Diogelu plant sy’n cael eu haddysgu gartref
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ar gyfer pwy mae’r canllaw ymarfer hwn?
Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n bennaf â phlant hyd at y dydd Gwener olaf ym Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddan nhw’n cael eu pen-blwydd yn 16.
Mae hyn yn cynnwys y rheiny sy’n gweithio yn y meysydd blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddu ieuenctid a’r gwasanaethau ieuenctid, cymunedol a chymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) ac yn y meysydd gofal maeth a gofal preswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae pawb sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc yn gyfrifol am ddiogelu’r plant hynny.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi agwedd gyson at arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw ymarfer hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ymatebion diogelu lle mae plentyn yn cael ei addysgu gartref. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai trefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol gael eu tanlinellu gan ddau brif egwyddor:
- mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu: i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran lawn yn unigol ac ar y cyd; a
- dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn: i wasanaethau fod yn effeithiol dylent fod ar sail dealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddo. Dylai hawliau’r plentyn fod yn ganolog i’r dull a dylai ei les gorau bob amser fod o’r pwys mwyaf.
Mae sawl mater sy’n gyffredin ym mhob un o’r canllawiau arfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu sy’n cael ei ystyried:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gwarantu bod hawl gan bob plentyn i dyfu i fyny’n iach, yn hapus ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gefnogi’n briodol i wella wedi camdriniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Dull Hawliau Plant yn unol â dyletswydd sylw dyledus i CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i roi ymateb ar y cyd i faterion diogelu fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Diogelu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Mae rhannu gwybodaeth wrth wraidd arfer diogelu da. Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data’n caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio’n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. Un o’r rhesymau dros rannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth a niwed difrifol i bobl eraill. Pa na rennir gwybodaeth mewn ffordd brydlon ac effeithiol, mae’n bosibl y bydd penderfyniadau ar sut i ymateb yn anwybodus a gallai hyn arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i niwed.
- Rydym yn gwybod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad oes nam ar eu synhwyrau/nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael eu hamddiffyn a’u cefnogi fel sydd ei angen pan fônt wedi’u cam-drin. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol adnabod bod plant â nam ar eu synhwyrau a phlant anabl yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod, yn ogystal â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu a dylent roi ar waith unrhyw fesurau diogelu ychwanegol sydd eu hangen i’w diogelu.
- Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ddod yn gyfarwydd â diwylliant a chredau’r teuluoedd y maent yn gweithio â nhw. Ni ddylai ymarferwyr ofni gofyn am ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent erioed anwybyddu arferion sydd o bosibl yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod y plentyn yn agored i niwed ni waeth y lleoliad mae’n byw ynddo, p’un ai a yw’n derbyn gofal maeth, mewn lleoliadau mabwysiadol neu mewn cartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu sydd wedi’u mabwysiadu berthnasau a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr neu chwiorydd neu berthnasau biolegol eraill. Gallai’r perthnasau hyn ac unrhyw gysylltiad fod yn gadarnhaol ac wedi’u croesawu neu’n rhai nad oes eu heisiau ac y’u hystyrir yn berygl. Gallai profiad plentyn o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y gorffennol yn eu gadael mewn perygl o gael anawsterau iechyd meddwl, ymddygiadol neu emosiynol a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, yn canolbwyntio ar y plentyn ac ar sail anghenion ac amgylchiadau unigol y plentyn. Mae angen i blant gael eu cynnwys yn ystyrlon yn y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth.
- Dylai plant gael eu gweld a dylai eu barn gael ei chlywed. Mae tystiolaeth o Adolygiadau Arfer Plant wedi tynnu sylw at yr angen i blant gwrdd â’u hymarferwyr eu hunain, heb gwmni rhieni a gofalwyr mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, fel y gall y plentyn hwnnw siarad am yr effaith y mae’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi pryderon diogelu yn ei chael arno. Mae gormod o achosion lle na welwyd y plentyn neu nas ofynnwyd iddo am ei farn na’i deimladau, neu le na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando’n uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo arfer diogelu da.
- Term yw addysgu gartref sy’n disgrifio sefyllfa lle mae rhieni yn addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol. Nid yw hyn yr un peth â thiwtora yn y cartref, sy’n fath o addysg heblaw yn yr ysgol – darpariaeth y telir amdani gan yr awdurdod lleol.1 Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae addysg yn orfodol, ond nid yw mynd i’r ysgol yn orfodol.
- Nid yw penderfyniad rhiant i addysgu ei blentyn gartref ynddo’i hun yn sail i bryderon am les y plentyn. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw blentyn waeth ble mae’n cael ei addysgu, efallai fod amgylchiadau – yn unigol neu ar y cyd - sy’n rhoi achos i ymarferwyr ofyn am fwy o wybodaeth am blentyn.
Sail tystiolaeth
- Does dim tystiolaeth i awgrymu bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref mewn mwy o berygl o esgeulustod neu gamdriniaeth, na phlant a addysgir yn yr ysgol. Mae addysg yn y cartref yn brofiad cadarnhaol i lawer o blant.
- Fodd bynnag, mae ysgolion a lleoliadau addysgol yn chwarae rhan bwysig o ran diogelu, gan eu bod yn llefydd lle mae plant yn cael eu gweld a’u clywed yn gyson. Mae’n bwysig bod gan blant sy’n cael eu haddysgu gartref yr un hawl i fod yn ddiogel â phlant eraill.
- Gan rieni/gofalwyr y mae’r prif gyfrifoldeb am sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg ‘effeithlon’ ac ‘addas’. Er bod y cyfrifoldeb hwn fel arfer yn cael ei ddirprwyo i ysgolion, gall rhieni addysgu eu plant gartref cyhyd â’u bod yn cyflawni gofynion adran 7 Deddf Addysg 1996. Mae rhai rhieni yn penderfynu gweithredu’r gofyniad hwn drwy ddarparu addysg yn y cartref. Rhaid i riant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol sicrhau ei bod/ei fod yn derbyn addysg effeithlon lawn-amser addas:
- i’w hoedran/oedran, gallu a chymhwyster, ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddi/ganddo
- naill ai drwy fynychu ysgol yn gyson neu fel arall.
- Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod plentyn sy’n derbyn addysg yn y cartref yn derbyn addysg briodol ac nad yw’n colli addysg. Nes bod hwn wedi cael ei gadarnhau bydd y plentyn yn cael ei ystyried fel hun sy’n colli addysg. Gallai plant sy’n colli addysg fod mewn perygl gwirioneddol o niwed ac mae’r canllawiau statudol ar blant a phobl ifanc sy’n colli addysg yn amlinellu’r camau ddylai asiantaethau eu cymryd mewn achos o blentyn yn colli addysg.
- Yn 2017, comisiynodd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru adolygiad a dadansoddiad o oblygiadau diogelu, iechyd a lles addysg ddewisol yn y cartref a chyhoeddwyd Adroddiad. Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhelliad i gefnogi: Ymateb gwell yn achos plant lle mae niwed yn cael ei amau neu ei nodi, a lle mae’r plentyn yn cael – neu’n mynd i gael – ei addysgu gartref.
- Cafodd Canllawiau anstatudol ar addysg ddewisol yn y cartref eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2017 ac mae’n cynnwys cyngor ar ddiogelu. Mae canllawiau statudol newydd ar addysg ddewisol yn y cartref yn cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru a chaiff y canllaw ymarfer hwn ei ddiweddaru unwaith i’r canllawiau newydd gael eu cyhoeddi yn 2020.
- Nod y canllaw ymarfer hwn yw cefnogi ymarferwyr i sicrhau ymateb diogelu gwydn i blant sy’n cael eu haddysgu gartref, fel y byddent yn achos unrhyw blentyn arall.
Ymateb i wybodaeth bod rhieni/gofalwyr yn bwriadu addysgu eu plentyn gartref
- Dylai’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ofyn i rieni beth yw eu bwriad o ran addysgu plentyn sy’n iau na’r oedran statudol o ran dechrau ysgol sef pum mlwydd oed. Os yw rhieni yn dweud wrth y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd eu bod yn bwriadu addysgu’r plentyn yn y cartref, dylai’r Ymwelydd Iechyd ddweud wrth wasanaeth Nyrsio’r Ysgol ar gyfer y dalgylch y mae’r plentyn yn byw ynddo, i sicrhau bod y plentyn yn gallu elwa o ddarpariaeth iechyd gyffredinol arferol. Bydd hyn yn amodol ar drefniadau’r Bwrdd Iechyd rhanbarthol.
- Os yw plentyn wedi ei gofrestru mewn ysgol ni ellir tynnu ei enw o gofrestr yr ysgol oni bai bod yr ysgol yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig bod y plentyn i gael ei addysgu gartref. Pan fydd plentyn yn mynychu ysgol arbennig o dan drefniadau wnaed gan yr awdurdod lleol, dylai rhieni gael caniatâd gan yr awdurdod lleol cyn i enw’r plentyn gael ei dynnu o’r gofrestr. Os nad yw plentyn erioed wedi mynd i’r ysgol, nid oes angen caniatâd na hysbysiad.
- Pan fo awdurdod lleol wedi cael gwybod gan ysgol bod plentyn yn cael ei dynnu oddi yno i’w addysg gartref, dylai Swyddog Addysg yn y Cartref yr awdurdod lleol gysylltu â’r rhieni/gofalwyr i gyflwyno’i hun gyda’r nod o drefnu cyfarfod rhyngddynt. Os nad yw’r rhiant/gofalwr yn cydsynio i’r ymweliad hwn dylai hyn gael ei gofnodi. Bydd dal angen i’r awdurdod lleol gael tystiolaeth gan y rhiant i benderfynu a ydi’r plentyn yn cael addysg addas ai peidio.
Ystyriaeth o unrhyw anghenion llesiant neu ddiogelu yn ymwneud â phlentyn pan fo rhiant/gofalwr yn, neu’n bwriadu addysgu ei blentyn gartref.
- Pan fydd ymarferydd neu weithiwr proffesiynol yn cael gwybod bod rhiant/gofalwr yn addysgu ei blentyn gartref, neu’n bwriadu gwneud hynny, dylent ystyried anghenion llesiant a diogelu’r plentyn. Dylent hefyd ystyried a oes anghenion gofal a chymorth gan riant/gofalwr allai effeithio ar eu gallu i roi addysg briodol i’r plentyn gartref, neu i gefnogi eu llesiant. Mae angen cydsyniad i gyfeirio rhiant neu blentyn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol am asesiad o’u hanghenion gofal a chymorth, oni bai bod achos i amau eu bod mewn perygl (yn profi neu mewn perygl o brofi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed; a bod anghenion gofal a chymorth ganddo).
- Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod plentyn sy’n cael ei addysgu gartref yn derbyn addysg briodol. Mae methiant i ddarparu addysg yn gyfystyr â “niwed sylweddol” sy’n faen prawf o dan adran 31 Deddf Plant 1989. Dylai’r awdurdod lleol drefnu cysylltiad parhaus gyda’r rhiant/gofalwr i sicrhau bod addysg briodol yn cael ei derbyn. Lle bo hyn yn bosibl, dylai hyn gynnwys cyswllt wyneb yn wyneb gyda’r plentyn a’r rhiant/gofalwr mewn lleoliad lle maen nhw’n cynnal gweithgareddau addysgol – gallai hyn fod mewn man cyhoeddus. Bydd rhagor o gyngor mewn canllawiau statudol gaiff eu cyhoeddi yn 2020.
- Mae’n bosib y bydd amgylchiadau pan na fydd plentyn wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol gyda’r gwasanaethau cyhoeddus am gryn amser. Nid yw hyn ynddo’i hun yn dystiolaeth bod y plentyn mewn perygl o niwed. Fodd bynnag, bu nifer o achosion o blant nad oeddent mewn cysylltiad gyda’r gwasanaethau cyhoeddus, a gafodd eu niweidio’n ddrwg. Mae’n bosib bod achosion lle mae sail i fynegi pryder am ddiogelu wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol, pan fo tystiolaeth i awgrymu na fu cysylltiad uniongyrchol rhwng plentyn a’r gwasanaethau cyhoeddus am gyfnod hir.
- Mae’n hanfodol bod swyddogion Addysg yn y Cartref penodol yn derbyn hyfforddiant diogelu priodol sy’n eu galluogi i adnabod unrhyw broblemau o ran llesiant neu ddiogelu gyda’r plant y maen nhw yn ymweld â nhw, er mwyn sicrhau bod addysg addas yn cael ei derbyn.
Ymateb cymesur
Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth na all ei rieni/gofalwyr eu bodloni heb gymorth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol er mwyn asesu ei anghenion.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 130) dan Adran 7, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn mewn perygl” yn blentyn sydd:
- a) yn profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu mewn perygl o wneud hynny; ac
- b) ag anghenion gofal a chymorth (boed yn cael eu darparu gan yr awdurdod lleol ai peidio).
Pan fo plentyn wedi’i adrodd dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes seiliau dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad wedi’i dderbyn yn ymwneud â phlentyn mewn perygl byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth ar a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth amlasiantaeth.
- Os yw’r asesiad cychwynnol neu’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth yn nodi nad oes seiliau dros symud ymlaen at Gyfarfod Strategaeth neu at Ymchwiliad Adran 47, dylid ystyried atgyfeirio ar gyfer gwaith ataliol i leihau tebygrwydd risg o niwed yn y dyfodol.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth, cynllun amddiffyn plant neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru a Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Lle bo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai rhai asiantaethau ddod i gysylltiad â phlentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion a gaiff eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y mater.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gyfeirio at Ganllawiau Arfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion cysylltiedig.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo llesiant ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Lle bo’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun dylid cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn a dylid ystyried atgyfeirio at wasanaethau ataliol.
- Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn yn benodol o ran cael cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys eglurhad am rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys beth gall a beth na all ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail ei ddymuniadau a theimladau, ei annibyniaeth a sut bydd yn gweithio’n unig dros y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – eglura hawl statudol plant a phobl ifanc ar gymorth i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i wneud sylwadau neu gwynion.
Atodiadau
Mae’r sefydliadau hyn yno i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.
Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i gael help wrth ymdopi â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na wnaiff unrhyw un arall. Ni fyddant yn eich barnu a rhônt wybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth i chi newid pethau. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae yno fel ffynhonnell gymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
1 Mae Adran 19(1) Deddf Addysg 1996 (fel y’i diwygiwyd gan adran 47 Deddf Addysg 1997) yn datgan y dylai:
pob awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu addysg briodol yn yr ysgol neu mewn man arall ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol gorfodol sydd, oherwydd eu bod yn sâl, wedi’u hallgau o’r ysgol neu am reswm arall, na fydd yn derbyn addysg briodol am unrhyw gyfnod oni bai bod trefniadau’n cael eu gwneud ar eu rhan.
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF