Bydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn gyfrifol am fonitro a hwyluso cwynion a wneir mewn perthynas â phroses Adran 5. Gellir ystyried sail cwynion ynghylch proses Honiadau Adran 5 yn unig; ni fydd y rhain yn galluogi apeliadau yn erbyn penderfyniadau ynghylch canlyniadau.
Mewn amgylchiadau lle daw gwybodaeth sylweddol i’r amlwg yn dilyn y casgliad a’r penderfyniad ynghylch y canlyniad ym mhroses Adran 5, a allai effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad ynghylch y canlyniad, Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol fydd yn penderfynu a ddylid cynnull cyfarfod strategaeth Adran 5 i adolygu gwybodaeth newydd ac adolygu’r penderfyniad gwreiddiol ynghylch y canlyniad. Rhaid cofnodi’r rhesymeg a’r penderfyniadau yn yr amgylchiadau hyn.
Rhaid i’r rheini sy’n dymuno cyflwyno sylwadau wneud hynny’n brydlon, ac nid y tu allan i 12 wythnos ar ôl gorffen y broses/canlyniad.