Os yw’r Egwyddorion Diogelu gael eu defnyddio ar y rheng flaen, yna mae angen i ymarferwyr feddu ar y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol a chael eu cefnogi gan reolwyr a byrddau diogelu rhanbarthol. Dylai'r rheolwyr hyn ddarparu amgylchedd gwaith sy'n ffafriol i gymhwyso'r egwyddorion diogelu i ymarfer. Hynny yw, mae angen iddynt greu amgylchedd sy'n arwain at system ddiogelu effeithiol. Ar ben hynny, dylai staff fod â’r wybodaeth a'r sgiliau i gymhwyso’r egwyddorion diogelu a'r rhai sy'n sail i system ddiogelu effeithiol, i ymarfer.
Egwyddorion Ymdrin ag Achosion Unigol y Canllawiau sy’n sail i systemau diogelu effeithiol. Mae’r rhain yn disgrifio'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i systemau diogelu os yw ymarferwyr i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Egwyddor 1:
Mae canlyniadau personol yr unigolyn yn hysbys ac mae’n gallu eu cyfathrebu'n effeithiol;
Egwyddor 2:
Rhoddir anghenion yr unigolyn yn gyntaf, fel bod yr oedolyn yn derbyn y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arno cyn i broblem waethygu.
Egwyddor 3:
Mae'r holl weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad ag oedolion sy’n wynebu risg wedi'u hyfforddi ac yn effro i'w hanghenion gan gynnwys unrhyw gamdriniaeth bosibl neu a amheuir, neu berygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Egwyddor 4:
Mae pob gweithiwr proffesiynol yn rhannu gwybodaeth briodol mewn modd amserol, ac mae ganddynt fynediad uniongyrchol at gyngor i drafod unrhyw bryderon am unigolyn.
Egwyddor 5:
Gall pob gweithiwr proffesiynol ddefnyddio ei farn arbenigol i roi anghenion a chanlyniadau personol yr unigolyn yng nghanol y system fel y gellir dod o hyd i'r ateb cywir ar ei gyfer.
Egwyddor 6:
Mae'r holl weithwyr proffesiynol yn gweithio mewn ffordd amlasiantaethol a chydweithredol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr oedolyn sy’n wynebu risg ac adolygu’n rheolaidd y cynnydd yn erbyn y canlyniadau a nodir mewn cynlluniau gofal a chymorth.