Cymraeg English

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae gan rai cyflogwyr a sefydliadau ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio at y DBS.
Pan fo’r ddau amod ar gyfer y ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio yn cael eu bodloni, dylai asiantaethau cyflogi neu wirfoddol ymgynghori â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chyrff proffesiynol perthnasol eraill ynghylch a oes gofyn gwneud atgyfeiriad.. Pan fydd risg yn cael ei nodi gyda chanlyniad di-sail, gellir gwneud atgyfeiriad i’r DBS, ac mae’n bosibl y bydd angen gwneud hynny o hyd.

Pwy sydd â Dyletswydd Gyfreithiol i atgyfeirio

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ddarparwyr gweithgareddau a reoleiddir a chyflenwyr personél yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr wneud atgyfeiriad gwahardd i’r DBS.

Darparwr gweithgareddau a reoleiddir:

Cyflogwyr neu fudiadau gwirfoddol sy’n gyfrifol am reoli gweithgarwch a reoleiddir ac sy’n gwneud trefniadau i bobl weithio mewn gweithgaredd a reoleiddir

Cyflenwyr personél:

Busnes cyflogi, asiantaeth gyflogi neu sefydliad addysgol sy’n gwneud trefniadau gydag unigolyn gyda’r bwriad o gyflenwi’r unigolyn hwnnw i gyflogwyr i ymgymryd â gweithgaredd rheoleiddiedig

Pryd y mae’n rhaid i chi atgyfeirio.

Amod un:

Rydych yn diddymu caniatâd yn barhaol i berson ymgymryd â gweithgaredd rheoledig (fel y’i diffinnir gan y DBS), neu rydych yn symud y person i faes gwaith arall nad yw’n weithgaredd rheoledig. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle byddech wedi cymryd y camau uchod, ond bod y person wedi ymddiswyddo, ymddeol neu adael eich sefydliad cyn i chi allu gweithredu.

Amod dau:

Rydych chi’n meddwl bod yr unigolyn naill ai:

Mae’r ddyletswydd i atgyfeirio yn berthnasol hyd yn oed pan fydd atgyfeiriad wedi’i wneud at gorff arall fel yr heddlu neu dîm diogelu awdurdod lleol. Mae’r ddyletswydd i atgyfeirio hefyd yn berthnasol p’un a yw corff arall wedi atgyfeirio at y DBS mewn perthynas â’r un unigolyn ai peidio.

Mae unigolyn sydd o dan ddyletswydd i atgyfeirio ac sy’n methu â gwneud hynny heb gyfiawnhad rhesymol yn cyflawni trosedd a gallai gael ei erlyn.

Mae rhagor o wybodaeth am wneud atgyfeiriadau, gan gynnwys dyletswydd gyfreithiol, meini prawf ymddygiad a niwed perthnasol, ar gael yn: Gwneud atgyfeiriadau gwahardd i’r DBS - GOV.UK (www.gov.uk)