Wrth gynllunio ymyriadau cynnar, dylid ystyried y canlynol:
- mae ymwneud cynnar yn hanfodol er mwyn creu perthynas o ymddiriedaeth;
- sicrhau bod ymyriadau yn cael eu cyflwyno mewn ffordd gydweithredol, gan dynnu rhieni i mewn yn gynnar i’w hannog i helpu i ddatblygu atebion i’w problemau eu hunain;
- sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei gyflwyno mewn modd y gall rhieni ymwneud ag ef. Er enghraifft, defnyddio’u hesiamplau eu hunain o heriau bod yn rhieni mewn trafodaeth, a’u hannog i rannu syniadau a gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio iddynt hwy;
- byddwch yn ymwybodol y gall rhai llefydd gael eu gweld mewn goleuni negyddol ac y gall rhieni boeni ynghylch y stigma cymdeithasol posib o fod yno;
- mae cyfathrebu clir gyda rhieni yn bwysig fel eu bod yn deall beth a ddisgwylir o’r gwasanaeth a bod ganddynt wybodaeth gywir;
- gwnewch yn siwr fod gwybodaeth yn hygyrch i rieni heb fawr o lythrennedd, sydd ag anawsterau dysgu, neu sydd â Chymraeg/Saesneg yn ail iaith neu’n iaith ychwanegol iddynt;
- ystyriwch faterion cludiant, er enghraifft, byw yng nghefn gwlad lle gall fod yn anodd cael cludiant cyhoeddus;
- annog perchenogaeth bersonol o amcanion magu plant, gan nodi ‘enillion sydyn’ i ennyn hyder, ac adolygu cynnydd yn rheolaidd.
(Addaswyd o Raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017 https://gweddill.gov.wales/docs/dsjlg/publications/cyp/170419-families-first-programme-guidance-en.pdf (Cyrchwyd 29/07/2019)