Datblygu Cydlyniant Cymunedol
- Mae Offeryn Hunanasesu Gwrthsafiad a Pharch ar gyfer ysgolion hefyd ar gael.
Tîm Atal Cymru Gyfan
Gallwch hefyd atgyfeirio'n uniongyrchol at dîm Atal Cymru Gyfan drwy'r ffurflen ar-lein hon neu drwy e-bostio: WECTU@south-wales.pnn.police.uk.
Nid yw hyn yn disodli gweithdrefnau diogelu ond gall fod yn ganlyniad i drafodaeth strategaeth aml-asiantaeth neu ran o waith i ddiwallu anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn plentyn.
Mae Tîm Atal Cymru Gyfan yn ystyried atgyfeiriadau drwy Banel Channel Aml-asiantaeth a bydd yn penderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol ar gyfer pob atgyfeiriad.
Beth yw Channel?
Mae Channel yn rhan o strategaeth Prevent. Mae Channel yn canolbwyntio ar roi cymorth yn gynnar i bobl y nodir sy’n agored i gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Mae Channel yn defnyddio dull aml-asiantaeth i:
- nodi unigolion sy’n wynebu risg
- asesu natur a graddau’r risg hwnnw
- datblygu’r cynllun cymorth mwyaf priodol ar gyfer yr unigolion dan sylw
- Mae Channel yn ddull aml-asiantaeth o nodi a rhoi cymorth i unigolion sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Arweinir y broses gan banel aml-asiantaeth, a gadeirir gan yr awdurdod lleol. Mae hefyd yn cynnwys Ymarferydd Heddlu Channel (YHC) sef y cydlynydd. Yr YHC yw'r pwynt cyswllt cychwynnol a'i rôl yw asesu a yw'r achos yn dangos natur agored i eithafiaeth ac i gytuno ag Arweinydd Prevent yr Awdurdod Lleol, a ddylid ystyried yr atgyfeiriad mewn Panel Channel.
Ymateb Cymesur
- Os yw plentyn yn wynebu risg sylweddol yn syth, cysylltwch â’r Heddlu ar 999.
- Mae gan bartneriaid perthnasol Ddyletswydd i Adrodd Plant mewn Perygl (Adran 130) dan Ran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn mewn perygl” yn blentyn sydd: a) yn cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a (b) y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio). Pan fo plentyn wedi cael ei adrodd dan adran 130, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail i gynnal archwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad wedi’i dderbyn yn ymwneud â phlentyn sy’n wynebu risg byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth ar a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth aml-asiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth aml-asiantaeth. Dylai cynrychiolwyr pob awdurdod lleol sy’n berthnasol i’r plentyn ac unrhyw Wasanaeth Troseddau Ieuenctid sy’n berthnasol i’r plentyn fod yn rhan o’r drafodaeth strategaeth aml-asiantaeth. Ni ddylai bod unrhyw oedi cyn ymateb i wybodaeth am blentyn sy’n wynebu risg oherwydd nad yw’r plentyn fel arfer yn byw yn yr awdurdod lleol lle nodir bod problem ddiogelu.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r penderfyniad strategol aml-asiantaeth yn nodi nad oes sail i fwrw ymlaen i Gyfarfod Strategaeth neu i Ymchwiliad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio at waith ataliol i leihau’r tebygolrwydd o risg neu niwed i’r dyfodol.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth, cynllun amddiffyn plant neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth aml-asiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru ac yn nogfen Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 – Trin Achosion Unigol i Amddiffyn Plant mewn Perygl Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Pan fo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd rhai asiantaethau’n cysylltu â’r plentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion fydd yn cael eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y broblem.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gyfeirio at Ganllawiau Ymarfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol megis Camfanteisio’n Droseddol ar Blant; Cam-drin Ar-lein; Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo lles ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Os yw’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun, rhaid cofnodi’r penderfyniad dros hyn ac ystyried atgyfeirio at wasanaethau atal.
- Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle dônt yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn yn benodol o ran cael cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys esboniad o rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys yr hyn mae’n gallu ei wneud a’r hyn nad yw’n gallu ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail eu dymuniadau a’u teimladau, ei annibyniaeth a sut bydd yn gweithio’n gyfan gwbl dros y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – mae’n esbonio hawl statudol plant a phobl ifanc i gael cymorth i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i wneud sylwadau neu gwynion.
Adnoddau
Mae’r sefydliadau hyn ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut mae cysylltu â nhw.
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddysgu am beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio gyda sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Ni fyddan nhw’n eich beirniadu a byddant yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth mae ei hangen arnoch i newid pethau. Gallwch wneud y canlynol:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Archwilio a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae ar gael fel ffynhonnell o help a chymorth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo nad yw plentyn yn cael ei drin yn deg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth am ddim, preifat a chyfrinachol lle gall unrhyw un dan 19 oed gael cefnogaeth a chyngor. Mae gan wefan Childline www.childline.org.uk dudalennau gwybodaeth a chyngor ynghyd â dulliau i’ch helpu chi i ddatrys y problemau eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych chi eisiau siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
Mae NSPCC yn cynnig llinell gymorth am ddim i unrhyw oedolyn neu weithiwr proffesiynol sydd â phryderon am ddiogelu plant gan gynnwys radicaleiddio Llinell Gymorth NSPCC 0808 8005000 neu e-bost help@nspcc.org.uk
https://www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/reporting-abuse/dedicated-helplines/protecting-children-from-radicalisation/
Mae EYST Cymru yn elusen Cymru gyfan sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc du a lleiafrifol ethnig gan gynnwys plant sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio www.eyst.org.uk
Hope Not Hate - grŵp eiriolaeth sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ymgyrchu yn erbyn hiliaeth a ffasgiaeth, ac yn ceisio cyfuno ymchwil â gweithredoedd cymunedol a llawr gwlad i drechu grwpiau casineb mewn etholiadau ac i feithrin gwrthsafiad cymunedol yn erbyn eithafiaeth www.hopenothate.org.uk
Canllaw i deuluoedd ar siarad am radicaleiddio ac eithafiaeth -
https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/adnoddau/canllaw-i-deuluoedd-ar-siarad-am-radicaleiddio-ac-eithafiaeth/
Gweithdy i Godi Ymwybyddiaeth am Prevent (WRAP)
https://www.jisc.ac.uk/training/workshop-to-raise-awareness-of-prevent-wrap
Cyfeiriadau
Adran Addysg (2015) The Prevent duty: departmental advice for schools and childcare providers. Llundain: Adran Addysg.
Adran Addysg (2017) Safeguarding and Radicalisation. Llundain: Adran Addysg
Adran Addysg (2018) Work based learners and the Prevent statutory duty. Llundain: Adran Addysg.
ESTYN (2020) [Atal – pa mor dda y mae ysgolion a gynhelir yn gweithredu eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015](https://www.estyn.gov.wales/sites/www.estyn.gov.wales/files/documents/Prevent - thematic report en.pdf). Cymru: ESTYN
Llywodraeth EM (2011) Strategaeth Prevent (PDF). [Llundain]: Llywodraeth EM.
Llywodraeth EM (2013) Tackling extremism in the UK: report from the Prime Minister’s task force on tackling radicalisation and extremism (PDF). Llundain: Llywodraeth EM.
Y Swyddfa Gartref (2021) - Canllawiau Ar Ddyletswydd Channel: amddiffyn pobl sy'n agored i gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth, Llundain: Y Swyddfa Gartref, https://www.gov.uk/government/publications/channel-and-prevent-multi-agency-panel-pmap-guidance
Y Swyddfa Gartref (2019) Revised Prevent duty guidance for England and Wales: guidance for specified authorities in England and Wales on the duty in the Counter-Terrorism and Security Act 2015 to have due regard to the need to prevent people from being drawn into terrorism. [Llundain]: Y Swyddfa Gartref.
Y Swyddfa Gartref a'r Adran Addysg (2015) How social media is used to encourage travel to Syria and Iraq: briefing note for schools (PDF). Llundain: Y Swyddfa Gartref.
Llywodraeth Cymru (2016) Gwrthsafiad a Pharch: datblygu cydlyniant cymunedol Cymru: Llywodraeth Cymru
Cymhwyster Bagloriaeth Cymru - Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Genedlaethol/Sylfaen. Anghydraddoldeb – Eithafiaeth https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/tystysgrif-her-sgiliau-bagloriaeth-cymru-cenedlaethol-sylfaen/
Prosiect GOT (Cyd-dynnu) www.got.uk.net/
Llywodraeth Cymru, (2020) Cadw Dysgwyr yn Ddiogel – Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol dan Ddeddf Addysg 2002
iwww.gov.uk/government/statistics/individuals-referred-to-and-supported-through-the-prevent-programme-april-2019-to-march-2020
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF