Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Hwyluso Ymwneud Teuluol

Wrth gynllunio ymyriadau cynnar, dylid ystyried y canlynol:

  • mae ymwneud cynnar yn hanfodol er mwyn creu perthynas o ymddiriedaeth;
  • sicrhau bod ymyriadau yn cael eu cyflwyno mewn ffordd gydweithredol, gan dynnu rhieni i mewn yn gynnar i’w hannog i helpu i ddatblygu atebion i’w problemau eu hunain;
  • sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei gyflwyno mewn modd y gall rhieni ymwneud ag ef. Er enghraifft, defnyddio’u hesiamplau eu hunain o heriau bod yn rhieni mewn trafodaeth, a’u hannog i rannu syniadau a gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio iddynt hwy;
  • byddwch yn ymwybodol y gall rhai llefydd gael eu gweld mewn goleuni negyddol ac y gall rhieni boeni ynghylch y stigma cymdeithasol posib o fod yno;
  • mae cyfathrebu clir gyda rhieni yn bwysig fel eu bod yn deall beth a ddisgwylir o’r gwasanaeth a bod ganddynt wybodaeth gywir;
  • gwnewch yn siwr fod gwybodaeth yn hygyrch i rieni heb fawr o lythrennedd, sydd ag anawsterau dysgu, neu sydd â Chymraeg/Saesneg yn ail iaith neu’n iaith ychwanegol iddynt;
  • ystyriwch faterion cludiant, er enghraifft, byw yng nghefn gwlad lle gall fod yn anodd cael cludiant cyhoeddus;
  • annog perchenogaeth bersonol o amcanion magu plant, gan nodi ‘enillion sydyn’ i ennyn hyder, ac adolygu cynnydd yn rheolaidd.

(Addaswyd o Raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017 https://gweddill.gov.wales/docs/dsjlg/publications/cyp/170419-families-first-programme-guidance-en.pdf (Cyrchwyd 29/07/2019)