Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Adnabod Plant a all fod angen Ymyriadau Cynnar am eu bod yn Agored i Gamdriniaeth ac Esgeulustod

Does dim modd i neb ragweld yn hawdd sut y gall dioddef niwed effeithio ar blant unigol. Mae gwytnwch ac wynebu profiadau andwyol mewn plentyndod, yn ogystal â’r gefnogaeth sydd ar gael i’r plentyn oll yn chwarae rhan.

Serch hynny, gall plant ymddwyn mewn modd sy’n dangos eu bod yn fregus, ac os na chaiff hyn ei drin, gallai waethygu i’r pwynt lle gall y plentyn neu’r person ifanc ddioddef neu fod yn debygol o ddioddef niwed arwyddocaol.

Dyma’r mathau o ymddygiad:

  • ymddygiad sy’n tarfu neu sy’n wrthgymdeithasol
  • cael ei fwlio neu fwlio eraill
  • presenoldeb gwael yn yr ysgol
  • troseddu, neu fod mewn perygl o droseddu
  • bod ag iechyd cyffredinol gwael
  • bod yn bryderus, yn isel neu â phroblemau iechyd meddwl eraill
  • camddefnyddio cyffuriau neu alcohol
  • bod a pherthynas arbennig o heriol gyda rhieni neu ymddangos yn anarferol o annibynnol ar ei rieni
  • profi anawsterau yn y cartref, megis camdriniaeth ddomestig, rhieni yn camddefnyddio sylweddau neu yn dioddef o broblemau iechyd meddwl

Gall rhai grwpiau o blant a phobl ifanc fod yn fwy agored na’u cyfoedion i brofi niwed os na fyddant yn derbyn help cynnar. Ymysg grwpiau bregus mae’r rhai:

  • a waharddwyd o’r ysgol
  • sydd ag anghenion addysgol arbennig
  • yn anabl
  • sydd mewn gofal
  • sydd yn gadael neu’n paratoi i adael gofal
  • sydd yn ofalwyr ifanc
  • sydd yn rhieni ifanc (neu ar fin dod yn rhieni ifanc)
  • sydd yn cael problemau gyda thai (DfE, 2018)

Gwybodaeth bellach:

Cymru Well Wales: Profiadau Andwyol mewn Plentyndod (PAP) http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/88524 (safle wedi’i harchifo; Cyrchwyd 29/7/2019. Mae’r safle newydd yn awr ar https://phw.nhs.wales/topics/adverse-childhood-experiences (Cyrchwyd 29/07/2019)

Adran Addysg (DfE) (2018) Working together to safeguard children: a guide to inter-agency working to safeguard and promote the welfare of children (PDF). Llundain: Adran Addysg (DfE).

Early Intervention Foundation (EIF) (2018) About early intervention: why it matters. https://www.eif.org.uk/why-it-matters (Cyrchwyd 29/07/2019)