Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021
I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ar gyfer pwy mae’r canllaw arfer hwn?
Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed).
Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddwyr ifanc a phobl ifanc, y gymuned a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.
Beth yw diben y canllaw hwn?
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd yn dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cynorthwyo unigolion ac asiantaethau trwy Gymru gyfan i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi dull gweithredu cyson o ran arfer a gweithdrefnau diogelu.
Mae’r canllaw ymarfer hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ddiogelu plant sy’n mynd ar goll o gartref neu o ofal. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylai’r ddwy egwyddor ganlynol fod yn sail i drefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol:
- Mae diogelu’n gyfrifoldeb ar bawb: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol, rhaid i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran yn llawn yn unigol ac ar y cyd; a
- Dull gweithredu sy’n seiliedig ar y plentyn: er mwyn i wasanaethau fod yn effeithiol rhaid iddynt fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o’r canlyniadau personol ar gyfer y plentyn a’r hyn sy’n bwysig ganddo. Dylai hawliau’r plentyn fod wrth wraidd y dull gweithredu a dylai ei fudd gorau fod yn hollbwysig bob amser.
Mae rhai materion sy’n gyffredin yn yr holl ganllawiau ymarfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu dan sylw:
- Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn sicrhau hawl pob plentyn i dyfu’n hŷn mewn ffordd iach, hapus a diogel. Mae hyn yn cynnwys cael ei ddiogelu rhag niwed a’i gynorthwyo’n briodol i adfer wedi cam-driniaeth. Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Ymagwedd Hawliau Plant yn unol â’r ddyletswydd i roi ystyriaeth ddyledus i’r Confensiwn a dilyn Safonau Cyfranogi Cenedlaethol.
- Rhaid i asiantaethau gydweithio i sicrhau ymateb cydlynol i faterion diogelu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Mae dyletswydd statudol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl dan Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Crynodeb Social Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid ei defnyddio fel rheswm i beidio â gwneud hynny. Un o’r amgylchiadau penodol sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth yw atal camdriniaeth neu niwed difrifol i eraill. Pan na rennir gwybodaeth yn brydlon ac yn effeithiol, gellir gwneud penderfyniadau ynghylch ymateb heb ddigon o wybodaeth a gall hynny arwain at arfer diogelu gwael a gadael plant yn agored i risg o niwed.
- Rydym yn gwybod bod plant anabl neu â nam ar eu synhwyrau mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin o’u cymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Maent hefyd yn llai tebygol o gael y diogelwch a’r cymorth y mae eu hangen arnynt ar ôl cael eu cam-drin. Dylai ymarferwyr gydnabod yn agored bod plant anabl neu y mae arnynt nam ar eu synhwyrau yn fwy agored i gamdriniaeth ac esgeulustod yn ogystal â’r rhwystrau y gallent fod yn eu hwynebu, yn benodol o ran cyfathrebu, a dylent ddarparu unrhyw ddulliau diogelu ychwanegol y mae eu hangen i ddiogelu plant â nam ar eu synhwyrau neu blant anabl.
- Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ddod yn gyfarwydd â diwylliant a chredoau’r teuluoedd y maent yn gweithio â nhw. Ni ddylai bod ar ymarferwyr ofn holi am ymddygiad penodol a’r rhesymau drosto mewn modd sensitif ac ni ddylent fyth anwybyddu arfer a allai fod yn niweidiol ar sail sensitifrwydd diwylliannol.
- Mae pryderon canolog ac amlwg i’w datrys wrth gynllunio ar gyfer anghenion gofal a chymorth plant gyda statws Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches (PDCLl). Plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches: callawiau i weithwyr proffesiynol ar gael. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod rhaid i ymarferwyr ystyried mesurau diogelu penodol yn rhan o’r gwaith o gynllunio gyda ac ar gyfer y plentyn. Dylai hyn gynnwys cynllunio ymlaen llaw fesurau sy’n debygol o leihau’r perygl bod plentyn yn mynd ar goll.
- Rhaid i bob ymarferydd fod yn effro i’r posibilrwydd bod plentyn mewn risg o niwed ni waeth ym mha le mae’n byw, boed hynny’n ofal maeth, lleoliad mabwysiadol neu gartref plant. Bydd gan blant mewn lleoliadau neu’r rhai sydd wedi eu mabwysiadu berthnasoedd a allai gynnwys gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd neu deulu biolegol arall. Gall y perthnasoedd hyn ac unrhyw gyswllt fod yn gadarnhaol ac yn cael eu croesawu neu gallant fod yn ddigroeso ac yn cael eu hystyried yn risg. Gall profiad blaenorol plant o gamdriniaeth eu gadael mewn risg o brofi anawsterau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl a allai barhau i’w gwneud yn agored i niwed.
- Dylai ein hymateb i faterion diogelu fod yn gymesur, dylai ganolbwyntio ar y plentyn a bod ar sail anghenion unigol ac amgylchiadau’r plentyn. Rhaid i blant fod yn rhan ystyrlon o broses cynllunio eu gofal a’u cefnogaeth.
- Dylid gweld a chlywed plant Mae tystiolaeth yr Adolygiadau Arfer Plant wedi amlygu’r angen i blant gyfarfod ag ymarferwyr ar eu pennau eu hunain, draw oddi wrth eu rhieni a gofalwyr ac mewn amgylchedd lle maent yn teimlo’n ddiogel fel y cânt siarad am yr effaith bod yr amgylchiadau sydd wedi codi’r pryderon diogelu yn ei chael arnynt. Mae gormod o achosion lle na welwyd plentyn na gofynnwyd am ei farn a’i deimladau neu lle na ddigwyddodd hyn ddigon. Mae rhoi amser a lle i wrando yn uniongyrchol ar blant yn cefnogi system sy’n seiliedig ar y plentyn ac sy’n hyrwyddo arfer diogelu da.
- Person ar goll yw: Bydd unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad yn cael ei ystyried fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau eu llesiant ai peidio.”1
Sail dystiolaeth
Mae’r rhesymau pam fod plant yn mynd ar goll yn amrywiol, cymhleth ac unigryw i blant unigol: Efallai eu bod yn ymateb i ddigwyddiad neu newid yn eu bywydau megis yn amgylchiadau’r teulu neu brofedigaeth. Gwyddom fod plant sy’n mynd ar goll o gartref neu ofal yn aml yn adrodd am broblemau gartref neu yn y cartref lle cawsant eu gosod am eu bod yn derbyn gofal. Efallai eu bod yn anhapus am benderfyniadau a gaiff eu gwneud yn eu cylch gan eu rhieni neu ofalwyr ac efallai eu bod yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Efallai eu bod yn mynd ar goll i ardaloedd lle mae ganddynt deulu neu gysylltiadau. Efallai eu bod yn profi esgeulustod neu gamdriniaeth gartref. Efallai eu bod yn cael eu hannog neu eu cymell i fynd ar goll gan oedolion peryglus neu gan blant eraill.
Mae plant mewn rhai amgylchiadau yn fwy tebygol o fynd ar goll na’u cyfoedion: Mae plant sy’n derbyn gofal deirgwaith yn fwy tebygol o fynd ar goll na phlant eraill2. Mae plant sy’n cael eu gosod y tu allan i’w ardal leol mewn perygl penodol o fynd ar goll.3 Ar 31 Ionawr 2016, mewn adroddiad gan Europol nodwyd bod 10,000 o blant ar eu pen eu hunain yn dal heb gofnod ohonynt ar ôl cyrraedd Ewrop, a’r ofn yw bod llawer o’r rhain yn destun cam-fanteisio ac yn cael eu cam-drin at ddibenion rhywiol neu lafur.4
Amcangyfrifir bod tua 60% o blant yr amheuir eu bod ddioddefwyr masnachu mewn plant, sydd dan ofal awdurdodau lleol, yn mynd ar goll.5 Mae bron i ddwy ran o dair o’r plant a gaiff eu masnachu yn diflannu’n llwyr.6
Gwyddom pan fo plentyn yn mynd ar goll eu bod yn agored i ystod o beryglon emosiynol, corfforol a rhywiol: Mae’n bosib y byddant yn ymddwyn yn droseddol er mwyn goroesi neu oherwydd bod oedolion yn camfanteisio arnynt. Gwyddon fod plant sydd wedi mynd ar goll sawl gwaith a’r rhai sydd yn mynd ar goll am gyfnodau hwy mewn perygl uchel o ddioddef camfanteisio’n rhywiol ar blant a/neu gamfanteisio troseddol ac mae’n bosib y cânt eu masnachu pan fyddant ar goll.7
Yr hyn dylid ei wneud pan fo plentyn yn mynd ar goll
Ymdrechion rhesymol i geisio canfod lleoliad y plentyn
Bydd unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad yn cael ei ystyried fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau eu llesiant ai peidio. Fodd bynnag, dylid gwneud ymdrech resymol i geisio canfod a sefydlu lleoliad y plentyn cyn adrodd wrth yr heddlu bod plentyn ar goll.
- Ceisiwch gysylltu â’r plentyn a gwirio lle mae’r plentyn gyda’r bobl ac yn y llefydd lle credwch y gallai fod. Os daw’r plentyn i’r golwg a’i fod mewn lleoliad nad ystyrir ei fod yn beryglus iddo yna nid oes raid adrodd fod y plentyn ar goll.
- Os oes cynllun gofal a chymorth neu amddiffyn plant yn ei le ar gyfer y plentyn mae’n bosib y bydd camau a gytunwyd yn y cynllun i’w cymryd os na ellir sefydlu lleoliad y plentyn. Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau fod rhieni, gofalwyr neu ddarparwyr preswyl yn gyfarwydd â ac yn gallu dilyn y camau hyn. Dylai darparwyr preswyl sicrhau fod yr holl staff yn gyfarwydd ag unrhyw gynlluniau a chamau a gytunwyd partyhed plant unigol. Dylid hefyd gael trafodaeth â’r plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn deall y camau a gytunwyd parthed eu gofal.
- Os deuir o hyd i’r plentyn yn sgil ymdrechion i ganfod ei leoliad dylid gwneud trefniadau i’r plentyn ddychwelyd i le mae’n byw neu i leoliad arall y cytunir a fydd yn ddiogel iddo.
- Os oes yna unrhyw faterion diogelwch penodol neu anawsterau yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus o ran ei ddychwelyd, yna bydd yr Heddlu yn penderfynu a allant gynorthwyo yn y broses adfer.
Pan fo plentyn yn mynd ar goll
Person ar goll yw “Ystyrir unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau ei lesiant neu fel arall.”8
- Os nad yw plentyn yn lle y mae disgwyl iddo fod a bod pob ymdrech resymol a wnaed i gysylltu â’r plentyn neu ganfod ei leoliad wedi bod yn aflwyddiannus yna dylid adrodd am y plentyn hwnnw fel un ar goll wrth yr heddlu.
- Os bydd y person sy’n adrodd am y plentyn fel un ar goll yn ymwybodol o unrhyw fanylion a allai awgrymu fod y plentyn mewn peryg o niwed sylweddol, mae’n hollbwysig fod y manylion yma yn cael eu rhoi i’r Heddlu gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd wedi arwain at y pryderon hyn.
- Pan fo plentyn ag anghenion gofal a chymorth a gofnodwyd neu’n derbyn gofal yna dylid rhoi gwybodaeth eglur i rieni, gofalwyr a staff preswyl am eu cyfrifoldebau i adrodd plentyn fel un ar goll a’r camau rhesymol y gellid disgwyl iddynt eu gweithredu i gynorthwyo â’r ymdrech i ddod o hyd i’r plentyn.
- Byddai methu ag adrodd am blentyn sydd ar goll neu oedi amhriodol yn adrodd fod plentyn ar goll yn bryder diogelu ac fe allai awgrymu nad yw’r rhiant, gofalwr neu ddarparwr yn gallu diogelu’r plentyn.
- Pan benderfynir bod plentyn mewn gofal yn mynd ar goll (pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal) mae dyletswydd i:
- Hysbysu’r Heddlu
- Hysbysu’r rhieni ac unrhyw un arall sydd â Chyfrifoldeb Rhiant
- Hysbsyu’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am y plentyn, Gweithiwr Cymdeithasol
- Hysbysu Rheolwr Cofrestredig y cartref/Rheolwr ar ddyletswydd
- Rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol gael gofynion adrodd mewnol a gytunwyd yn eu lle gydag amserliniau a aliniwyd er mwyn uwchgyfeirio adroddiadau am blentyn ar goll o fewn yr asiantaeth.
- Mae’r canllaw ymarfer hwn yn cynnwys Ffurflen Gwybodaeth am Blentyn (gweler atodiadau) ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac y dylid eu llenwi ar gyfer plant unigol, eu cadw’n gyfredol a chynnwys ffotograff cyfredol. Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu ffurflen i’r gofalwr maeth neu’r darparwr lleoliad ar gyfer y plentyn a gofyn iddynt ddiwygio’r ffurflen yn dilyn unrhyw newid i’r wybodaeth.
- Dylid rhannu’r Ffurflen Gwybodaeth am Blentyn gyda’r Heddlu pan adroddir fod y plentyn ar goll. Bydd hyn yn helpu’r Heddlu i asesu risg y sefyllfa o fod ar goll fel y gallan nhw ymateb mewn modd gwybodus a phriodol. Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol gael sgwrs gyda’r plentyn am y wybodaeth a gofnodwyd yn y Ffurflen Gwybodaeth am Blentyn gan egluro o dan ba amgylchiadau y bydd y ffurflen yn cael ei rhannu â’r Heddlu ac eraill.
- Pan fydd yr Heddlu yn derbyn adroddiad fod plentyn ar goll byddant yn cwblhau asesiad risg ar sail yr wybodaeth a gânt ac unrhyw wybodaeth sydd eisoes ganddynt am y plentyn a bydd hyn yn llywio’u penderfyniad ynghylch ymateb priodol i’r adroddiad sydd wedi ei wneud. Mae’r Heddlu yn asesu achosion o bobl ar goll yn erbyn continwwm o risg (gweler atodiad).
- Tra bod y plentyn ar goll rhaid i bob asiantaeth sy’n ymwneud â’r achos gydgysylltu gyda’i gilydd a thrafod pa gamau parhaus a gaiff eu cymryd i geisio dod o hyd i’r plentyn. Mae rhannu gwybodaeth amserol ac effeithiol yn allweddol i ymateb diogelu cadarn.
- Mae gofyn i heddluoedd gyflwyno manylion achos i’r Swyddfa Pobl Coll (Missing People Bureau/MPB) ar gyfer pob: person sydd wedi ei adrodd ar goll yn y DG sydd yn dal i fod ar goll wedi 72 awr; tramorwyr a gaiff eu hadrodd ar goll yn y DG (drwy INTERPOL neu ryw ddull arall) a dinasyddion o’r SG sydd ar goll dramor.
Pan ddeuir o hyd i blentyn
- Pan ddeuir o hyd i blentyn sydd wedi bod ar goll (neb yn gwybod lle mae’r plentyn) bydd yr Heddlu yn penderfynu a oes angen iddynt gynnal Gwiriad Diogel ac Iach a chwblhau Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd (PPN) neu’r hyn sy’n cyfateb â hynny yn eu lle nhw, sy’n rhannu gwybodaeth ynghylch y plentyn a’r digwyddiad gydag asiantaethau partner perthnasol. Nid Cyfweliad Dychwelyd Adref yw Gwiriad Diogel ac Iach.
- Dylid hysbysu rhieni/gofalwyr, yr Heddlu, y Gwasanaethau Cymdeithasol ac unrhyw un arall a hysbyswyd fod y plentyn ar goll fod y plentyn wedi ei ganfod.
- Os nad oes unrhyw wybodaeth i awgrymu nad yw’n ddiogel i’r plentyn ddychwelyd adref neu i aros adref os ydynt eisoes wedi dychwelyd yno, dylai’r Heddlu roi gwybodaeth i’r plentyn ac i’w rieni/darparwyr gofal am ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth y gallant ei gyrchu yn lleol fel rhan o’r Gwiriad Diogel ac Iach os cynhelir un. Mae taflen wybodaeth i blant ac un i rieni/darparwyr gofal wedi ei gynnwys yn y canllaw ymarfer hwn (gweler atodiadau).
- Os bydd gan unrhyw asiantaeth bryderon am yr amgylchiadau pan aeth plentyn ar goll neu am allu’r rhiant neu ofalwr i gadw’r plentyn yn ddiogel heb gymorth, dylid atgyfeirio’r plentyn at y Gwasanaethau Cymdeithasol fel plentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth a hynny gyda chydsyniad y rhieni o dan Rhan 3 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) neu fel plentyn mewn peryg o dan Rhan 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
- Pan fo plentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei ganfod yna cyfrifoldeb yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gosod yw gwneud trefniadau ar gyfer trosglwyddo plentyn i’w breswylfa ef/hi. Gall yr heddlu gynorthwyo lle bo angen a dylid cytuno hyn â’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gosod.
- Lle bo’n briodol, dylid cludo’r plentyn i’w leoliad/lleoliad ac nid i neu heibio gorsaf yr heddlu, oni bai fod unrhyw wybodaeth sydd yn awgrymu nad yw dychwelyd yn syth yn fuddiol i’r plentyn (er enghraifft pe byddai dychwelyd i’r lleoliad yn codi pryderon am ei ddiogelwch/diogelwch neu lesiant). Nid oes grym awtomatig gan yr heddlu i ddal gafael ar y plentyn.
- Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol ond geisio cymorth yr heddlu i ddefnyddio ‘grymoedd diogelu’ mewn amgylchiadau eithriadol a lle nad oes digon o amser i wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Brys neu bod rhesymau eraill yn codi yn ymwneud â diogelwch ar unwaith y plentyn. Pan ddefnyddir Grymoedd Diogelu’r Heddlu, rhai i swyddog annibynnol o reng Arolygydd o leiaf weithredu fel y swyddog dynodedig. Gall y grymoedd amddiffyn bara hyd at 72 awr.
- Os credir fod plentyn sy’n derbyn gofal, plentyn sy’n destun Gorchymyn Amddiffyn Brys, neu fod plentyn sy’n cael ei amddiffyn gan yr heddlu wedi ei gymryd yn anghyfreithlon neu’n cael ei gadw’n anghyfreithlon rhag y person cyfrifol, yna o dan Adran 50 Deddf Plant 1989, gellir gwneud cais i’r Llys am Orchymyn Adfer.
Ymagwedd yn dilyn achos pan fo plentyn wedi bod ar goll
- Pan fo plentyn wedi bod ar goll a’i fod yn dychwelyd nôl i’w gartref neu leoliad mae’n bwysig eu bod yn cael eu gwneud mor gorfforol gysurus ag y bo modd a’u bod yn cael eu derbyn mewn modd sy’n eu gwneud i deimlo’n ddiogel.
- Mae plant wedi dweud fod ofni y bydd eu rhiant/rhieni neu ofalwr/ofalwyr yn grac gyda nhw pan fyddant yn dychwelyd wedi oedi eu penderfyniad i ddychwelyd adref neu i’w lleoliad.
- Mae gwybodaeth i rieni, gofalwyr a gweithwyr preswyl (gweler atodiadau) yn cynnwys gwybodaeth ar sut i ymateb pan fo plentyn yn dychwelyd adref.
- Os bydd angen triniaeth feddygol ar y plentyn, ei fod yn datgelu ei fod wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu gorfforol sydd angen archwiliad a/neu ei fod dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yna dylid mynd i’r afael â hyn yn unol â phrosesau amddiffyn plant a chyn y gofynnir cwestiynau manwl iddynt am yr hyn sydd wedi digwydd.
- Pan fyddant yn barod dylid rhoi’r cyfle i blant i siarad am eu profiad o fynd ar goll. Dylai hyn ddigwydd mewn lle ac ar adeg pan fo’r plentyn yn hapus i siarad.
- Gall y plentyn fod yn hapus i siarad gyda rhiant neu ofalwr a dylai rhieni/gofalwyr dderbyn manylion ynghylch sut i rannu unrhyw wybodaeth y gellid ei ddefnyddio i amddiffyn y plentyn neu blentyn arall rhag niwed yn y dyfodol.
- Dylai plant dderbyn gwybodaeth ynghylch lle y gallan nhw fynd i siarad yn gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn eu poeni nhw (gweler yr atodiad).
- Mewn rhai rhannau o Gymru mae gweithwyr o’r trydydd sector sy’n gweithio gyda phlant ar goll yn gweithio mewn partneriaeth â’r Heddlu. Maen nhw’n rhoi cymorth i blant sy’n ateb meini prawf gwasanaeth gyda Chyfweliadau Dychwelyd Adref ac ôl-ofal. Maen bosib y byddan nhw hefyd yn gweithio gyda phlentyn i leihau’r tebygolrwydd ohonynt yn mynd ar goll yn y dyfodol.
- Pan fo gwasanaeth o’r fath yn bwriadu gweithio gyda phlentyn byddan nhw’n hysbysu’r rhieni, gofalwyr neu leoliad preswyl ac yn rhoi gwybodaeth i’r plentyn am y gwasanaeth. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig i blant lle ceir risg a nodwyd o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn a/neu am fod y plentyn yn derbyn gofal.
Ymateb cymesur
Os yw plentyn yn wynebu risg sylweddol yn syth, cysylltwch â’r Heddlu ar 999.
- Os yw’r plentyn i’w weld yn ddiogel ac iach a lle nad oes unrhyw bryderon am allu y rhiant/rhieni neu ofalwr/gofalwyr i gadw’r plentyn yn ddiogel ac iach, dylid rhoi gwybodaeth am gymorth i’r plentyn a’r rhiant/gofalwr (gweler atodiadau).
- Os oes gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â’r plentyn bryderon y gallai fod gan y plentyn anghenion gofal a chymorth na all ei rieni/gofalwyr eu bodloni heb gymorth, dylai geisio cydsyniad y rhieni i atgyfeirio’r plentyn i wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yr awdurdod lleol cartref er mwyn asesu ei anghenion.
- Mae dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i Adrodd am Blant sydd mewn Perygl (Adran 130) dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae adran 130(4) yn diffinio “plentyn mewn perygl” yn blentyn sydd:
- a) yn profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu mewn perygl o wneud hynny; ac
- b) ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion hynny ai peidio).
Pan adroddir am blentyn dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.
- Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn penderfynu nad yw’r adroddiad/atgyfeiriad sydd wedi’i dderbyn yn ymwneud â phlentyn mewn perygl, byddant yn cofnodi hyn a’r rhesymau dros eu penderfyniad.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn byw yn ei ardal wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth o ran a ddylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i lywio penderfyniad ar ymateb ar gyfer y plentyn, gan gynnwys a ddylid cynnal Cyfarfod Strategaeth amlasiantaeth. Dylai cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol sy’n berthnasol i’r plentyn ac unrhyw Wasanaeth Troseddau Ieuenctid sy’n berthnasol i’r plentyn fod yn rhan o’r drafodaeth strategaeth amlasiantaeth. Ni ddylai fod unrhyw oedi mewn ymateb i wybodaeth am blentyn mewn perygl oherwydd nad yw’r plentyn yn byw yn ardal yr awdurdod lleol lle y nodwyd y mater diogelu.
- Pan fo cynllun gofal a chymorth, cynllun amddiffyn plant eisoes yn bod neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu ei fod mewn ystâd ddiogel, dylid cynnal trafodaeth strategaeth amlasiantaeth i benderfynu a oes angen Cyfarfod Strategaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun ar gyfer y plentyn.
- Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal Cyfarfod Strategaeth wedi’u nodi yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru a Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy'n Wynebu Risg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Lle bo’n bosibl, dylai fod gan yr ymarferwyr sy’n mynychu’r Cyfarfod Strategaeth wybodaeth uniongyrchol am y plentyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai rhai asiantaethau ddod i gysylltiad â phlentyn am y tro cyntaf o ganlyniad i’r materion a gaiff eu hystyried yn y Cyfarfod Strategaeth.
- Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ystyried a oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n awgrymu bod materion diogelu penodol eraill y mae angen eu hystyried yn ogystal â’r prif fater diogelu. Dylai’r Cyfarfod Strategaeth ganolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y broblem.
- Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol gyfeirio at Ganllawiau Ymarfer Cymru Gyfan a gyhoeddwyd gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant, Masnachu Plant a Chamfanteisio Troseddol ar Blant.
- Rhaid atgyfeirio pob plentyn y nodir ei bod yn bosib ei fod yn blentyn a fasnachwyd i’r gwasanaeth Independent Child Trafficking Advocates a bydd y gwasanaeth ITCA yn dyrannu cymorth uniongyrchol i’r achos ar gyfer y plenty neu gymorth trwy gyfrwng Cydlynydd Ymarfer Rhanbarthol yr ICTA. Gallai gwneud atgyfeiriad buan, ar ôl sefydlu pwy yw’r plentyn, gefnogi lleihad o ran cyfraddau mynd ar goll ac ailfasnachu.
- Rhaid i’r Cyfarfod Strategaeth arwain at gamau gweithredu cytunedig i lywio’r gwaith o ddatblygu neu adolygu cynllun amddiffyn plant a/neu ofal a chymorth i’r plentyn. Rhaid i’r cynllun hwn ystyried anghenion cyfannol y plentyn er mwyn hyrwyddo llesiant ac atal niwed yn y dyfodol ac ni ddylai ganolbwyntio ar reoli risg yn unig.
- Lle bo’r Cyfarfod Strategaeth yn arwain at gytundeb nad oes angen cynllun dylid cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn a dylid ystyried atgyfeirio at wasanaethau ataliol.
- Mae hawl gan blant a phobl ifanc i gael cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol (EPA) statudol lle y deuant yn blant sy’n derbyn gofal neu sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant sy’n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. Gwneir y ‘cynnig rhagweithiol’ yn uniongyrchol i’r plentyn gan y Gwasanaeth Eiriolaeth. Mae ‘cynnig rhagweithiol’ yn cynnwys rhannu gwybodaeth am hawl statudol plentyn mewn amgylchiadau penodol i dderbyn cymorth gan Wasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol. Dylid rhannu gwybodaeth â nhw sy’n cynnwys esboniad o rôl yr Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Mae hyn yn cynnwys yr hyn mae’n gall ei wneud a’r hyn nad yw’n gallu ei wneud, sut mae’n gweithredu ar sail eu dymuniadau a’u teimladau, ei annibyniaeth a sut bydd yn gweithio’n unig dros y plentyn/person ifanc, ei bolisi ar gyfrinachedd a niwed sylweddol – mae’n esbonio hawl statudol plant a phobl ifanc i gael cymorth i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn ogystal â’u hawl i wneud sylwadau neu gwynion.
Atodiadau
Continiwwm risg yr Heddlu ar gyfer asesu personau sydd ar goll
Dim peryg amlwg (absennol)
Does dim risg amlwg o niwed un ai i’r un dan sylw nac i’r cyhoedd.
Dylid cytuno ar gamau i ddod o hyd i’r sawl sydd dan sylw neu i gasglu gwybodaeth bellach gyda’r un a roddodd y wybodaeth gychwynnol a gosod amser i adolygu er mwyn ail-asesu’r risg.
Risg isel
Asesir y risg o niwed i’r sawl sydd dan sylw neu i’r cyhoedd fel tebygol ond ddim yn ddifrifol.
Dylid cynnal ymholiadau cymesur i sicrhau nad yw’r unigolyn wedi ei niweidio. Nid yw rhai Heddluoedd yn defnyddio’r categori hwn – gwiriwch gyda’ch llu.
Risg canolig
Asesir y risg o niwed i’r sawl sydd dan sylw neu i’r cyhoedd fe tebygol ond ddim yn ddifrifol.
Mae’r categori hwn yn gofyn am gamau ymateb gweithredol gan yr heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn dod o hyd i’r person coll a chefnogi’r person sy’n adrodd.
Risg uchel
Asesir y risg o niwed i’r sawl sydd dan sylw neu i’r cyhoedd fe tebygol iawn.
Bydd y categori hwn bron iawn wastad yn gofyn bo’r heddlu yn rhoi ei adnoddau ar waith – efallai y bydd oedi ar weithredu mewn rhai amgylchiadau eithriadol, megis wrth chwilio mewn dŵr neu ardaloedd coediog mewn tywyllwch. Rhaid bod aelod o uwch dîm rheoli’r heddlu yn rhan o broses archwilio’r ymholiadau cychwynnol a chymeradwyo’r lefelau staffio priodol. Dylai achosion o’r fath arwain at benodi swyddog ymchwilio (SY) a c o bosib USY, a chynghorydd chwilio yr heddlu (CChHedd).
Dylai fod strategaeth y wasg/cyfryngau a/neu gyswllt agos ag asiantaethau allanol. Dylid gweithredu cymorth i’r teulu pan yn briodol. Dylid hysbysu’r MPB ynghylch yr achos heb oedi diangen. Dylid hysbysu Gwasanaethau Plant ar unwaith os yw’r person o dan 18 oed.
Download Child Information Form
N.B. Details contained on this document are subject to regular reviews and updating by document holder
Mae’r sefydliadau hyn yno i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.
Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i gael help wrth ymdopi â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na wnaiff unrhyw un arall. Ni fyddant yn eich barnu a rhônt wybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth i chi newid pethau. Gallwch:
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae yno fel ffynhonnell gymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:
Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar yr hyn i’w wneud pan fo plentyn yn mynd ar goll
Mae plant a phobl ifanc yn mynd ar goll am lawer o resymau gwahanol. Bydd rhai plant yn mynd ar goll am fod rhywbeth wedi digwydd lle maen nhw’n byw, yn yr ysgol neu ymhlith eu ffrindiau neu am eu bod nhw’n teimlo nad oes neb yn gwrando ar eu safbwyntiau nhw ynghylch rhywbeth.
Bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i fynd ar goll gan blant eraill neu oedolion peryglus. Pan fo plant a phobl ifanc ar goll maen nhw mewn peryg o niwed difrifol a thra bydd y rhan fwyaf yn dychwelyd yn ddiogel mae’n bwysig gweithredu’n gyflym pan aiff plentyn ar goll.
Camau i’w cymryd pan fo plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll
- Ceisiwch gysylltu â’r plentyn neu berson ifanc eich hun a gwirio gyda phobl a llefydd lle credwch y gallai fod.
- Os na allwch ddod o hyd i’r plentyn neu berson ifanc ffoniwch yr heddlu ar 101. Peidiwch oedi cyn cysylltu â’r heddlu os oes gennych unrhyw bryderon am y plentyn neu berson ifanc a’ch bod yn credu y gallai niwed ddod i’w rhan.
- Dylech roi’r holl wybodaeth y gallwch i’r heddlu ynghylch ymddangosiad y plentyn, gyda phwy y gallai fod, y llefydd y bydd yn mynd iddynt a sut hwyliau oedd arno pan aeth ar goll. Rhaid i chi hefyd rannu unrhyw wybodaeth neu bryderon sydd gennych oherwydd eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol neu am fod rheswm dros wneud i chi feddwl eu bod mewn perygl nawr.
- Os oes gweithiwr cymdeithasol gan y plentyn neu berson ifanc dylech ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y plentyn wedi mynd ar goll.
- Os oes cynllun eisoes wedi ei gytuno am yr hyn dylid ei wneud os yw plentyn yn mynd ar goll dylech ddilyn camau gweithredu’r cynllun hwnnw.
Pan fo plentyn neu berson ifanc yn dychwelyd adref
Bydd yr heddlu yn cynnal ‘Gwiriad Diogel ac Iach’ er mwyn gwneud yn siŵr fod y plentyn neu berson ifanc yn iawn.
Pan fod plentyn neu berson ifanc yn dychwelyd adref ar ôl bod ar goll neu’n cael eu dychwelyd gan yr heddlu mae’n bwysig gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a chysurus.
Mae’n bosib y byddant yn ei chael hi’n haws siarad â rhywun heblaw eu rhiant neu ynghylch pam yr aethon nhw ar goll neu beth sydd wedi digwydd iddynt tra roeddent ar goll.
Os bydd plant neu bobl ifanc yn teimlo y bydd eu rhieni yn grac ac wedi ypsetio gyda nhw mi allai hyn eu hannog nhw i fynd ar goll eto neu i’w hoedi nhw rhag dychwelyd os ânt ar goll eto.
Bydd taflen gan yr heddlu i’ch plentyn/i’r plentyn dan eich gofal gyda gwybodaeth am y gwasanaethau y gallan nhw eu defnyddio er mwyn siarad â rhywun am unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Cael help a chymorth
O bryd i’w gilydd mae angen help a chymorth ar lawer o blant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
Os carech chi gael peth cymorth ar gyfer eich plentyn a’ch teulu yna gallwch gael gwybod am wasanaethau lleol drwy gysylltu â:
Family Point Cymru
www.familypoint.cymru/families-first-wales/
0300 222 57 57
DEWIS Cymru
www.dewis.wales/children-and-families
Gall yr heddlu neu rywun arall sy’n gweithio gyda’ch plentyn gynnig gwneud atgyfeiriad i’r gwasanaethau cymdeithasol fel y gallan nhw benderfynu os oes anghenion gofal a chymorth ar eich plentyn a pha help y gallan nhw ei gynnig i chi a’ch plentyn.
Os bydd yr heddlu neu rywun arall yn poeni fod eich plentyn mewn peryg o niwed byddan nhw yn adrodd am hyn wrth y gwasanaethau cymdeithasol fel y gallan nhw asesu os oes angen rhoi cymorth ar waith i gadw’ch plentyn yn ddiogel.
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar yr hyn i’w wneud pan fo plentyn yn mynd ar goll
Bydd rhai plant yn mynd ar goll am fod rhywbeth wedi digwydd lle maen nhw’n byw, yn yr ysgol neu ymhlith eu ffrindiau neu am eu bod nhw’n teimlo nad oes neb yn gwrando ar eu safbwyntiau nhw ynghylch rhywbeth.
Bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i fynd ar goll gan blant eraill neu oedolion peryglus.
Pan fo plant a phobl ifanc ar goll maen nhw mewn peryg o niwed difrifol a thra bydd y rhan fwyaf yn dychwelyd yn ddiogel mae’n bwysig gweithredu’n gyflym pan aiff plentyn ar goll.
Mae plant sy’n derbyn gofal deirgwaith yn fwy tebygol o fynd ar goll na’u cyfoedion.
Mae Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches a phlant a gaiff eu masnachu yn arbennig o debygol o fynd ar goll ac yn llawer llai tebygol o gael eu canfod ar ôl mynd ar goll.
Camau i’w cymryd pan fo plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll
- Ceisiwch gysylltu â’r plentyn neu berson ifanc eich hun a gwirio gyda phobl a llefydd lle credwch y gallai fod.
- Os na allwch ganfod y plentyn neu berson ifanc ffoniwch yr heddlu ar 101 a chysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Peidiwch oedi cyn cysylltu â’r heddlu os oes gennych unrhyw bryderon am y plentyn neu berson ifanc a’ch bod yn credu y gallai niwed ddod i’w rhan.
- Dylech roi copi wedi ei ddiweddaru i’r heddlu o’r Ffurflen Gwybodaeth am Blentyn ar gyfer y plentyn neu berson ifanc.
- Rhaid i chi hefyd rannu unrhyw wybodaeth neu bryderon sydd gennych oherwydd y modd yr oed dy plentyn yn ymddwyn neu deimlo cyn mynd ar goll neu am eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol neu am fod rheswm dros wneud i chi feddwl eu bod mewn perygl nawr.
- Rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y plentyn wedi mynd ar goll.
- Os oes cynllun eisoes wedi ei gytuno am yr hyn dylid ei wneud os yw plentyn yn mynd ar goll dylech ddilyn camau gweithredu’r cynllun hwnnw.
- Cytunwch gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu drefniant ar gyfer dychweliad y plentyn pan ddeuir o hyd iddo.
Pan fo plentyn neu berson ifanc yn dychwelyd i’w leoliad
- Bydd yr heddlu yn cynnal ‘Gwiriad Diogel ac Iach’ er mwyn gwneud yn siŵr fod y plentyn neu berson ifanc yn iawn.
- Pan fod plentyn neu berson ifanc yn dychwelyd adref ar ôl bod ar goll neu’n cael eu dychwelyd gan yr heddlu mae’n bwysig gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a chysurus.
- Os bydd plant neu bobl ifanc yn teimlo y bydd eu rhieni yn grac ac wedi ypsetio gyda nhw mi allai hyn eu hannog nhw i fynd ar goll eto neu i’w hoedi nhw rhag dychwelyd os ânt ar goll eto.
- Dylid rhoi neu atgoffa plentyn neu berson ifanc o’r wybodaeth ynghylch eu hawl i gael Gwasanaeth Eiriol Proffesiynol Annibynnol.
- Mae’n bosib y cynigir cyfweliad dychwelyd adref i’r plentyn neu berson ifanc a chymorth dilynol gan eiriolwr neu weithiwr plant coll sy’n gweithio gyda’r heddlu a byddant yn derbyn gwybodaeth ynghylch hyn.
- Dylid rhoi ystyriaeth i’r angen i adolygu unrhyw gynllun gofal a chymorth, cynlluniau diogelu plant a chynlluniau gosod ar gyfer y plentyn ar ôl iddynt fynd ar goll.
Certain frontline staff who encounter a potential victim modern slavery or human trafficking have a duty to notify the Home Office under Section 52 of the Modern Slavery Act 2015 This requirement applies to the Police, Local Authorities, the National Crime Agency and the Gangmasters Labour and Abuse Authority. Supporting guidance and resources have been issued in relation to the Modern Slavery Act 2015.
1https://www.app.college.police.uk/app-content/major-investigation-and-public-protection/missing-persons/#definition-of-missing
2 The Children’s Society (2011), Make Runaways Safe, p.7
3https://www.childrenssociety.org.uk/sites/default/files/appg-absent-inquiry-final-report-may-2016.pdf
4 K. Shavev Greene and F. Toscano, 2016, Summit report: best practices and key challenges on interagency cooperation to safeguard unaccompanied children from going missing https://researchportal.port.ac.uk/portal/files/3591754/report_SUMMIT_Safeguarding_Unaccompanied_Migrant_Minors_1mrt1.pdf
5 House of Commons, Home Affairs Committee (2009) The Trade in Human Beings: Human Trafficking in the UK Sixth Report of Session 2008–09, Volume 1 London: House of Commons
6 CEOP (2010) Strategic Threat Assessment: Child Trafficking in the UK London: CEOP
7Report from the joint inquiry into children who go missing from care, The All Party Parliamentary Group for Runaway and Missing Children and Adults and the All Party Parliamentary Group for Looked After Children and Care leavers, (2012) www.childrenssociety.org.uk/what-we-do/policy-and-lobbying/parliamentary-work/appg-inquiry-children-who-go-missing-or-run-away-c.
8See 1 above
9See 1 above
Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF