Yr egwyddor gyffredinol yw y dylai rhieni neu ofalwyr yr oedolyn neu’r plentyn/plant dan sylw a’r oedolyn neu’r plentyn/plant lle bo hynny’n briodol, gael gwybod am yr honiad cyn gynted â phosibl ond dim ond ar ôl trafod gyda Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu.
Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i ddiogelu’r plentyn neu’r oedolyn y dylid ei rhannu. Cytunir yn y cyfarfod Strategaeth neu Drafodaeth Strategaeth pwy fydd yn gwneud hyn a pha wybodaeth y gellir ei rhannu.
Gallai enghreifftiau lle nad yw’n briodol rhoi gwybod i rieni, gofalwyr, oedolion neu blentyn/plant neu eu cynrychiolydd ar unwaith gynnwys lle mae’r honiad yn erbyn aelod o’r teulu, neu os gallai ymchwiliad yr Heddlu gael ei lesteirio drwy roi gwybod i’r rhiant/gofalwr, y plentyn, yr oedolyn sy’n wynebu risg perygl neu ei gynrychiolydd. Yn yr achosion hyn, rhaid cadarnhau’r amseroedd ar gyfer dweud wrth y rhieni neu’r gofalwyr gyda’r ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol perthnasol a’r Heddlu.