Rhannu Cymraeg English

Gwahaniaethu rhwng Cwynion, Pryderon, Honiadau ac Arferion Gwael

Adref 5

Efallai na fydd yn glir a yw digwyddiad/mater yn gyfystyr â chŵyn, pryder neu honiad sy’n gofyn am atgyfeiriad o dan weithdrefnau Adran 5.
Mae creu cysondeb yn y maes hwn yn dechrau gyda gwella eglurder o ran beth yw honiad, pryder neu gŵyn. Mae cael dealltwriaeth glir o beth yw pob un o’r rhain yn cefnogi arferion diogelu gwell

Mae’n bwysig cofio, i fod yn honiad sy’n cael ei ystyried yn y broses hon, rhaid bod y digwyddiad honedig (boed wedi digwydd yng nghyd-destun rôl neu fywyd preifat yr unigolyn) yn ddigon difrifol neu arwyddocaol i awgrymu bod niwed neu gamdriniaeth wedi cael ei achosi neu y gallai gael ei achosi, neu fod yr ymddygiad honedig yn dangos y gallai’r unigolyn beri risg o niwed i oedolion sy’n wynebu risg/plant (neu fel arall yn bodloni’r meini prawf uchod).

Gall materion nad ydynt yn cyrraedd y trothwy hwn fod yn faterion ymddygiad neu ddisgyblu a dylai cyflogwyr fynd i’r afael â nhw gan ddefnyddio eu gweithdrefnau sefydliadol priodol. Mae gwahaniaethau clir rhwng honiad a phryder am ansawdd gofal neu ymarfer neu gŵyn.

Mae categoreiddio clir yn galluogi ymatebion cymesur a chyfreithlon.

Cwynion

Mynegiadau o anfodlonrwydd ynghylch ymddygiad neu ddarpariaeth gwasanaeth. Maent yn cael eu rheoli drwy drefn gwyno’r sefydliad.

Pryderon

Arsylwadau neu wybodaeth sy’n nodi problemau posibl gydag ymarfer neu ymddygiad a allai awgrymu risg sy’n dod i’r amlwg.

Honiadau

Gwybodaeth sy’n bodloni un neu fwy o’r Meini Prawf Trothwy sy’n awgrymu niwed neu risg o niwed.

Beth yw hyn?

Cwyn

Gellir diffinio cwyn fel

Mynegiant o anfodlonrwydd sy’n cael ei wneud ar lafar neu’n ysgrifenedig. Gallai fod yn wrthwynebiad i rywbeth sy’n cael ei ystyried yn annheg, yn annerbyniol neu sydd ddim yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir.

Pryder

Gellir codi pryderon mewn perthynas ag ymarfer.

Gallant fod yn uniongyrchol gysylltiedig ag ansawdd y gofal a ddarperir neu gellir eu codi weithiau mewn perthynas â gwybodaeth neu arsylwadau o ymarfer gwael. Efallai y bydd digwyddiadau ym mywyd preifat unigolyn hefyd sy’n peri pryder sylweddol a allai godi amheuaeth ynghylch addasrwydd unigolyn i fod yn ei rôl.

Honiad

Diffinnir honiad yng nghyd-destun gweithdrefnau diogelu Adran 5 isod.

Ymddwyn mewn ffordd yn ei fywyd personol sy’n dangos risg bosibl i oedolyn sy’n wynebu risg neu blant yn ei waith cyflogedig/rôl gwirfoddoli.

Rhaid i’r wybodaeth a adroddir fodloni’r trothwy sydd wedi’i ddiffinio’n glir uchod i gael ei hystyried yn ‘honiad’ mewn perthynas â diogelu.