Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
I bwy mae’r canllaw ymarfer hwn?
Mae'r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed). Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gweithio ym meysydd blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddau ieuenctid a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc, cymunedol a theuluol (gan gynnwys y trydydd sector), gofal maeth a gofal preswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae pawb sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc yn gyfrifol am ddiogelu’r plant hynny.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi agwedd gyson at arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae'r canllaw arfer hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu pan fo pryderon ynghylch Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (YRhN). Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol gael eu tanlinellu gan ddau brif egwyddor:
- mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu: i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran lawn yn unigol ac ar y cyd; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn: i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod ar sail dealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddo. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull a dylai ei les gorau bob amser fod o’r pwys mwyaf.
Mae sawl mater sy’n gyffredin ym mhob un o’r canllawiau arfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu sy’n cael ei ystyried:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gwarantu bod hawl gan bob plentyn i dyfu’n iach, yn hapus ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gefnogi’n briodol i wella wedi camdriniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau'r Plant yn unol â dyletswydd sylw dyledus i CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i roi ymateb ar y cyd i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae dyletswydd statudol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Social Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Mae rhannu gwybodaeth wrth wraidd arfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth ddiogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data’n caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r rhesymau dros rannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth a niwed difrifol i bobl eraill. Pan na rennir gwybodaeth mewn ffordd brydlon ac effeithiol, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ar sut i ymateb yn anwybodus a gallai hyn arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i niwed.
- Rydym yn gwybod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad oes nam ar eu synhwyrau/nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael eu hamddiffyn a’u cefnogi fel sydd ei angen pan fônt wedi’u cam-drin. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gydnabod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl yn benodol yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, yn ogystal â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu a dylent roi ar waith unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sydd eu hangen i’w diogelu.
- Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ddod yn gyfarwydd â diwylliant a chredoau’r teuluoedd y maent yn gweithio â nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn ynghylch ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent fyth anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod y plentyn yn agored i niwed ni waeth y lleoliad mae’n byw ynddo, p’un ai a yw’n derbyn gofal maeth, mewn lleoliadau mabwysiadol neu mewn cartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu sydd wedi’u mabwysiadu berthnasau a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr neu chwiorydd neu berthnasau biolegol eraill. Gallai’r perthnasau hyn ac unrhyw gysylltiad fod yn gadarnhaol ac wedi’u croesawu neu’n rhai nad oes eu heisiau ac y’u hystyrir yn berygl. Gallai profiad plentyn o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y gorffennol ei adael mewn perygl o gael anawsterau iechyd meddwl, ymddygiadol neu emosiynol a allai barhau i’w wneud yn agored i niwed.
- Dylid ystyried plant ag ymddygiad rhywiol niweidiol fel plant yn gyntaf a dylid ystyried eu hanghenion gofal a chymorth yn yr un ffordd ag ar gyfer unrhyw blentyn. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ifanc yn 'derbyn' ac yn mewnoli labeli, ac felly gall disgrifio person ifanc fel 'troseddwr rhyw' yn unig neu 'gamdriniwr ifanc' effeithio ar ei gymhelliant a'i ymatebolrwydd wrth asesu a thrin, gan eu gadael i deimlo na allant newid. Mae'n hanfodol nad yw pobl ifanc yn cael eu labelu neu eu stigmateiddio o ganlyniad i adnabod ymddygiad rhywiol niweidiol.
- Rhaid i'n hymatebion i blant ag ymddygiad rhywiol niweidiol gynnwys cymorth cynnar i atal niwed iddynt hwy ac i blant eraill.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, yn canolbwyntio ar y plentyn ac ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol y plentyn. Mae angen i blant gael eu cynnwys yn ystyrlon yn y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth.
- Dylai plant gael eu gweld a dylai eu barn gael ei chlywed. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Arfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr ar eu pennau eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion lle na welwyd y plentyn neu nas ofynnwyd iddo am ei farn na’i deimladau, neu le na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando’n uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo arfer diogelu da.
Diffiniadau
Gellir diffinio ymddygiadau rhywiol niweidiol (YRhN) fel: ymddygiad rhywiol a fynegir gan blant a phobl ifanc dan 18 oed sy'n amhriodol yn ddatblygiadol, a allai fod yn niweidiol tuag at eu hunain neu i eraill, neu fod yn sarhaus tuag at blentyn, person ifanc neu oedolyn. Mae'r diffiniad hwn o YRhN yn cynnwys ymddygiadau â chyswllt ac ymddygiadau digyswllt (rhagbaratoi, arddangosiaeth, llygadu a thecstio rhywiol neu recordio delweddau o weithredoedd rhywiol drwy ffonau clyfar neu apiau cyfryngau cymdeithasol).
Nid yw'r canllaw arfer hwn wedi'i fwriadu ar gyfer ei ddefnyddio mewn achosion o gydgydsynio, a gweithgarwch rhywiol nad yw'n gamfanteisiol rhwng plant 13-16 mlwydd oed. Nid yw plant dan 13 oed yn gallu rhoi cydsyniad cyfreithiol i weithgarwch rhywiol. Felly, rhaid ystyried unrhyw weithgaredd rhywiol honedig sy'n ymwneud â phlentyn dan 13 oed a phlentyn arall yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a chan gyfeirio at y canllaw ymarfer hwn.
Rhaid ymchwilio'n briodol i honiad o weithgarwch rhywiol nad yw'n gydsyniol yn ymwneud â phlant, hyd yn oed os ydynt o oedran tebyg, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, beth bynnag fo oedran y plant dan sylw.
Cydsyniad – Yr oedran cydsyniad (oedran cyfreithiol i gael rhyw) yn y DU yw 16 oed. Mae’r cyfreithiau’n bodoli i amddiffyn plant. Nid ydynt yno i erlyn y rhain dan 16 oed sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol yn gydsyniol ar y ddwy ochr ond cânt eu defnyddio os yw’r gweithgareddau hyn yn cynnwys camdriniaeth neu gamfanteisio.
I helpu i amddiffyn plant iau mae’r gyfraith yn dweud na all unrhyw un dan 13 oed roi cydsyniad yn gyfreithiol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn sy’n 12 oed neu’n iau yn destun cosbau a nodir yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003.
Sail tystiolaeth
- Mae ymarferwyr weithiau'n ei chael hi'n anodd nodi pa ymddygiad rhywiol a allai fod yn niweidiol a beth sy'n cynrychioli datblygiad rhywiol iach. Mae Brook wedi datblygu adnodd i gynorthwyo pobl sy'n gweithio gyda phlant i ddeall yn well pa fathau o ymddygiad a allai fod yn niweidiol Brook Sexual Behaviours Traffic Light Tool .
- Mae'n rhaid ystyried ymddygiad rhywiol problemus ar gontinwwm ymddygiad sy'n amrywio o normal i niweidiol ac mewn nifer fach o achosion camdriniol. Mae angen i weithwyr proffesiynol ddeall y continwwm hwn o ymddygiadau er mwyn sicrhau ymyrraeth briodol. Mae'n rhaid i'r ymateb i blant fod yn gymesur a dylai gael ei ddarparu ar y lefel leiaf ymwthiol fel sy'n briodol i bob achos.
- Mae Hackett (2010)1 wedi cynnig model continwwm i ddangos yr ystod o ymddygiad rhywiol a gyflwynwyd gan blant a phobl ifanc, o'r rhai sy'n arferol, i'r rhai sy'n hynod o wyrdroëdig ac mae hyn wedi'i gynnwys yn fframwaith ymddygiad rhywiol niweidiol yr NSPCC2: Download PDF
- Mae corff cynyddol o ymchwil ar ymddygiad rhywioledig mewn plant a'i berthynas â chamdriniaeth rywiol.3 Er bod y mwyafrif o blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn cymryd rhan mewn ymddygiad rhywioledig, gall presenoldeb ymddygiad rhywiol amhriodol, yn enwedig mewn plant iau, fod yn ddangosydd eu bod yn profi neu wedi profi cam-drin rhywiol plant.
- Efallai bod pobl ifanc yn gwadu bod ganddynt broblem gyda'u hymddygiad rhywiol a gall hyn gael ei gefnogi gan rieni nad ydynt am wynebu realiti eu plentyn yn ymddwyn fel hyn. Mae hwn yn ymateb cyffredin i'r mater hwn, mae angen i ymarferwyr egluro natur a phwrpas yr ymyriad yn glir er mwyn i rieni ddeall yr hyn sy'n cael ei gynnig. Gall y cynnig o waith pellach gael ei fframio'n ddefnyddiol fel cyfle i ddeall sut y daeth y person ifanc i fod mewn sefyllfa lle'r oedd yn ymddwyn mewn ffordd a oedd yn cael ei ystyried yn gam-drin.
- Mae cefnogaeth rhieni a gofalwyr yn hynod o ddefnyddiol o ran hyrwyddo ymgysylltu a chanlyniadau llwyddiannus. Mae angen hysbysu rhieni am y rhaglen i'r graddau eu bod yn ymwybodol y bydd sgyrsiau rhywiol eglur yn digwydd, hefyd efallai y gofynnir iddynt siarad â'u plentyn am faterion rhywiol. Gellir gofyn iddynt hefyd fodelu agweddau ac iaith rywiol briodol a pharchus.
- Mae tystiolaeth o waith ymchwil ac ymarfer yn awgrymu bod llawer o blant ag ymddygiad rhywiol niweidiol yn cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn enwedig cael eu hamlygu i gam-drin domestig4 a bod y plant hynny ag ymddygiad rhywiol niweidiol yn llawer mwy tebygol o fod wedi bod yn ddioddefwyr trawma a chamdriniaeth eu hunain.5 Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg sy'n awgrymu y bydd rhai plant sydd ag ymddygiad rhywiol niweidiol hefyd mewn perygl o gael eu cam-drin drwy gamfanteisio rhywiol neu y byddant wedi cael eu cam-drin.
- Mae ymchwil yn dangos y ffaith y gall camdriniaeth ac esgeulustod effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd ac efallai na fydd plant sydd wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn gweithredu ar eu hoed cronolegol o ran eu sgiliau corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol.6 Mae tystiolaeth o asesiadau a gynhaliwyd gan wasanaethau arbenigol sy'n cynorthwyo plant ag ymddygiad rhywiol niweidiol yng Nghymru yn awgrymu y gall plant ag ymddygiad rhywiol niweidiol weithredu'n is na'u hoed cronolegol ar draws nifer o feysydd. Mae plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu yn cael eu gorgynrychioli yn y rhai sy'n dangos ymddygiad rhywiol niweidiol.
- Mae tystiolaeth o ymarfer ac ymchwil yng Nghymru yn awgrymu cyfraddau uchel o anhwylder ymddygiad a diffyg sylw/anhwylderau gorfywiogrwydd mewn plant sy'n cael cymorth ar gyfer ymddygiad rhywiol niweidiol.
- Mae adroddiad arolygu ar y cyd a gyhoeddwyd yn 2013 yn awgrymu bod asesiad gwybyddol yn bwysig o ran llywio ymatebion i blant ag ymddygiad rhywiol niweidiol.7
- Canfu'r arolygiad ar y cyd hefyd fod tystiolaeth yn hanner yr achosion gafodd eu hystyried bod prawf o ymddygiad rhywiol blaenorol a oedd yn peri pryder. Roedd hyn naill ai heb ei nodi fel ymddygiad rhywiol ar y pryd, neu'n rhy aml yn destun anghrediniaeth, lleihad ac ymwadu gan weithwyr proffesiynol yn ogystal â theuluoedd a'u trin felly fel rhywbeth 'un-tro'.
- Mae hefyd yn bwysig, fel gydag unrhyw ystyriaeth i anghenion gofal a chymorth, ystyried ffactorau teuluol neu gymdeithasol a all fod yn cyfrannu at ymddygiad rhywiol niweidiol y plentyn. Dylai hyn gynnwys ystyried a oes unrhyw dystiolaeth o gam-drin yn y teulu lle gallai'r plentyn fod yn dioddef o gamdriniaeth gyfredol. Dylid cynnal asesiad hefyd o effaith ymddygiad rhywiol niweidiol y plentyn ar y teulu, gan gynnwys unrhyw bryderon ynghylch diogelu plant sy'n ymwneud â phlant eraill yn y teulu.
- Mae angen gwybodaeth a chyngor clir ar rieni/gofalwyr am yr hyn fydd yn digwydd, am unrhyw ymyriadau a gaiff eu darparu i'w plentyn ac am y pethau y gallant eu gwneud i helpu i amddiffyn eu plentyn a phlant eraill rhag niwed pellach.
- Mae tueddiad i weld merched sy'n ymddwyn yn rhywiol niweidiol yn bennaf fel 'dioddefwyr' a bechgyn fel 'cyflawnwyr'.
- Mae tystiolaeth o ymarfer yn awgrymu bod merched ag ymddygiad rhywiol niweidiol yn fwy tebygol o gael ymateb gan wasanaethau lles a bod bechgyn yn fwy tebygol o gael eu trin drwy'r system cyfiawnder ieuenctid.8 Mae merched a bechgyn yn gallu arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol.
- Mae ystadegau ymchwil a throsedd yn awgrymu bod plant a phobl ifanc eraill yn cyflawni rhwng un rhan o bump a dwy ran o dair o achosion cam-drin rhywiol.9
- Bydd cymorth ac ymyrraeth effeithiol gyda phlant ag ymddygiad rhywiol niweidiol yn eu diogelu rhag niwed pellach ac atal cam-drin plant eraill. Mae canllaw sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn y dylai ymateb amlasiantaeth effeithiol i blentyn ag ymddygiad rhywiol niweidiol ei gynnwys ar gael a dylid cyfeirio at Ganllawiau NICE 2016
- Dylai plant y mae yna bryderon amdanynt o ran ymddygiad rhywiol niweidiol allu parhau mewn addysg. Dylai ysgolion a lleoliadau addysg roi cynlluniau rheoli ar waith er mwyn sicrhau bod y plentyn yn gallu parhau mewn addysg heb risg i'w hun nac i blant eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau a fydd yn rhoi cyngor ar reoli plant yn ddiogel sydd ag ymddygiad rhywiol niweidiol mewn lleoliadau addysg.
Ymateb cymesur
Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth na all ei rieni/gofalwyr eu bodloni heb gymorth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol er mwyn asesu ei anghenion.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 130) dan Adran 7, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn mewn perygl” yn blentyn sydd:
- a) yn profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu mewn perygl o wneud hynny; ac
- b) ag anghenion gofal a chymorth (boed yn cael eu darparu gan yr awdurdod ai peidio).
Pan fo plentyn wedi’i adrodd dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes seiliau dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad wedi’i dderbyn yn perthyn i blentyn mewn perygl byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth ar a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth amlasiantaeth. Dylai cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol sy’n berthnasol i’r plentyn ac unrhyw Wasanaeth Troseddau Ieuenctid sy’n berthnasol i’r plentyn fod yn rhan o’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth. Ni ddylai fod unrhyw oedi mewn ymateb i wybodaeth am blentyn mewn perygl oherwydd nad yw’r plentyn yn byw yn ardal yr awdurdod lleol lle y nodwyd y mater diogelu.
- Os oes pryderon ynghylch ymddygiad rhywiol niweidiol rhaid i hyn gynnwys trafodaeth ynghylch cadw unrhyw blant eraill sy'n byw gyda'r plentyn neu y mae'r plentyn yn cysylltu â hwy yn ddiogel. Dylai hyn gynnwys ystyried rheolaeth ddiogel o fewn y lleoliad addysg y mae'r plentyn yn mynychu.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth yn nodi nad oes seiliau dros symud ymlaen at Gyfarfod Strategaeth neu at Ymchwiliad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio ar gyfer gwaith ataliol i leihau tebygrwydd risg o niwed yn y dyfodol.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth, cynllun amddiffyn plant neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru a Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddifyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Lle bo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai rhai asiantaethau ddod i gysylltiad â phlentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion yn cael eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y mater.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol ddarllen Canllawiau Arfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a Phlant sy’n Mynd ar goll o’r Cartref neu Leoliad gofal.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo llesiant ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Lle bo’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun dylid cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn a dylid ystyried atgyfeirio at wasanaethau ataliol.
- Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn yn benodol o ran cael cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy'n cynnwys esboniad am rôl eiriolaeth broffesiynol annibynnol, yr hyn y gall ac na all ei wneud, sut mae'n gweithredu yn seiliedig ar eu dymuniadau a'u teimladau, eu hannibyniaeth a sut mae'n gweithio i'r plentyn/person ifanc yn unig person, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol - mae'n egluro'r hawl statudol i blant a phobl ifanc gael eu cefnogi i fynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau yn ogystal â'u hawl i wneud cynrychioliad neu gŵyn.
Atodiadau
Mae’r sefydliadau hyn yno i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.
Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i gael help wrth ymdopi â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na wnaiff unrhyw un arall. Ni fyddant yn eich barnu a rhônt wybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth i chi newid pethau. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae yno fel ffynhonnell gymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
1 Hackett, S (2010). Children, young people and sexual violence. In Barter, C and Berridge, D (eds) Children behaving badly? Exploring peer violence between children and young people. London: Blackwell Wiley.
2https://www.nspcc.org.uk/globalassets/documents/publications/harmful-sexual-behaviour-framework.pdf
3http://www.who.int/violence_injury_prevention/resources/publications/en/guidelines_chap7.pdf
4http://www.nota.co.uk/media/1177/c5-steer-and-wareham.pdf
5 Hackett, S., Phillips, J., Masson, H. and Balfe, M. (2013) Individual, family and abuse characteristics of 700 British child and adolescent sexual abusers. Child Abuse Review, 22(4): 232–245.
6 Child Welfare Information Gateway, Issue Brief, November 2009, Understanding the Effects of maltreatment on Brian Development , US Department of Health and Human Services
7 A Joint Inspection by HMI Probation, Care and Social Services Inspectorate Wales, Care Quality Commission, Estyn, Healthcare Inspectorate Wales, HMI Constabulary, HMI Prisons and Ofsted (2013) Examining Multi-agency Responses to Children and Young People who sexually offend: A joint inspection of the effectiveness, Criminal Justice Joint Inspection
https://www.justiceinspectorates.gov.uk/prisons/wp-content/uploads/sites/4/2014/04/Children_and_Young_People_who_Sexually_Offend_Thematic_Report_310113_Final.pdf
8 S. Wareham and W.Steer, (2015) Girls Talk : Supporting Girls to Develop Healthy Sexual Relationships , Cardiff: Barnardo’s Cymru
9 Hackett, Simon (2014) Children and young people with harmful sexual behaviours. London: Research in Practice Research in Practice Research Reviews, 15.
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF