Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ar gyfer pwy mae’r canllaw arfer hwn?
Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed).
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddwyr ifanc a phobl ifanc, y gymuned a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cynorthwyo unigolion ac asiantaethau trwy Gymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau er mwyn cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi dull gweithredu cyson o ran arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw arfer hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu pan fo esgeuluso plant yn effeithio ar blentyn. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai’r ddwy egwyddor ganlynol fod yn sail i drefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol:
- Mae diogelu’n gyfrifoldeb ar bawb: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol, rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran yn llawn yn unigol ac ar y cyd; a
- Dull gweithredu sy’n seiliedig ar y plentyn: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid iddynt fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig ganddo. Dylai hawliau’r plentyn fod wrth wraidd y dull gweithredu a dylai ei fudd gorau fod yn hollbwysig bob amser.
Mae rhai materion yn gyffredin trwy ganllawiau arfer diogelu ac mae rhai’n benodol i’r mater diogelu dan ystyriaeth:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn sicrhau hawl pob plentyn i dyfu’n hŷn mewn ffordd iach, hapus a diogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gynorthwyo’n briodol i adfer wedi cam-driniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Ymagwedd Hawliau Plant yn unol â’r ddyletswydd i roi ystyriaeth ddyledus i’r Confensiwn a dilyn Safonau Cyfranogi Cenedlaethol.
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i sicrhau ymateb cydlynol i faterion diogelu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae Dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sy’n Wynebu Risg dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 Safeguarding Summary
- Mae rhannu gwybodaeth yn ganolog i arfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio fel rheswm i beidio â gwneud hynny. Un o’r amgylchiadau penodol sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth neu niwed difrifol i eraill. Pan na rennir gwybodaeth yn brydlon ac yn effeithiol, gellir gwneud penderfyniadau ynghylch ymateb heb ddigon o wybodaeth a gall hynny arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i risg o niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, dylai ganolbwyntio ar y plentyn a bod ar sail anghenion unigol ac amgylchiadau’r plentyn. Rhaid i blant fod yn rhan ystyrlon o broses cynllunio eu gofal a’u cefnogaeth.
- Ceir tystiolaeth sefydledig bod profi cam-drin domestig yn gallu achosi niwed sylweddol i blant a bod hyn yn digwydd.1 Ehangwyd y diffiniad o niwed sylweddol gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i gynnwys ‘nam a ddioddefir yn sgil gweld neu glywed rhywun arall yn cael ei gam-drin’. Mae hyn yn cydnabod y ffaith fod gweld trais domestig yn gallu cael effaith ddifrifol ar les a datblygiad emosiynol plant.
- Rydym yn gwybod bod plant anabl neu â nam ar eu synhwyrau mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael y diogelwch a’r cymorth y mae eu hangen arnynt ar ôl cael eu cam-drin. Dylai ymarferwyr gydnabod yn agored bod plant anabl neu y mae arnynt nam ar eu synhwyrau yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod yn ogystal â’r rhwystrau y gallent fod yn eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu, a dylent ddarparu unrhyw ddulliau diogelu ychwanegol y mae eu hangen i ddiogelu plant â nam ar eu synhwyrau neu blant anabl.
- Dylai ymarferwyr ymgyfarwyddo â diwylliant a chredau’r teuluoedd maent yn gweithio gyda nhw. Ni ddylai bod ar ymarferwyr ofn holi am ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent fyth anwybyddu arfer a allai fod yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn effro i’r posibilrwydd bod plentyn mewn risg o niwed ni waeth ym mha le mae’n byw, boed hynny’n ofal maeth, lleoliad mabwysiadol neu gartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu’r rhai sydd wedi eu mabwysiadu berthnasoedd a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd neu deulu biolegol arall. Gall y perthnasoedd hyn ac unrhyw gyswllt fod yn gadarnhaol ac yn cael eu croesawu neu gallant fod yn ddigroeso ac yn cael eu hystyried yn risg. Gall profiad blaenorol plant o gamdriniaeth eu gadael mewn risg o brofi anawsterau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylid gweld a chlywed plant Mae tystiolaeth yr Adolygiadau Arfer Plant wedi amlygu’r angen i blant gyfarfod ag ymarferwyr ar eu pennau eu hunain, draw oddi wrth eu rhieni a gofalwyr ac mewn amgylchedd lle maent yn teimlo’n ddiogel fel y cânt siarad am yr effaith bod yr amgylchiadau sydd wedi codi’r pryderon diogelu yn ei chael arnynt. Mae gormod o achosion lle na welwyd plentyn na gofynnwyd am ei farn a’i deimladau neu lle na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando yn uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n seiliedig ar y plentyn ac sy’n hyrwyddo arfer diogelu da.2
- Diben Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw gwella:
- Trefniadau ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
- Trefniadau ar gyfer diogelu dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
- Cymorth ar gyfer pobl y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
Mae’r Ddeddf yn ymwneud â phob math o drais ar sail rhywedd er mwyn cydnabod bod
dynion yn ogystal â menywod yn gallu dioddef trais; bygythiadau o drais neu aflonyddu
sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd
neu gyfeiriadedd rhywiol; a hefyd briodi dan orfod. Mae atal yn agwedd hanfodol ar y gwaith hwn; mae angen i wasanaethau cyhoeddus gydweithio i amddiffyn y rheiny sydd ar hyn o bryd yn profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol rhag dioddef rhagor o niwed a diogelu unrhyw blant yn lleoliad y teulu. Argymhellir ymagwedd systemau cyfan at reoli amlasiantaeth er mwyn lleihau mesurau rheoli argyfwng lle bo’n bosibl ac yn berthnasol.
Beth yw ystyr Cam-Drin Domestig i ni?
Dyma’r diffiniad yn ôl Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015:
ystyr “cam-drin” yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol;
Ystyr “cam-drin domestig” yw cam-drin lle mae’r sawl sy’n ei ddioddef mewn perthynas neu wedi bod mewn perthynas â’r camdriniwr;
Ystyr “trais ar sail rhywedd" yw (a) trais, bygwth trais neu aflonyddu sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol; (b) anffurfio organau cenhedlu benywod; (c) gorfodi rhywun (boed hynny trwy rym corfforol neu orfodi trwy fygythiadau neu ddulliau seicolegol eraill) i ymgymryd â seremoni briodi grefyddol neu sifil (p’un a yw honno’n gyfreithiol rwymol ai peidio);
Dylid dehongli “trais yn erbyn menywod” fel petai hefyd yn cynnwys dioddefwyr gwrywaidd o drais ar sail rhywedd oni bai bod y cyd-destun yn awgrymu fel arall.
Cam-drin perthynas cyfoed
Mae cam-drin perthynas cyfoed yn batrwm o weithredoedd corfforol, rhywiol a/neu emosiynol gwirioneddol neu sy’n cael eu bygwth a gyflawnir gan berson ifanc (rhwng 13 a 18 oed) yn erbyn partner presennol neu gyn-bartner. Gall y cam-drin gynnwys sarhad, gorfodi, achosi embaras neu fychanu rhywun mewn sefyllfa gymdeithasol, aflonyddu rhywiol, bygythiadau a/neu weithredoedd cam-drin corfforol neu rywiol.
Dylid trin plant sy’n cael eu niweidio a phlant sy’n gwneud y niweidio yn yr un modd - fel plant y gallai fod anghenion gofal a chymorth arnynt, a dylai gweithwyr proffesiynol gofio y gall plentyn fod yn droseddwr a hefyd yn ddioddefwr trais.
Beth yw rheolaeth orfodol?
Mae’n drosedd yng Nghymru a Lloegr i rywun ddefnyddio rheolaeth orfodol ar rywun arall. Rhaid adrodd am y math hwn o gam-drin i’r heddlu. Rheolaeth orfodol3 yw pan fo unigolyn y mae gan rywun gyswllt ag ef/â hi yn ymddwyn mewn ffordd gyson sy’n peri i’r dioddefwr deimlo ei fod/bod yn cael ei r(h)eoli neu ei fod/bod yn ddibynnol, yn ynysig neu’n ofnus. Mae’r mathau canlynol o ymddygiad yn enghreifftiau cyffredin o reolaeth orfodol:
- ynysu rhywun o’u ffrindiau a’u teulu
- rheoli swm yr arian sydd gan rywun a sut maen nhw’n ei wario
- monitro gweithgareddau a symudiadau person
- bychanu rhywun, galw enwau arnynt neu ddweud wrthynt eu bod yn ddiwerth dro ar ôl tro
- bygwth cyhoeddi gwybodaeth am rywun neu adrodd amdanynt i’r heddlu neu’r awdurdodau
- niweidio eiddo neu nwyddau cartref rhywun
- bygwth niweidio neu ladd rhywun neu ei phlant/ei blant
- gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol neu gam-drin plant
Anghydfod rhwng rhieni
- Awgryma ymchwil y dylid cydnabod bod perthnasoedd rhwng rhieni, yn benodol sut mae rhieni’n cyfathrebu ac yn ymwneud â’i gilydd, yn un o’r prif ddylanwadau ar arferion magu plant effeithiol ac ar iechyd meddwl plant hirdymor a’u cyfleoedd bywyd yn y dyfodol. Mae rhieni/cyplau sy’n gwrthdaro ac yn wael wrth ddatrys eu hanghydfodau yn peryglu iechyd meddwl a chyfleoedd bywyd hirdymor eu plant. Gall anghydfod dinistriol rhwng rheini effeithio ar blant o bob oedran, gyda’r effaith yn cael ei nodi yn ystod babandod, plentyndod, y glasoed ac oedolaeth. Er bod peth anghydfod mewn perthnasoedd yn normal, mae anghydfodau mynych a dwys nad ydynt yn cael eu datrys yn dda yn gallu effeithio ar blant o unrhyw oedran.4
- Mae ymchwil a wnaed dros y degawdau diwethaf wedi amlygu sut mae profiad plant o anghydfodau hallt ond di-drais rhwng rhieni hefyd yn cael effaith andwyol ar ddatblygiad plant. Awgryma’r ymchwil hon y dylem symud o ystyried anghydfod rhwng rhieni yn nhermau o drais neu ddi-drais o blaid cydnabyddiaeth bod ymddygiad gwrthdrawiadol rhwng rhieni’n bodoli ar draws ystod - gan amrywio o ddistawrwydd dig i drais corfforol. Mae’n bosibl y gall rhaglenni ymyrryd sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng rhieni liniaru goblygiadau negyddol straen, anghydfod a pherthnasoedd yn chwalu mewn teuluoedd ar blant a rhieni, a helpu i atal trosglwyddo ffactorau rhwng y cenedlaethau sy’n amharu ar berthnasoedd teuluol ac yn peri i deuluoedd chwalu.5
Sail dystiolaeth
- Mae profiadau plentyndod negyddol (PPN)6 yn amrywio o ddioddef cam-drin geiriol, meddyliol, rhywiol a chorfforol i gael eu magu mewn cartref lle mae trais domestig, mae alcohol yn cael ei gamddefnyddio, mae’r rhieni’n gwahanu neu mae cyffuriau’n cael eu camddefnyddio. Dengys tystiolaeth fod plant sy’n profi plentyndod straenus o ansawdd gwael yn fwy tebygol o gael amcanion lles gwael. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n cael profiadau cartref neu ofal ansefydlog, plant sydd wedi profi trawma a cham-drin, plant â hunan-barch isel a phlant sy’n cael problemau gydag addysg, iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol/cyffuriau neu ymddygiad troseddol.
- Mae’r risg o blant yn cael eu cam-drin yn gorfforol neu’n rhywiol yn uniongyrchol yn sylweddol uwch pan fo plant yn byw lle mae trais domestig. Mae’r ymchwil yn nodi bod rhwng 30 i 66% o blant yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol pan fônt yn byw lle mae trais domestig ac mae’n amlygu i ba raddau nad oes modd dosbarthu profiadau plant mewn ‘categorïau cam-drin’ unigol.7
- Mae trais domestig yn tanseilio ac yn gallu amharu’n ddifrifol ar y berthynas rhwng y rhiant a’r plentyn. Gall lefelau uchel o straen o ganlyniad i gam-drin parhaus amharu’n ddifrifol ar les corfforol a meddyliol y rhiant nad yw’n cam-drin. Awgryma adolygiad o ymchwil6 fod trais domestig yn debygol o amharu ar allu’r fam i fagu ei phlant ond ceir tystiolaeth bod modd adfer hyn. Mae iechyd gwael y fam yn cynyddu’r tebygrwydd o niwed i blant sy’n agored i drais domestig. Prin mae’r ymchwil i sgiliau rhianta troseddwyr, ond mae llawer yn cael anhawster wrth gydnabod effaith eu trais ar eu plant – dylai ymyriadau fynd i’r afael â hyn. Mae allgáu cymdeithasol, sy’n gallu parhau ar ôl i rieni nad ydynt yn cam-drin yn gadael perthynas gamdriniol, yn cyfrannu at broblemau rhianta ac yn gallu bod yn acíwt i famau o rai cymunedau lleiafrifoedd ethnig, mamau ag anableddau, teuluoedd gyda phlant anabl a mamau digartref.
- Mae tystiolaeth o sesiynau cwnsela Childline am gam-drin domestig ymhlith rhieni i blant yng Nghymru yn cynnwys plant a siaradodd am brofi cam-drin emosiynol a/neu gorfforol. Siaradodd plant hefyd am iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau rhieni ac am gael eu gadael ar eu pennau eu hunain a gorfod gofalu amdanyn nhw eu hunain neu am frodyr/chwiorydd iau.
- Awgryma ymchwil9 fod nifer uchel o achosion lle mae hanes o gam-drin a hanes yn y teulu o drais domestig ymhlith plant a oedd yn derbyn cymorth am ddioddef camfanteisio’n rhywiol ar blant neu ymddygiad rhywiol niweidiol. Mae’r ymchwil yn dod i’r casgliad ei bod yn bwysig tynnu sylw at anghenion plant sydd wedi profi trawma ar ffurf cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol, ac sydd wedi bod yn dyst i gam-drin domestig. Mae’r ymchwil yn dangos cyswllt rhwng anghenion lles nad ymatebir iddynt a fictimeiddio diweddarach trwy gamfanteisio’n rhywiol ar blant.
- Mae ymchwil i brofiadau plentyndod negyddol10 yn awgrymu y cafodd 16% o oedolion yng Nghymru eu magu mewn cartrefi lle roedd trais domestig. Canfuwyd bod oedolion â 4 neu fwy o brofiadau plentyndod negyddol yn 14 gwaith mwy tebygol o fod wedi dioddef trais dros y 12 mis diwethaf ac yn 15 gwaith mwy tebygol o gyflawni trais yn erbyn person arall yn ystod y 12 mis diwethaf. Bydd ymateb i cam-drin domestig a phrofiadau plentyndod negyddol eraill cyn gynted â phosib yn cynorthwyo plant i gael canlyniadau lles gwell ac atal trais pan fyddant yn oedolion.
- Yn ogystal, dengys dadansoddiad11 o ddata’r Arolwg Troseddu fod canran uwch o oroeswyr cam-drin plant yn mynd ymlaen i ddioddef cam-drin domestig pan fyddant yn oedolion, o’u cymharu â’r rhai na chafodd eu cam-drin yn ystod eu plentyndod. Er enghraifft, canfu’r Arolwg Troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr (2016) fod mwy na hanner (51%) o oedolion a gafodd eu cam-drin fel plant yn dioddef cam-drin domestig yn ddiweddarach yn eu bywydau. Mae hyn hefyd yn golygu ei bod yn fwy tebygol bod rhieni, mewn teuluoedd lle mae cam-drin domestig yn effeithio ar blant, wedi profi’r trawma sy’n gysylltiedig â cham-drin a phrofiadau plentyndod negyddol eraill. Mae’n bosibl nad oedd llawer ohonynt wedi cael digon o gymorth i ddelio â hyn.
- Mae cam-drin domestig yn ystod beichiogrwydd yn cael goblygiadau difrifol am iechyd y fam a’r baban.Yn ôl y British Journal of Obstetrics and Gynaecology, bydd un o bob chwe menyw feichiog yn dioddef cam-drin domestig. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod tua 30% o gam-drin domestig yn dechrau neu’n gwaethygu yn ystod beichiogrwydd. Lle mae cam-drin yn digwydd yn ystod beichiogrwydd, mae anaf i’r abdomen, y bronnau a’r organau rhywiol yn gyffredin. O hyn gellir gweld bod cam-drin domestig yn ffactor mewn canran sylweddol o farwolaethau ac afiachusrwydd mamolaeth ac amenedigol.12
- Fel rhan o raglen Plant Iach Cymru13 yn ystod ail dri mis beichiogrwydd, disgwylir i fydwragedd hysbysu ymwelwyr iechyd o unrhyw fenyw feichiog sy’n fam am y tro cyntaf neu y gallai fod angen cymorth ychwanegol arni. Mae’r meini prawf yn cynnwys rhieni gyda phryderon diogelu eisoes neu bresennol, gan gynnwys cam-drin domestig. Pos gwneir atgyfeiriad, gall arwain at adolygiad cynenedigol a fydd yn dechrau o 28ain wythnos y beichiogrwydd. Bydd disgwyliadau rhieni a’u paratoadau i fod yn rhieni yn cael eu trafod a’u hasesu i nodi risgiau a chynhelir asesiad o wydnwch teuluol. Bydd yr asesiad a’r gwerthusiad o’r wybodaeth sydd ar gael yn penderfynu lefel yr ymyrraeth y bydd ei hangen i gefnogi’r teulu, a dylid trafod a chytuno ar hyn gyda’r teulu.
- Cam-drin perthynas cyfoed: Mae plant o Gymru sy wedi cysylltu â Chidline am gam-drin perthynas cyfoed wedi sôn am gael eu cam-drin gan eu partner presennol a’u cyn-bartneriaid yn ystod y berthynas ei hun a chamdriniaeth bresennol gan gyn-bartneriaid. Maent wedi sôn am.
- Dengys ymchwil14 fod pobl ifanc yn gallu bod yn gyfrifol am neu’n dioddef fwlio, aflonyddu rhywiol ac ymddygiadau rhywiol niweidiol eraill mewn lleoliadau addysgol ac maen nhw, ar adegau, wedi cael eu tynnu i mewn i rwydweithiau cyfoedion camdriniol trwy gysylltiadau ysgol. Mae pobl ifanc nad ydynt yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol yn dal yn gallu dod i gysylltiad ag arferion bwlio neu aflonyddu ehangach a normau ac ystrydebau rhywedd niweidiol mewn ysgolion sydd, yn eu tro, yn creu diwylliannau sy’n arwain at gyfoedion yn cam-drin ei gilydd. Mae Diogelu Cyd-destunol yn ddull o ddeall ac ymateb i brofiadau pobl ifanc o niwed sylweddol y tu hwnt i’w teuluoedd. Mae’n cydnabod bod y perthnasoedd gwahanol y mae pobl ifanc yn eu ffurfiol yn eu cymdogaethau, eu hysgolion ac ar-lein yn gallu cynnwys trais a cham-drin.15
- Yn dilyn y r adolygiad gan Banel yr Arbenigwyr Addysg Rhyw a Pherthnasoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) fel rhan statudol o gwricwlwm newydd Cymru a fydd ar waith o 2022. Ar hyn o bryd mae ARhPh yn rhan statudol o’r cwricwlwm sylfaenol yng Nghymru ond yr ysgolion eu hunain sy’n gyfrifol am bennu eu hymagwedd at y pwnc ac weithiau nid yw hyn yn ymestyn y tu hwnt i agweddau biolegol perthnasoedd pobl. Mae ACRh yn newid sylweddol o’r ymagweddau traddodiadol hyn oherwydd ei bod yn ehangu’r maes astudiaeth ac yn pwysleisio ffurfio a chynnal perthnasoedd iach, hapus a boddhaol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gyda Cymorth i Fenywod i ddatblygu Canllaw Arfer Da: Ymagwedd Addysg Gyfan at Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru.
- Canfuwyd ymchwil16 <![endif]--> a wnaed gyda phobl ifanc fod trais mewn perthnasoedd agos yn broblem sylweddol i les plant; bod merched yn adrodd am nifer mwy o ddigwyddiadau treisgar; a bod cyfranogwyr ifanc yr un mor debygol o brofi trais â’r glasoed hŷn. Cam-drin plant, cam-drin domestig a rhwydweithiau cyfoedion ymosodol oedd rhai ffactorau dros ddioddef a bod yn gyfrifol am drais. Merched gyda phartner hŷn oedd yn dioddef y lefelau uchaf o fictimeiddio. Roedd pobl ifanc naill ai’n dweud wrth ffrind am y trais neu heb ddweud wrth neb.
- Cam-drin neu Drais tuag at Riant gan Blentyn/Berson Ifanc (C/APVA)17 – Mae hyn yn disgrifio sefyllfa lle mae plentyn yn cam-drin neu’n dreisgar tuag at riant neu ofalwr (lle mae’r plentyn mewn gofal maeth neu mewn lleoliad gofal gan berthynas). Mae’n bwysig cydnabod bod cam-drin neu drais tuag at riant gan blentyn neu berson ifanc yn debygol o gynnwys patrwm ymddygiadol. Gall hyn gynnwys trais corfforol gan berson ifanc tuag at riant a sawl math gwahanol o ymddygiad camdriniol, gan gynnwys difrod i eiddo, cam-drin emosiynol a cham-drin economaidd/ariannol. Mae llawer o deuluoedd yn llwyddo i ddod o hyd i ffyrdd o ddatrys anghydfod heb ddatblygu ymddygiad camdriniol, ond mae angen cymorth ar rai rhieni a gofalwyr o’r tu allan i’r teulu. Dylid cydnabod y gallai’r fath ymddygiad fod yn arwydd bod y plentyn ei hun wedi gweld cam-drin domestig neu wedi dioddef trawma neu gamdriniaeth arall.
- Mae angen i ni dynnu ffin glir rhwng C/APVA ac ymddygiadau drwg y gellid eu hystyried yn rhan o ymddygiad ‘arferol’ ar gyfer pobl ifanc. Gweithred niweidiol yw C/APVA a wneir gan blentyn gyda’r bwriad i achosi poen corfforol, seicolegol neu ariannol neu i arfer pŵer a rheolaeth dros riant. Er y gallai fod angen i ymarferwyr ymateb i ddigwyddiad unigol o C/APVA, mae’n bwysig deall y patrwm ymddygiadol y tu ôl i’r digwyddiad a hanes y berthynas rhwng y person ifanc a’r rhiant. Ceir peth tystiolaeth y gallai C/APVA fod yn arbennig o gyffredin mewn teuluoedd mabwysiadol.18
- Mae diffyg adrodd am bob math o cam-drin a cham-drin domestig ac, yn ddealladwy, gall rhieni a gofalwyr fod yn anfodlon datgelu neu adrodd am drais gan eu plentyn. Mae rhieni’n nodi teimlo’n ynysig, yn euog ac yn llawn cywilydd ynglŷn â thrais eu plentyn tuag atynt, ac maent yn ofni y caiff eu sgiliau rhianta eu cwestiynu ac y byddant yn cael eu beio gan y rhai maent yn datgelu’r trais iddynt neu na fydd y bobl hyn yn eu credu. Mae llawer o rieni’n poeni na chaiff eu fictimeiddio eu cymryd o ddifrif neu, os ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif, byddant yn cael eu dal yn atebol a gallai eu plentyn gael ei gymryd oddi wrthynt a/neu’n cael cofnod troseddol. Mae hefyd yn bwysig deall patrwm ymddygiadol y teulu; efallai bod brodyr a chwiorydd hefyd yn cam-drin neu’n cael eu cam-drin. Gallai fod hanes o gam-drin domestig neu mae cam-drin domestig yn digwydd ar hyn o bryd rhwng rhieni’r person ifanc. Mae’n bwysig cydnabod effeithiau posib C/APVA ar y rhiant a’r plentyn a darparu cymorth ar gyfer y ddau.
- Dengys ymchwil19 fod pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef cam-drin domestig, stelcio, aflonyddu a thrais rhywiol hefyd yn gallu wynebu rhwystrau penodol i ddefnyddio gwasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys “rhwystrau unigol” sy’n ymwneud â’r gwybodaeth a’u canfyddiadau personol, “rhwystrau rhyngbersonol” sy’n ymwneud â rheoli a cham-drin gan bob eraill ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth rhywedd, a “rhwystrau strwythurol a diwylliannol” sy’n ymwneud â sut mae gwasanaethau presennol wedi cael eu dylunio wrth ystyried anghenion menywod heterorywiol, cisryweddol.*
- Er gwaethaf datblygu gwaith cadarnhaol i fynd i’r afael â cham-drin domestig, dengys profiad ymarferwyr a theuluoedd y gall fod yn anodd cynnal newid a chanlyniadau diogel hirdymor. Yn rhannol, mae hyn oherwydd anawsterau wrth greu ymagwedd gydlynol a chyson ar draws diwylliannau, cyfreithiau ac ymarferwyr y ‘tri byd’, sef dioddefwyr a throseddwyr; amddiffyn a diogelu plant; a chyswllt â phlant.20
10 Egwyddor “Gofyn a Gweithredu”
Mae “Gofyn a Gweithredu” yn broses o ymchwilio penodol i’w harfer ar draws yr awdurdodau perthnasol (fel a enwir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) i nodi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Awdurdodau perthnasol yw awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau tân ac achub ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Y rheswm am hyn yw bod rhaglen hyfforddi “Gofyn a Gweithredu” Llywodraeth Cymru’n cael ei chyflwyno i’r sefydliadau hyn. Fodd bynnag, os dymunai sefydliadau eraill fabwysiadu “Gofyn a Gweithredu”, mae arweiniad ar gael i’w cynorthwyo i ddeall beth yw arfer da a sut dylai’r rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol â phobl ymddwyn wrth ryngweithio â phobl.
- Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn galw am ymateb gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyder proffesiynol i nodi’r materion hyn, gofyn amdanynt ac ymateb yn effeithiol yn hanfodol i arfer da ar draws yr awdurdodau perthnasol.
- Dylai’r rheiny sy’n datgelu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth yr ardal.
- Mae gan wasanaethau cyhoeddus rôl bwysig wrth ymdrin â’r materion hyn, trwy gynorthwyo cleientiaid ac atgyfnerthu’r gwasanaethau maent yn eu derbyn. Mae angen ymagwedd fwy cyson ar draws Cymru i nodi’r rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
- Ni fydd cleientiaid bob amser yn dweud wrth weithwyr proffesiynol am eu profiad heb gael eu hannog. Rôl y gweithiwr proffesiynol yw ystyried a fyddai’n briodol holi cwestiynau uniongyrchol a sensitif mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol.
- Mae angen eglurder ar gleientiaid ynghylch sut caiff eu cyfrinachedd ei drin.
- Er nad yw byth yn groesholiad, nid yw “holi a gweithredu” yn ymyriad unigol. Mae pob cwestiwn yn gyfle i gynnig cymorth. Dylai proses o ymholi penodol gynnwys sesiynau dilynol gyda dioddefwyr y tu hwnt i nodi a chwestiynau ailadroddus.
- Mae cael sgwrs â chleient yn well na defnyddio offeryn gwirio. Gall cwestiwn cyffredinol am brofiad rhywun o gam-drin arwain at ddatgeliad o sawl math o gam-drin.
- Dylid atgyfnerthu partneriaethau rhwng darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a darparwyr arbenigol lleol er mwyn darparu polisi ac arfer mewn ffordd dwy cynhwysfawr.
- Rhaid i broses o “holi a gweithredu” gael ei hategu gan hyfforddiant ac arweinyddiaeth.
- Mae cyfleoedd coll i nodi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyfleoedd coll i atal cam-drin ymhellach, nodi’r risg i blant ac arbed bywydau.
Dylai ymarferwyr sy’n dod i gysylltiad â rhiant neu blentyn lle maent yn credu bod cam-drin domestig yn digwydd a lle, ar ôl trafod yr achos â rheolwr a/neu arweinydd diogelu, teimlir nad achos o blentyn mewn risg ydyw, gymryd camau gweithredu o hyd.
Mae siarad â’r rhiant nad yw’n cam-drin am wasanaethau cymorth i deuluoedd ataliol a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn bwysig a chyda chydsyniad y rhiant hwnnw, dylid gwneud atgyfeiriad i’r gwasanaethau lleol. Gallai atal ac ymyrryd yn gynnar gael effaith sylweddol ar leihau goblygiadau negyddol hirdymor cam-drin domestig ar blant.21
- Ymateb i ddigwyddiadau o gam-drin domestig pan adroddir amdanynt i’r heddlu: Mae arfer proffesiynol awdurdodedig y Coleg Plismona o ran cam-drin domestig yn nodi22 y dylai swyddogion sy’n ymchwilio i ddigwyddiadau o gam-drin domestig gael gwybod a oedd plentyn yn bresennol yn ystod y digwyddiad, neu a yw plentyn yn preswylio fel arfer yn y cyfeiriad lle y digwyddodd. Pan nad yw swyddogion yn gweld plant, dylent ofyn a oes plant yn byw yn y cyfeiriad a dylent chwilio am arwyddion o blant, megis dillad a theganau. Dylent edrych mewn ystafelloedd gwely. Os dywedir wrthynt fod plant yn yr eiddo, dylai swyddogion sicrhau eu bod yng weld ac yn siarad (gan ddibynnu ar oedran y plentyn) â phob plentyn i nodi’n gadarnhaol ei fod yn ddiogel ac yn iach.
- Bydd yr heddweision yn cynnal Gwiriad Diogel ac Iach ac yn cwblhau Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd (HDC) neu ddogfen gyfatebol eu heddlu penodol sy’n rhannu gwybodaeth am y plentyn a’r digwyddiad ag asiantaethau partner perthnasol. Nid mater i’r heddlu yn unig mae ymateb i gam-drin domestig. Nid yw Gwiriadau Diogel ac Iach yn gwarantu nad yw cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn ac nid ydynt yn disodli prosesau ar gyfer plant mewn perygl.
- Mae Operation Encompass yn ddull sy’n cynnwys partneriaeth rhwng awdurdod lleol ac awdurdod heddlu i ddiogelu a chefnogi plant sydd wedi gweld a/neu sydd wedi bod yn bresennol yn ystod digwyddiad cam-drin domestig. Ar ôl digwyddiad o’r fath, bydd plant yn aml yn cyrraedd yr ysgol yn ofidus a heb ôl paratoi. Nod Operation Encompass yw sicrhau bod staff priodol yr ysgol yn cael gwybod cyn gynted â phosib er mwyn rhoi cymorth perthnasol a phwrpasol I blant mewn ffordd sy’n golygu eu bod yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u cynnwys. Yn dilyn digwyddiad cam-drin domestig lle roedd plentyn yn bresennol, bydd yr heddlu’n hysbysu ysgol y plentyn a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae ysgolion yn cynnig amrywiaeth o ymatebion gan gynnwys ystyried pecyn cymorth cydlynol ar gyfer y plentyn a’r teulu – megis y Tîm o Amgylch y Teulu. Mae’r dull eisoes wedi’i fabwysiadu mewn rhai ardaloedd o Gymru.
Ymateb cymesur
- Os yw plentyn yn wynebu risg uniongyrchol, cysylltwch â’r heddlu ar 999
- Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth na all ei rieni/gofalwyr eu diwallu heb gymorth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol er mwyn asesu ei anghenion.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 130) dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn mewn perygl” yn blentyn sydd:
- a) yn profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu mewn perygl o wneud hynny; ac
- b) ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion hynny ai peidio).
Pan adroddir am blentyn dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad sydd wedi’i dderbyn yn ymwneud â phlentyn mewn perygl, byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros eu penderfyniad.
- Dylai ymarferwyr geisio gweithio gyda gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i sicrhau y darperir y cymorth priodol i rieni nad ydynt yn cam-drin yn y teulu. Mae gwybodaeth am gymorth ar gael yn Byw Heb Ofn . Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800. Gwasanaeth testun: 078600 77333 E-bost: info@livefearfreehelpline.wales Dylid ystyried a yw rhiant nad yw’n cam-drin yn oedolyn mewn perygl. Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 128) dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn byw yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth o ran a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth amlasiantaeth.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth yn nodi nad oes sail dros symud ymlaen at Gyfarfod Strategaeth neu at Ymchwiliad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio ar gyfer gwaith ataliol i leihau tebygrwydd o berygl niwed yn y dyfodol.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth neu gynllun amddiffyn plant ar waith eisoes neu mae’r plentyn yn derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru a Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Lle bo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr sy’n mynd i’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd rhai asiantaethau’n dod i gysylltiad â’r plentyn am y tro cyntaf oherwydd y materion amddiffyn plant dan sylw. Dylid gwahodd gwasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i’r Cyfarfod Strategaeth lle bo’n berthnasol.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y broblem.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gyfeirio at Ganllawiau Arfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ynglŷn ag unrhyw faterion cysylltiedig.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo llesiant ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Dylid rhoi ystyriaeth lawn i rôl aelodau’r teulu fel ffynhonnell cymorth a rôl ffactorau amddiffynnol o fewn teulu’r plentyn a’r rhwydwaith ehangach. Yn ogystal dylid ystyried yr angen i wneud atgyfeiriadau perthnasol o ran rhieni nad ydynt yn cam-drin ac ystyried priodoldeb atgyfeiriad ar gyfer y rhiant camdriniol.
- Os yw Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytuno nad oes angen cynllun, dylid cofnodi’r rhesymeg dros benderfynu hyn.
- Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn mewn amgylchiadau penodol i dderbyn cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys esboniad o rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys yr hyn mae’n gall ei wneud a’r hyn nad yw’n gallu ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail eu dymuniadau a’u teimladau, ei annibyniaeth a sut bydd yn gweithio’n unig dros y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – mae’n esbonio hawl statudol plant a phobl ifanc i gael cymorth i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i wneud sylwadau neu gwynion.
Atodiadau
Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw. Mae’r sefydliadau hyn ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddysgu am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall yn fodlon. Ni fyddant yn eich beirniadu a byddant yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth y mae ei hangen arnoch i newid. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru am ddim ac yn gyfrinachol. Mae’n ffynhonnell o help a chymorth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo nad yw plentyn yn cael ei drin yn deg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
Dylai ymarferwyr roi gwybod i rieni nad ydynt yn cam-drin am y cymorth sydd ar gael iddynt.
Mae gwybodaeth am gymorth ar gael yn Byw Heb Ofn.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800.
Gwasanaeth testun: 078600 77333
Ebost: info@livefearfreehelpline.wales
*Cisgender is a term for people whose gender identity matches the sex that they were assigned at birth.
1 UNICEF, 2006, Behind Closed Doors: The Impact of Domestic Violence on Children, https://www.unicef.org/media/files/BehindClosedDoors.pdf
2https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/175391/Munro-Review.pdf
3http://rightsofwomen.org.uk/wp-content/uploads/2016/03/ROW--Legal-Guide-Coercive-control-final.pdf
4Harold,G; Acquah,D; H Chowdry,H; and Sellers,R (2016) What works to enhance interparental relationships and improve outcomes for children? EIF (Summary: pp 5) https://www.eif.org.uk/report/what-works-to-enhance-interparental-relationships-and-improve-outcomes-for-children/
5https://tavistockrelationships.ac.uk/policy-research/policy-briefings/969-impact-couple-conflict-children
6http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/88524
7http://www.equation.org.uk/wp-content/uploads/2012/12/Every-Child-Matters-Domestic-Violence-and-Child-Abuse.pdf
8https://www.barnsley.gov.uk/media/4345/domesticviolencesignpostsresearchinpractice-july2012.pdf
9 Hallett,,S; Deerfield,K; and Hudson,K. (Forthcoming) The same but different? Exploring the links between trauma, sexual exploitation and harmful sexual behaviours, Awaiting publication.
10http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/PRIDDocs.nsf/7c21215d6d0c613e80256f490030c05a/d488a3852491bc1d80257f370038919e/$FILE/ACE%20Report%20FINAL%20(E).pdf
11https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/articles/peoplewhowereabusedaschildrenaremorelikelytobeabusedasanadult/2017-09-27
12http://www.domesticviolencelondon.nhs.uk/1-what-is-domestic-violence-/23-domestic-abuse-during-pregnancy.html
13https://gov.wales/docs/dhss/publications/160926healthy-childrenen.pdf
14https://www.contextualsafeguarding.org.uk/assets/documents/Learning-Project-1-Briefing.pdf
15https://contextualsafeguarding.org.uk/about/what-is-contextual-safeguarding
16NSPCC PartnerExploitationViolenceTeenageIntimateRelationshipsSummary.pdf
17https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/420963/APVA.pdf
18http://sure.sunderland.ac.uk/6896/1/CPV%201st%20impressions.pdf
19https://gov.wales/statistics-and-research/barriers-faced-lesbian-gay-bisexual-transgender-people-accessing-domestic-abuse-sexual-violence-services/?lang=en
20https://innovationcsc.co.uk/wp-content/uploads/2017/10/2.22_Domestic-Violence-1.pdf
21https://www.eif.org.uk/report/early-intervention-in-domestic-violence-and-abuse
22https://www.app.college.police.uk/app-content/major-investigation-and-public-protection/domestic-abuse/first-response/#children
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF