Diffiniadau o oedolion mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod
Adref 1
Dylai pob ymarferydd fod yn ymwybodol o'r diffiniad o gamdriniaeth ac esgeulustod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 , yn ogystal ag:
Awgrymiadau Ymarfer: arwyddion a dangosyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod
Mae hyn yn hanfodol er mwyn cyfathrebu a mynd i'r afael â phryderon am niwed mewn modd ystyrlon.
Mae a126(1) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio oedolyn sy’n wynebu risg fel oedolyn sydd:
- Yn profi neu mewn perygl o brofi camdriniaeth neu esgeulustod,
- Yn meddu ar anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio), ac
- O ganlyniad i'r anghenion hynny, na all amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu’r perygl ohonynt.
Mae'n bwysig nodi:
- mae defnyddio'r term ' ‘wynebu risg’ yn golygu nad oes angen i gamdriniaeth neu esgeulustod gwirioneddol ddigwydd cyn i ymarferwyr ymyrryd, yn hytrach dylid ystyried ymyriadau cynnar i amddiffyn oedolyn sy’n wynebu risg er mwyn atal camdriniaeth ac esgeulustod gwirioneddol;
- mae'r tri amod sy'n angenrheidiol i ddangos bod oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn sicrhau bod amddiffyniad yn cael ei ddarparu i'r rheini ag anghenion gofal a chymorth sydd hefyd angen camau i sicrhau diogelwch yr unigolyn yn y dyfodol oherwydd nad yw'n gallu amddiffyn ei hun;
- bod camdriniaeth oedolion yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’ yn aml yn gysylltiedig â’u hamgylchiadau yn hytrach na nodweddion y bobl sy'n profi niwed;1
- gall y risg o gamdriniaeth neu esgeulustod fod yn ganlyniad un pryder neu ganlyniad i ffactorau cronnus.
Camdriniaeth
Gall camdriniaeth:
- fod yn gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (yn cynnwys lladrad, twyll, pwysau ynghylch arian, camddefnyddio arian)
- ddigwydd mewn unrhyw leoliad, p'un ai mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw le arall.
Awgrymiadau Ymarfer: Arwyddion a Dangosyddion Posibl o Gamdriniaeth ac Esgeulustod mewn Oedolyn sy’n wynebu risg
Esgeulustod
Mae hyn yn disgrifio methiant i ddiwallu anghenion sylfaenol unigolyn, anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol, sy'n debygol o arwain at amhariad ar lesiant yr unigolyn (er enghraifft, nam ar iechyd yr unigolyn). Gall ddigwydd mewn ystod o leoliadau, fel annedd breifat, darpariaeth breswyl neu ofal dydd.
Dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol y gallai'r ymddygiadau canlynol roi'r oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod:
Mae'n bwysig nodi NAD yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Yn hytrach, fe'i darperir i gynnig rhai awgrymiadau i ymarferwyr a allai eu rhybuddio am gamdriniaeth neu esgeulustod posibl mewn oedolyn.
Awgrymiadau Ymarfer: Arwyddion a Dangosyddion Posibl o Gamdriniaeth ac Esgeulustod mewn Oedolyn sy’n wynebu risg
1Safeguarding Adults at Risk Definitions Ann Craft Trust