Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ar gyfer pwy mae’r canllaw ymarfer hwn?
Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio â phlant (hyd at 18 oed).
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddwyr ifanc a phobl ifanc, y gymuned a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (yn cynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cynorthwyo unigolion ac asiantaethau trwy Gymru i ddeall eu rolau a chyfrifoldebau er mwyn cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi dull gweithredu cyson o ran arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw ymarfer yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu pan fo esgeuluso plant yn effeithio ar blentyn. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai’r ddwy egwyddor ganlynol fod yn sail i drefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol:
- mae diogelu’n gyfrifoldeb ar bawb: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol, rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran yn llawn yn unigol ac ar y cyd; a
- dull gweithredu sy’n rhoi’r plentyn yn ganolbwynt: i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid iddynt fod ar sail dealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a beth sy’n bwysig ganddo. Dylai hawliau’r plentyn fod wrth graidd y dull gweithredu a dylai ei fudd gorau fod yn hollbwysig.
Mae rhai materion yn gyffredin trwy ganllawiau ymarfer diogelu ac mae rhai’n benodol i’r mater diogelu dan ystyriaeth:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn sicrhau hawl pob plentyn i dyfu’n hŷn yn iach, hapus a diogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gynorthwyo’n briodol i adfer wedi cam-driniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull ar Sail Hawliau'r Plentyn yn unol â’r ddyletswydd i roi ystyriaeth ddyledus i’r Confensiwn a dilyn Safonau Cyfranogi Cenedlaethol.
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i sicrhau ymateb cyd-berthnasol i faterion diogelu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae Dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sy’n Wynebu Risg dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Diogelu Deddf Gwasanathau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Mae rhannu gwybodaeth yn ganolog i ymarfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio fel rheswm i beidio â gwneud hynny. Un o’r amgylchiadau penodol sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth yw atal cam-driniaeth neu niwed difrifol i eraill. Pan na rennir gwybodaeth yn brydlon ac effeithiol, gellir gwneud penderfyniadau ynghylch ymateb heb ddigon o wybodaeth a gall hynny arwain at ymarfer diogelu gwael a gadael plant yn wynebu risg o niwed.
- Mae cyfran y plant ar Gofrestr Amddiffyn Plant oherwydd esgeuluso wedi aros yn gymharol gyson a dyma’r rheswm mwyaf cyffredin yn gyson yng Nghymru dros fod ar Gofrestr Amddiffyn Plant. Yn 2016/2017 cofrestrwyd 43% o’r plant ar Gofrestr yng Nghymru oherwydd esgeuluso.1Gall esgeuluso beri niwed sylweddol i blant ac mae’n digwydd, a gall esgeuluso yn ystod plentyndod effeithio ar les gwael oedolion.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, dylai ganolbwyntio ar y plentyn a bod ar sail anghenion unigol ac amgylchiadau’r plentyn. Rhaid i blant fod yn rhan ystyrlon o broses cynllunio eu gofal a chefnogaeth.
- Rydym yn gwybod bod plant anabl neu â nam ar eu synhwyrau yn wynebu risg mwy o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael y diogelwch a’r cymorth y mae eu hangen arnynt ar ôl cael eu cam-drin. Dylai ymarferwyr gydnabod yn agored bod plant anabl neu y mae arnynt nam ar eu synhwyrau yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, a chydnabod y rhwystrau y gallant eu hwynebu yn arbennig o ran cyfathrebu, a dylent alluogi unrhyw ddulliau diogelu ychwanegol y mae eu hangen i ddiogelu plant â nam ar eu synhwyrau neu blant anabl.
- Dylai ymarferwyr ymgyfarwyddo â diwylliant a chredau’r teuluoedd maent yn gweithio â nhw. Ni ddylai bod ar ymarferwyr ofn holi am ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent fyth anwybyddu arferion a allai fod yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn effro i’r posibilrwydd bod plentyn mewn risg o niwed waeth ym mhle mae’n byw, boed hynny’n ofal maeth, lleoliad mabwysiadol neu gartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu’r rhai sydd wedi eu mabwysiadu berthnasoedd sy’n cynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd neu deulu biolegol arall. Gall y perthnasoedd hyn ac unrhyw gyswllt fod yn gadarnhaol ac fe’u croesewir neu gallant fod yn annymunol ac yn risg. Gall profiad blaenorol plant o gamdriniaeth eu gadael yn wynebu risg o brofi anawsterau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylid gweld a chlywed plant Mae tystiolaeth yr Adolygiadau Ymarfer Plant wedi amlygu’r angen i blant gyfarfod ag ymarferwyr ar eu pennau eu hunain, draw oddi wrth eu rhieni a gofalwyr ac mewn amgylchedd lle maent yn teimlo’n ddiogel fel y cânt siarad am effaith yr amgylchiadau sydd wedi codi’r pryderon diogelu amdanynt. Mae gormod o achosion lle na welwyd plentyn na gofyn ei farn a’i deimladau neu lle na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando yn uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n blentyn-ganolog ac sy’n hyrwyddo ymarfer diogelu da.2
Beth yw ystyr Esgeuluso?
Mae’r diffiniad canlynol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: “esgeulustod” yw peidio â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy'n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person neu yn achos plentyn, amharu ar ei ddatblygiad).3
Esgeuluso yw peidio ag ateb anghenion sylfaenol a hanfodol plentyn, yn cynnwys anghenion corfforol, emosiynol a meddygol. Gall gynnwys peidio â rhoi digon o fwyd, dillad a lloches, peidio â diogelu plentyn rhag niwed corfforol ac emosiynol a pheidio â rhoi gofal meddygol neu driniaeth ddigonol. Gall ddigwydd yn ystod beichiogrwydd o ganlyniad i’r fam yn camddefnyddio sylweddau. Gall hefyd ddigwydd cyn geni’r plentyn pan nad yw rhiant yn paratoi’n briodol at enedigaeth y plentyn, ddim yn ceisio gofal ôl enedigol a/neu ymddwyn mewn ffordd sy’n peri risg i’r babi. Gall esgeulustod fod ar wahanol ffurfiau, yn amrywio o arwyddion corfforol amlwg, megis dillad annigonol i adael plant ifainc ar eu pennau eu hunain adref neu yn y stryd am gyfnodau hir. Gall plant fod heb gefnogaeth rhiant digonol i fynd i’r ysgol, gallant fethu apwyntiadau iechyd a chael eu hanwybyddu pan fyddant mewn gofid.
Esgeuluso corfforol: Mae dyletswydd ar riant neu ofalwr i ofalu am anghenion sylfaenol plentyn, sy’n cynnwys rhoi bwyd, lloches a dillad iddo a’i gadw yn lân a hylan. Mae peidio ag ateb yr anghenion sylfaenol hyn yn esgeuluso corfforol.
Esgeuluso goruchwyliol: Pan nad yw plentyn/gofalwr yn rhoi lefel ddigonol o oruchwyliaeth a chanllaw i sicrhau diogelwch plentyn a’i amddiffyn rhag niwed. Er enghraifft, efallai caiff plentyn ei adael ar ei ben ei hun neu gyda gofalwyr amhriodol neu efallai na osodir terfynau ymddygiad priodol (er enghraifft am ryw dan oed neu ddefnyddio alcohol).
Esgeuluso maeth: Pan na chaiff plentyn ddigon o galorïau neu faeth er mwyn tyfu’n arferol (weithiau gelwir hyn yn ‘fethu â ffynnu’). Ar ei eithaf, gall esgeuluso maeth arwain at ddiffyg maeth.
Esgeuluso emosiynol: Mae ar blentyn anghenion emosiynol yn ogystal â chorfforol ac addysgol ac os nad yw rhieni a gofalwyr yn ateb yr anghenion hyn, dyma yw esgeuluso emosiynol. Gallai esgeuluso emosiynol olygu na chaiff plentyn ddigon o sylw, symbyliad neu anwyldeb y mae arno eu hangen gan riant neu ofalwr, ond gall hefyd fod yn fwy bwriadol na hyn. Gall esgeulustod emosiynol arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor ac arwain at broblemau wrth gynnal perthnasau iach â phartneriaid, cyfeillion a hyd yn oed eu plant eu hunain pan fônt yn oedolion. Mae ymchwil wedi dangos y gall rhiant nad yw ar gael yn emosiynol neu nad yw’n ymateb yn emosiynol fod yn arbennig o niweidiol i’r plentyn. Gall ddigwydd os oes gan y rhiant anawsterau iechyd, os yw’n camddefnyddio sylweddau neu alcohol neu os yw anawsterau eraill megis trais domestig yn mynd â’i sylw yn ddi-drai. Gall rhieni fod yn llai tebygol o gwyno am eu plentyn mewn sefyllfaoedd felly ac mae arsylwi ar y rhyngweithio yn benodol bwysig. Nid yw hyn yn awgrymu bod pob rhiant y mae ganddo e.e. anawsterau iechyd meddwl yn methu â bod ar gael yn emosiynol ar gyfer ei blant.4 Mae esgeuluso emosiynol yn ffurf o gamdriniaeth5 sydd ynghudd yn arbennig ac mae adnoddau ar gael gan yr NSPCC, sy’n ystyried esgeuluso emosiynol ar wahanol adegau yn natblygiad y plentyn.6
Esgeuluso meddygol: Mae hyn yn cynnwys rhiant neu ofalwr yn lleihau difrifwch salwch neu anghenion iechyd (yn cynnwys iechyd y geg) plentyn, neu yn eu hanwybyddu ac yn peidio â chyrchu sylw meddygol neu roi meddyginiaeth a thriniaeth. Mae hyn yr un mor berthnasol i famau beichiog nad ydynt yn paratoi’n ddigonol at eni’r plentyn, nad ydynt yn ceisio gofal ôl enedigol a/neu sy’n ymddwyn mewn ffyrdd sy’n peri risg i’r babi trwy gamddefnyddio sylweddau er enghraifft. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno Canllaw Gofal Sylfaenol: ‘Plant a phobl ifanc na chant eu hebrwng i apwyntiadau gofal iechyd’. Mae’r canllaw’n nodi y gall methu apwyntiadau fod yn ddangosyddion yn achos rhai plant eu bod yn wynebu risg uwch o gam-drin neu esgeuluso. Iechyd y geg: Fel rhan o raglen Plentyn Iach Cymru, mae Ymwelwyr Iechyd yn gweithredu menter Codwch y Wefus, sy’n rhan annatod o Gynllun Gwên Llywodraeth Cymru i wella iechyd y geg plant Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Canllaw ar gyfer timau deintyddol yng Nghymru. Afiechyd deintyddol ac esgeuluso yn cynnwys peidio â chadw at apwyntiadau deintyddol pan fo’r rhiant / gofalwyr yn gwybod bod y plentyn mewn poen neu beidio â cheisio gofal deintydd pan fo’r plentyn mewn poen.
Esgeuluso addysgol: Mae hyn yn cynnwys rhieni neu ofalwyr yn peidio â sicrhau bod plentyn yn cael addysg briodol.7 Gall rhieni ddewis rhoi addysg briodol i’w plentyn trwy ei anfon i’r ysgol neu trwy roi addysg yn y cartref iddo. Mae’n bosibl bod angen cymorth ar rai rhieni a’u plant er mwyn cysylltu ag addysg a phan fo rhieni’n gwneud ymdrechion rhesymol i ymgysylltu â’r cymorth hwn, dylid defnyddio synnwyr cyffredin wrth benderfynu a oes esgeuluso addysgol ai peidio. Mae trefniadau ar gyfer ymateb i blant mewn oedran ysgol statudol nad ydynt yn cael addysg yng nghanllaw statudol Llywodraeth Cymru; dylid dilyn y canllaw hwn yn gyntaf. Mae cyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol ac ysgol i geisio olrhain pob plentyn sy’n stopio mynd i gael addysg. Mae hyn yn hanfodol oherwydd bod posibilrwydd bob tro bod y plentyn neu berson ifanc ar goll oherwydd ei fod yn wynebu risg o niwed sylweddol. Mae Canllaw Ymarfer Cymru ar Ddiogelu plant sy’n derbyn addysg yn y cartref hefyd ar gael ac mae Canllaw Statudol wedi ei ddiweddaru ar Addysg yn y Cartref Ddewisol yn cynnwys gwybodaeth diogelu ar y gweill.
Gall y nodweddion esgeuluso canlynol ei gwneud yn anos i ymarferwyr ddeall pan gyrhaeddir trothwy ar gyfer ymyrryd statudol:8
- Gall natur gronig camdriniaeth fel hyn beri i ymarferwyr arfer ag ymddangosiad plentyn a pheidio â holi am ddiffyg cynnydd;
- Yn annhebyg i gam-drin corfforol er enghraifft, prin y bydd profi esgeulustod yn arwain at argyfwng sy’n gofyn am gamau gweithredu amlwg ac uniongyrchol;
- Gall canfod esgeuluso fod yn heriol mewn rhai achosion oherwydd bod angen edrych y tu hwnt i gyfnodau rhianta unigol ac ystyried parhad, amlder, hyd a lled a hollbresenoldeb ymddygiad rhianta a all ei wneud yn niweidiol a difrïol.
- Mae amharodrwydd i farnu patrymau o ymddygiad rhieni, yn benodol os ystyrir bod ei wraidd mewn diwylliant neu os ydyw’n gysylltiedig ag anfantais cymdeithasol megis tlodi;
- Efallai nad yw’r plentyn yn dioddef esgeuluso yn unig, ond ffurfiau eraill ar gam-drin hefyd.
Sail tystiolaeth
- Gall esgeuluso niweidio datblygiad plentyn yn sylweddol. Er bod tystiolaeth yn dangos y gall esgeuluso fod yn benodol niweidiol yn y blynyddoedd cynnar pan all effeithio ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol a niwrofiolegol, gall niweidio datblygiad trwy gydol y plentyndod a’r glasoed. Gall canlyniadau esgeuluso fod yn hirdymor, a phara ymhell i fywyd oedolyn.9
- Mae’n bosibl y bydd ymarferwyr yn poeni yr ystyrid eu bod yn barnu pan fônt yn gweithio â theuluoedd difreintiedig a gall hyn effeithio ar sut y byddant yn ystyried a yw’r plentyn yn dioddef niwed.10
- Prin y bydd esgeuluso’n arwain at argyfwng sy’n gofyn am weithredu’n syth; yn aml bydd yn digwydd ar y cyd â ffurfiau eraill o gam-drin a gall ymarferwyr arfer â natur gronig esgeuluso. Mae ymateb effeithiol hefyd yn gofyn am i ymarferwyr ystyried ymhellach nag enghreifftiau o rianta unigol a deall yr esgeuluso yn ei gyd-destun.11
- Mae plant sy’n cael eu hesgeuluso yn annhebygol o fynegi’r angen am gymorth neu ofyn amdano gan asiantaethau statudol ac mae’n debygol bod eu rhieni heb allu digonol i ddod o hyd i a defnyddio gwasanaethau cymorth ffurfiol. Mae esgeulustod yn digwydd ar sbectrwm ac ystyrir bod gan wasanaethau cynhwysol rôl allweddol o ran adnabod ac ymateb i arwyddion o esgeuluso a rhoi cymorth cynnar mewn achosion o esgeuluso lefel isel a gwneud atgyfeiriadau priodol. Mae esgeuluso cronig yn aml wedi gwreiddio ac mae ymchwil yn awgrymu bod tueddiad bod teuluoedd ‘i mewn ac allan o wasanaethau’ a bod esgeuluso’n dod yn ‘or-gymhleth ac ynghlwm mewn prosesau’.12
- Mewn achosion o esgeuluso cronig (yn hytrach na digwyddiadau unigol difrifol), mae llawer o asiantaethau ynghlwm a cheisir nifer o ymyriadau dros amser heb lawer o effaith. Gall teuluoedd brofi nifer o atgyfeiriadau ac ymyriadau dros nifer o flynyddoedd a bydd prif ymarferwyr yn newid, gan arwain at sefyllfa lle bydd y rheiny’n ceisio hybu newid heb gydnabod cylch blaenorol o wella am gyfnod byr cyn syrthio’n ôl i’r hen drefn.13 Mae’n arbennig o bwysig casglu gwybodaeth hanesyddol a thystiolaeth am achos o esgeuluso posibl er mwyn ffurfio amserlen i lywio penderfyniadau am y risg i les a datblygiad plentyn.
- Mae tystiolaeth sy’n deillio o arfer14 ac Adolygiadau Ymarfer Plant yn awgrymu y gall ymarferwyr ganolbwyntio ar anghenion y rhiant yn achosion teuluoedd lle mae esgeuluso oherwydd diffyg gallu rhianta yn gysylltiedig â materion megis camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl neu gam-drin domestig, yn hytrach na’r plentyn, hyd yn oed wrth ddilyn gweithdrefnau diogelu plant. Felly bydd y cymorth ar gyfer y rhiant yn bennaf er mwyn cynorthwyo ei allu i rianta ac mae’n bosibl nad ystyrir a yw hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i’r plentyn.
- Mae tystiolaeth hefyd o ‘ffug optimistiaeth’ mewn achosion o esgeuluso lle bydd ymarferwyr yn nodi bod rhieni yn ymgysylltu ond nad ydynt yn ystyried a yw’r newid yn digwydd mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i brofiadau’r plentyn. Gall achosion o esgeuluso hefyd fod yn benodol agored i ‘smalio cydymffurfio’15 pan fydd rhiant neu ofalwr yn cymryd arni ei fod yn cydweithio â’r gwasanaethau i osgoi codi amheuon a thawelu pryderon. Mae’n bwysig sicrhau’r ffeithiau a chael tystiolaeth am yr hyn sy’n digwydd go iawn neu’r llwyddiant a wnaed er mwyn peidio â cholli golwg ar y sefyllfa.
- Gall esgeuluso ddigwydd gyda ffurfiau eraill ar gam-drin. Yng Nghymru, roedd 126 plentyn wedi cofrestru ar gyfer mwy nag un math o gam-drin ar gofrestr amddiffyn plant yn 2016/7. Roedd rhan fwyaf y plant a oedd ar y gofrestr oherwydd mwy nag un math o gam-drin yn cynnwys esgeuluso: esgeuluso a cham-drin chorfforol (76%) ac esgeuluso a cham-drin rhywiol (14%).16
- Gall esgeuluso arwain at farwolaeth pan fydd yn digwydd ar ei ben ei hun a phan fydd yn digwydd ar y cyd â chamdriniaeth arall. Yn Lloegr, canfu dadansoddiad cenedlaethol o Adolygiadau Achosion Difrifol bod esgeuluso yn ffactor sylweddol yn 60% o’r achosion.17 Mae rhan fwyaf yr achosion o farwolaeth plant ifanc iawn sy’n gysylltiedig ag esgeuluso yn farwolaethau trwy ddamwain a marwolaethau babanod yn annisgwyl pan fo pryderon eisoes am rianta o safon wael a goruchwylio gwael ac amgylchiadau byw peryglus ac weithiau aflan sy’n rhoi diogelwch plant yn y fantol.18
Ymateb cymesur
- Os yw plentyn yn wynebu risg uniongyrchol, cysylltwch â’r heddlu ar 999
- Os yw unrhyw asiantaeth sy’n gysylltiedig â phlentyn yn pryderu bod ganddo anghenion gofal a chymorth na all ei riant/rieni/gofalwr/gofalwyr eu hateb heb gymorth dylai geisio cydsyniad y rhiant i gyfeirio’r plentyn at wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth eu hawdurdod lleol i asesu ei anghenion.
- Mae Dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sy’n Wynebu Risg (Adran 130) dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru). Mae Adran 130(4) yn diffinio “plentyn sy’n wynebu risg” fel plentyn sy’n:
- a) profi neu’n wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu fathau eraill o niwed; ac
- b) y mae ganddo anghenion gofal a chymorth (p’un ai a yw’r awdurdod yn diwallu'r anghenion hynny ai peidio).
Os adroddir am blentyn dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail ar gyfer ymchwilio dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad a ddaeth i law yn berthnasol i blentyn sy’n wynebu risg, byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymeg dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdod lleol y mae plant yn byw yn ei ardal benderfynu ar sail tystiolaeth a ddylid galw trafodaeth strategaeth aml-asiantaeth er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer penderfynu ar ymateb ar gyfer y plentyn, yn cynnwys cynnal Cyfarfod Strategaeth aml-asiantaeth ai peidio. Dylai cynrychiolwyr pob awdurdod lleol sy’n berthnasol i’r plentyn ac unrhyw Wasanaeth Troseddwyr Ifainc sy’n berthnasol i’r plentyn fod yn rhan o’r drafodaeth aml-asiantaeth. Ni ddylai bod unrhyw oedi cyn ymateb i wybodaeth am blentyn mewn risg oherwydd nad yw’r plentyn fel arfer yn byw yn yr awdurdod lleol lle cafwyd bod problem ddiogelu.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r drafodaeth strategaeth aml-asiantaeth yn nodi nad oes seiliau ar gyfer bwrw ymlaen at Gyfarfod Strategaeth neu Ymholiad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio at waith arbedol i ostwng y tebygrwydd y bydd risg yn y dyfodol.
- Os oes cynllun gofal a chymorth eisoes neu os yw’r plentyn mewn gofal neu mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth aml-asiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer datblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru ac yn Cydweithio i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 – Trin Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy’n Wynebu Risg gan Lywodraeth Cymru a gyflwynwyd dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Pan fo’n bosibl, dylai’r ymarferwyr sy’n mynd i’r Cyfarfod Strategaeth adnabod y plentyn yn uniongyrchol. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai y daw rhai asiantaethau i gysylltiad â’r plentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion a drafodir yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes gwybodaeth neu dystiolaeth yn berthnasol i’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach na’r mater dan sylw.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at set o gamau gweithredu i gyflwyno gwybodaeth ar gyfer datblygu neu adolygu amddiffyn plant a/neu gynllun gofal a chymorth ar gyfer y plentyn. Rhaid i’r cynllun ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hybu lles ac atal niwed yn y dyfodol a rhaid iddo beidio â chanolbwyntio’n unig ar reoli risg. Ni ddylai cymorth i deuluoedd lle canfuwyd esgeulustod ganolbwyntio’n unig ar rianta. Dylid ystyried yr angen am gymorth therapiwtig ac ymyriadau i helpu plant i adfer wedi effaith esgeulustod.
- Os yw Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytuno nad oes angen cynllun, dylid cofnodi’r rhesymeg dros benderfynu hyn.
- Mae gan blant a phobl ifanc hawl ar gynnig gweithredol eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol pan ânt i ofal neu pan ddônt yn destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol. Gwneir y ‘cynnig gweithredol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. ‘Cynnig gweithredol’ yw rhannu gwybodaeth am hawl statudol a hawl plentyn mewn amgylchiadau arbennig i gael cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys eglurhad am rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys beth gall a beth na all ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail ei ddymuniadau a theimladau, ei annibyniaeth a sut bydd yn gweithio’n unig dros y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – eglura hawl statudol plant a phobl ifanc i gymorth i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i wneud sylwadau neu gwynion.
Atodiadau
Mae’r sefydliadau hyn yno i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.
Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i gael help wrth ymdopi â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na wnaiff unrhyw un arall. Ni fyddant yn eich barnu a rhônt wybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth i chi newid pethau. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae yno fel ffynhonnell gymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
Deddf Troseddau Difrifol 2015: Rhan 5 Amddiffyn Plant: Trosedd creulondeb at blant (Adran 66)
Mae Adran 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (“Deddf 1993”) yn darparu ar gyfer trosedd creulondeb at blant. Bydd trosedd pan fo person 16 oed neu hŷn, y mae ganddo gyfrifoldeb dros blentyn iau na hynny, trwy ei ewyllys (h.y. yn fwriadol neu yn ddi-hid) yn ymosod ar, cam-drin, esgeuluso, gadael neu’n rhoi’r plentyn mewn sefyllfa sy’n debygol o achosi “dioddefaint diangen neu niwed i’w iechyd” neu’n achosi neu’n ysgogi rhywun arall i drin plentyn fel hyn. Y gosb fwyaf am y drosedd yw deng mlynedd o garchar neu ddirwy neu’r ddwy gosb.
Mae Deddf 2015 yn diwygio adran 1 Deddf 1933 i’w gwneud hi’n amlwg bod y drosedd yn cynnwys ymddygiad sy’n debygol o achosi dioddefaint neu anaf seicolegol yn ogystal â chorfforol, ac y gall cam-drin fod yn gorfforol neu yn anghorfforol. O ran ymddygiad nad yw’n gorfforol, mae’r Llywodraeth (y tu allan i’r Ddeddf) wedi rhoi enghreifftiau o ynysu, codi cywilydd a bwlio os yw’n debygol o achosi dioddefaint diangen neu anaf i iechyd.
Mae hefyd yn estyn darpariaethau Deddf 1933 sy’n dweud bod mygu plentyn dan dair oed pan fo yn y gwely â pherson meddw yn cynnwys esgeuluso plentyn fel a ganlyn:
- y rhai sydd dan ddylanwad cyffuriau gwaharddedig;
- bydd trosedd os yw’r person yn mynd dan ddylanwad y sylwedd dan sylw ar unrhyw adeg cyn y mygu; ac
- mae’n berthnasol lle bynnag mae’r oedolyn a’r plentyn yn cysgu (er enghraifft os oeddent yn cysgu ar soffa).
1https://learning.nspcc.org.uk/media/1067/how-safe-are-our-children-2018.pdf
2https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/175391/Munro-Review.pdf
3 Social Services and Well-being Act (Wales) 2014 http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/pdfs/anaw_20140004_en.pdf
4https://www.nscb.org.uk/sites/default/files/Emotional%20Abuse%20Practice%20Guidance.pdf
5 Hanson, E. (2016) The relationship between neglect and child sexual exploitation: an evidence scope. Totnes: Research in Practice.
6 Emotional neglect and emotional abuse in pre-school children: Core info leaflet which can be downloaded from: https://learning.nspcc.org.uk/research-resources/pre-2013/emotional-neglect-abuse-pre-school-children-core-info-leaflet/
Neglect or emotional abuse in children aged 5-14: Core info leaflet which can be downloaded from: https://learning.nspcc.org.uk/research-resources/2014/neglect-emotional-abuse-children-aged-5-14-core-info-leaflet/
Neglect or emotional abuse in teenagers: Core info leaflet which can be downloaded from: learning.nspcc.org.uk
7 Parents have a duty to ensure that their children receive an efficient full-time education suitable to their child either by regular attendance at school or otherwise (under section 7 of the Education Act 1996) and they may choose to arrange this education themselves outside the state or independent school system.
8http://www.cwrc.ac.uk/documents/RR404_-_Indicators_of_neglect_missed_opportunities.pdf
9https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachmentdata/file/379747/RR404-_Indicators_of_neglect_missed_opportunities.pdf
10 Brandon M, Bailey S, Belderson P, Warren C, Gardener R. and Dodsworth J. (2009). Understanding Serious Case Reviews and their impact. London: Department for Children, Schools and Families.
11https://learning.nspcc.org.uk/media/1145/child-neglect-an-evidence-scope-executive-summary.pdf
12 Pithouse, A. and Crowley, A (2016) ‘Tackling child neglect: key developments in Wales’ Research, Policy and Planning (2016) 32(1), 25-37
13 See 6 above.
14 Farmer E. and Lutman E. (2014). Working effectively with neglected children and their families – what needs to change? Child Abuse Review, 23, pp 262-273.
15https://learning.nspcc.org.uk/media/1334/learning-from-case-reviews_disguised-compliance.pdf
16 NSPCC (2018) How Safe are our children? https://learning.nspcc.org.uk/research-resources/how-safe-are-our-children/
17 Brandon, M., Sidebotham, P. Bailey, S., Belderson, P. Hawley, C., Ellis, C and Megson M (2012) New learning from serious case reviews, Department for Education. Research Report DFE-RR226
18 Brandon M, Bailey S, Belderson P. and Larsson B. (2013). Neglect and Serious Case Reviews. University of East Anglia/NSPCC
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF